9. Dadl Fer: Bod yn ddoeth o ran tlodi tanwydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:45, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod wedi rhoi munud i David Melding, a fydd yn siarad ar ôl i mi orffen, gyda'ch caniatâd?

Mae aelwyd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd os yw'n gwario 10 y cant neu fwy o'i hincwm ar gostau ynni. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yn awr, rwyf hefyd yn cofio gwaith caled y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yn y trydydd Cynulliad, a gadeiriwyd gennyf fi hefyd, i sefydlu'r gynghrair tlodi tanwydd a'r siarter tlodi tanwydd, ac i sicrhau cytundeb gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd bryd hynny. Yn 2010, nododd Llywodraeth Cymru ei strategaeth i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru ar bob aelwyd erbyn 2018. Rwy'n ymddiheuro i'r sector, sydd wedi gwneud cymaint o waith yn sicrhau bod gennyf wybodaeth ar gyfer yr araith hon, fod cyn lleied o Aelodau'r Cynulliad yn dangos parch tuag atynt drwy aros i wrando ar eu pryderon dwfn a chyfiawn.

Lai na 10 mis o'r dyddiad targed ar gyfer dileu tlodi tanwydd yng Nghymru, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron 300,000 o aelwydydd yng Nghymru—23 y cant o'r cyfanswm—yn byw mewn tlodi tanwydd, yn methu fforddio gwresogi eu cartref yn ddigonol neu mewn dyled lyffetheiriol i'w cyflenwr ynni. Mae'n amlwg, felly, nad yw strategaeth y Llywodraeth hon wedi cyflawni ei hamcanion. 

Mae amcanion strategaeth tlodi tanwydd 2010 yn dal i fod yn berthnasol wrth gwrs. Mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn lleihau effaith tlodi tanwydd ar aelwydydd ac yn gweithio i ddileu tlodi tanwydd. Mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn creu swyddi a chyfleoedd busnes gwyrdd, ac mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn lleihau aneffeithlonrwydd ynni yn y sector domestig. Fodd bynnag, mae llawer o'r mecanweithiau a'r camau sydd wedi'u cynnwys yn strategaeth tlodi tanwydd 2010 wedi dyddio neu heb fod yn gymwys mwyach. Er bod cynlluniau Nyth ac Arbed yn helpu, nid yw'r rhain ar eu pen eu hunain yn ddigon i ddatrys y broblem. Croesewir cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig y bydd yn rhyddhau £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i gynyddu effeithlonrwydd ynni hyd at 25,000 o gartrefi incwm isel yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd i ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd o 6,250 o gartrefi bob blwyddyn, ac os yw'r cynlluniau yn mynd i barhau i helpu niferoedd tebyg bob blwyddyn, byddai'n cymryd 48 o flynyddoedd i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru.

Cyflwyno mesuryddion deallus ym Mhrydain yw'r gwaith uwchraddio mwyaf a wnaed i'n seilwaith ynni mewn cenhedlaeth. Mae pob aelwyd ar draws Prydain yn gymwys i gael mesurydd deallus gan eu cyflenwr ynni heb unrhyw gost ychwanegol. Bydd uwchraddio'r system ynni yn digido'r farchnad adwerthu ynni, yn rhoi diwedd ar filiau amcangyfrifedig ac yn darparu gwybodaeth am gostau ynni mewn punnoedd a cheiniogau. Mae mesuryddion deallus yn rhoi gwybodaeth mewn amser real bron iawn ar y defnydd o ynni, biliau ynni cywir a'r wybodaeth i weld a yw pobl ar y tariff gorau neu a ddylent newid i dariff neu gyflenwr gwahanol. Pan fydd y seilwaith cenedlaethol wedi'i gwblhau, bydd mesuryddion deallus yn gwbl ryngweithredol rhwng cyflenwyr, a fydd yn golygu y gellir newid yn gyflymach ac yn haws. Fodd bynnag, bydd cyflwyno hyn yn galw am gysylltedd symudol ym mhob man, rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae yn ei ddarparu.

Dylai mesuryddion deallus wneud talu ymlaen llaw mor hawdd â thalu wrth fynd ar ffôn symudol. Gall defnyddwyr newid yn hawdd rhwng opsiynau talu, heb fod angen newid eu mesurydd deallus presennol. Gall defnyddwyr weld yn hwylus faint o gredyd sydd ganddynt yn weddill ar eu dangosydd yn y cartref, bydd taliadau atodol yn fwy hyblyg, a bydd pobl yn talu'r un cyfraddau â phawb arall, oherwydd mae mesuryddion deallus yn dileu'r angen i dalu ymlaen llaw fod yn ddrutach na thariffau eraill. Fodd bynnag, mae cyflenwyr ynni wedi tynnu sylw at yr angen i'r cap ar bris ynni manwerthol gael ei lunio mewn ffordd sy'n eu galluogi i barhau i gyflwyno mesuryddion deallus.