– Senedd Cymru am 6:45 pm ar 14 Chwefror 2018.
Os ydych yn mynd, a wnewch chi adael y Siambr, os gwelwch yn dda? Nid esgus i gael sgwrs ar y ffordd allan yw hyn. Iawn. Symudwn ymlaen at y ddadl fer, a galwaf ar Mark Isherwood i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. Mark.
Diolch. A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod wedi rhoi munud i David Melding, a fydd yn siarad ar ôl i mi orffen, gyda'ch caniatâd?
Mae aelwyd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd os yw'n gwario 10 y cant neu fwy o'i hincwm ar gostau ynni. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni yn awr, rwyf hefyd yn cofio gwaith caled y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd yn y trydydd Cynulliad, a gadeiriwyd gennyf fi hefyd, i sefydlu'r gynghrair tlodi tanwydd a'r siarter tlodi tanwydd, ac i sicrhau cytundeb gan Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd bryd hynny. Yn 2010, nododd Llywodraeth Cymru ei strategaeth i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru ar bob aelwyd erbyn 2018. Rwy'n ymddiheuro i'r sector, sydd wedi gwneud cymaint o waith yn sicrhau bod gennyf wybodaeth ar gyfer yr araith hon, fod cyn lleied o Aelodau'r Cynulliad yn dangos parch tuag atynt drwy aros i wrando ar eu pryderon dwfn a chyfiawn.
Lai na 10 mis o'r dyddiad targed ar gyfer dileu tlodi tanwydd yng Nghymru, mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod bron 300,000 o aelwydydd yng Nghymru—23 y cant o'r cyfanswm—yn byw mewn tlodi tanwydd, yn methu fforddio gwresogi eu cartref yn ddigonol neu mewn dyled lyffetheiriol i'w cyflenwr ynni. Mae'n amlwg, felly, nad yw strategaeth y Llywodraeth hon wedi cyflawni ei hamcanion.
Mae amcanion strategaeth tlodi tanwydd 2010 yn dal i fod yn berthnasol wrth gwrs. Mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn lleihau effaith tlodi tanwydd ar aelwydydd ac yn gweithio i ddileu tlodi tanwydd. Mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn creu swyddi a chyfleoedd busnes gwyrdd, ac mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn lleihau aneffeithlonrwydd ynni yn y sector domestig. Fodd bynnag, mae llawer o'r mecanweithiau a'r camau sydd wedi'u cynnwys yn strategaeth tlodi tanwydd 2010 wedi dyddio neu heb fod yn gymwys mwyach. Er bod cynlluniau Nyth ac Arbed yn helpu, nid yw'r rhain ar eu pen eu hunain yn ddigon i ddatrys y broblem. Croesewir cyhoeddiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig y bydd yn rhyddhau £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i gynyddu effeithlonrwydd ynni hyd at 25,000 o gartrefi incwm isel yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd i ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018. Mae hyn yn cyfateb i gyfartaledd o 6,250 o gartrefi bob blwyddyn, ac os yw'r cynlluniau yn mynd i barhau i helpu niferoedd tebyg bob blwyddyn, byddai'n cymryd 48 o flynyddoedd i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru.
Cyflwyno mesuryddion deallus ym Mhrydain yw'r gwaith uwchraddio mwyaf a wnaed i'n seilwaith ynni mewn cenhedlaeth. Mae pob aelwyd ar draws Prydain yn gymwys i gael mesurydd deallus gan eu cyflenwr ynni heb unrhyw gost ychwanegol. Bydd uwchraddio'r system ynni yn digido'r farchnad adwerthu ynni, yn rhoi diwedd ar filiau amcangyfrifedig ac yn darparu gwybodaeth am gostau ynni mewn punnoedd a cheiniogau. Mae mesuryddion deallus yn rhoi gwybodaeth mewn amser real bron iawn ar y defnydd o ynni, biliau ynni cywir a'r wybodaeth i weld a yw pobl ar y tariff gorau neu a ddylent newid i dariff neu gyflenwr gwahanol. Pan fydd y seilwaith cenedlaethol wedi'i gwblhau, bydd mesuryddion deallus yn gwbl ryngweithredol rhwng cyflenwyr, a fydd yn golygu y gellir newid yn gyflymach ac yn haws. Fodd bynnag, bydd cyflwyno hyn yn galw am gysylltedd symudol ym mhob man, rhywbeth y mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae yn ei ddarparu.
Dylai mesuryddion deallus wneud talu ymlaen llaw mor hawdd â thalu wrth fynd ar ffôn symudol. Gall defnyddwyr newid yn hawdd rhwng opsiynau talu, heb fod angen newid eu mesurydd deallus presennol. Gall defnyddwyr weld yn hwylus faint o gredyd sydd ganddynt yn weddill ar eu dangosydd yn y cartref, bydd taliadau atodol yn fwy hyblyg, a bydd pobl yn talu'r un cyfraddau â phawb arall, oherwydd mae mesuryddion deallus yn dileu'r angen i dalu ymlaen llaw fod yn ddrutach na thariffau eraill. Fodd bynnag, mae cyflenwyr ynni wedi tynnu sylw at yr angen i'r cap ar bris ynni manwerthol gael ei lunio mewn ffordd sy'n eu galluogi i barhau i gyflwyno mesuryddion deallus.
Mae'r gost i GIG Cymru o drin pobl sy'n cael eu gwneud yn sâl am eu bod yn byw mewn cartref oer a llaith oddeutu £67 miliwn bob blwyddyn. Dengys tystiolaeth gan National Energy Action y gall cartref oer waethygu anhwylderau arthritig a chyflyrau gwynegol, a gwneud pobl yn fwy tueddol o gwympo. Gall apwyntiadau meddygon teulu o ganlyniad i heintiau'r llwybr anadlol gynyddu hyd at 19 y cant am bob gostyngiad o 1 radd yn y tymheredd o dan 5 gradd canradd. Ac nid problemau iechyd corfforol yn unig sy'n deillio o gartrefi oer. Mae unigolion sy'n byw mewn cartrefi gyda thymheredd ystafell wely o 15 gradd canradd 50 y cant yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl—yng nghyd-destun y ddadl flaenorol—na'r rheini sy'n byw gyda thymheredd o 21 gradd canradd. Gyda'r galw presennol ar y GIG yng Nghymru yn uwch nag erioed o'r blaen, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â chartrefi oer. Nid yn unig y bydd dileu tlodi tanwydd yn arwain at boblogaeth iachach, ac felly'n lleihau'r galw ar GIG Cymru, ond bydd hefyd yn cyfrannu at y targedau datgarboneiddio a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn gwybod mai ynni a ddefnyddir yn y cartref yw mwy na chwarter yr ynni a ddefnyddir yng Nghymru. Defnyddir mwy o ynni mewn tai na thrafnidiaeth ffyrdd neu ddiwydiant ac felly, mae tai yn gyfle pwysig i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau. Mae strategaeth ddiwygiedig gydag amcanion uchelgeisiol yn hanfodol bellach. Gallai gwell inswleiddio, goleuadau ac offer mwy deallus a systemau gwresogi mwy deallus dorri 0.6 tunnell o garbon deuocsid oddi ar allyriadau aelwyd bob blwyddyn, a bydd yn arbed £184 ar gyfartaledd i ddeiliaid tai bob blwyddyn. Bydd gwella'r stoc dai felly yn torri allyriadau yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae NEA Cymru wedi galw am dargedau newydd i wella cartrefi i safon effeithlonrwydd ynni gofynnol tystysgrif perfformiad ynni 'C', a chrybwyllais hynny wrth Ysgrifennydd y Cabinet y mis diwethaf.
Mae Calor Gas wedi datgan eu bod hwy hefyd yn gwbl gefnogol i gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi a darparu gwybodaeth i bobl i'w helpu i wneud hyn. Fodd bynnag, roeddent yn galw am ddylunio tystysgrifau perfformiad ynni yn fwy deallus fel y prif fesur sgorio effeithlonrwydd ynni, sydd wedi'i osod yn amlwg ar y dudalen gyntaf ac yn seiliedig ar gostau rhedeg yn hytrach nag unedau ynni. Maent yn datgan felly fod hwn yn ddull annibynadwy o fesur effeithlonrwydd ynni, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt ar y grid nwy. Yn lle hynny, maent yn cefnogi'r defnydd o system sgorio sy'n seiliedig ar ynni, gan fabwysiadu'r dull a ddefnyddir mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill sydd hefyd wedi gorfod cydymffurfio â'r gyfarwyddeb perfformiad ynni adeiladau. Mae Calor yn tynnu sylw at yr angen am raglen wedi'i thargedu ar gyfer ardaloedd gwledig, sydd â lefelau uwch o dlodi tanwydd yn draddodiadol, gydag aelwydydd gwledig yn llai tebygol o fod ar y grid nwy ac yn byw mewn adeiladau llai effeithlon o ran y defnydd o ynni, gyda waliau a/neu loriau solet er enghraifft, neu'n defnyddio systemau gwresogi nad ydynt yn draddodiadol. Fodd bynnag, roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2016 ar ddyfodol ei chynllun effeithlonrwydd ynni Nyth yn anwybyddu anghenion cymunedau gwledig i raddau helaeth, gyda fawr o ymrwymiad i ganiatáu i anheddau gwledig mewn cymunedau llai nad ydynt ar y grid nwy i elwa. Mae Calor yn tynnu sylw at yr angen i edrych ar dai gwledig ar wahân i dai trefol, er mwyn annog arloesi parhaus a thanwyddau a thechnolegau carbon isel, ac i sicrhau bod rheoliadau adeiladu cyfredol yn cael eu gorfodi'n briodol.
Cefais y pleser, gydag eraill, o ymweld â'r Ganolfan Adeiladu Naturiol yn Llanrwst, Conwy, sy'n cynnig arbenigedd cynhwysfawr mewn perthynas â hen adeiladau a chynhyrchion adeiladu ecolegol, gan gynnwys inswleiddio priodol ar gyfer anheddau gwledig nad ydynt yn draddodiadol. Mae angen inni feddwl y tu allan i'r blwch ac edrych ar atebion amgen arloesol o'r fath os ydym yn mynd i gyrraedd yr anghenion cudd hyn a'r ardaloedd lle mae lefelau tlodi tanwydd yn dal i fod yn llawer iawn rhy uchel.
Mae 'Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010' yn nodi:
'Dim ond drwy ddwyn ynghyd amcanion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gallwn wella lles deiliaid tai a chymunedau yng Nghymru.'
Yr hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig, gyda thargedau uchelgeisiol a buddsoddiad er mwyn dileu tlodi tanwydd yng Nghymru fel mater o gyfiawnder cymdeithasol unwaith ac am byth. Ydy, mae hyn yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, ond mae hefyd yn ymwneud â mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, yr effaith ar salwch meddwl, anllythrennedd ariannol a dyled, a llawer mwy. Mae hefyd yn ymwneud ag arbed arian i'r pwrs cyhoeddus. Fel y dywed Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru achub bywydau drwy weithredu canllawiau NICE ar fynd i'r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf.
Fel y dywedodd Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad dair blynedd yn ôl,
'dylai tlodi tanwydd gael proffil uwch yng nghynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru am fod cartref cynnes yn angen dynol sylfaenol'
Ac fel y mae Age Cymru wedi dweud, mae llawer o'r mecanweithiau a'r camau a geir yn... Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 wedi dyddio neu heb fod yn gymwys mwyach, gan ychwanegu dyma'r adeg iawn i Lywodraeth Cymru ddiweddaru ei Strategaeth Tlodi Tanwydd, gyda rhaglen ac amserlenni clir, sylfaen dystiolaeth gredadwy a thargedau newydd uchelgeisiol ar gyfer tlodi tanwydd wedi'u gwreiddio yn y cyflenwad yn hytrach na bod yn gaeth i newidiadau ym mhrisiau ynni.
Rhaid inni roi camau atal ac ymyrryd yn fuan ar waith, gan roi ystyr go iawn i ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a than arweiniad dinasyddion. Rhaid cefnogi gwasanaethau cynghori annibynnol ar gyfer pobl mewn tlodi tanwydd, ac achub y rhai sydd mewn argyfwng uniongyrchol nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth bresennol, a dywedaf hynny'n ddoeth oherwydd mae gennyf berthnasau agos yn darparu'r cyngor hwnnw ac yn ymdrin bob dydd â phobl mewn argyfwng a ddylai fod wedi cael cymorth yn gynharach.
Rhaid croesawu cyfraniadau gan gwmnïau ynni sy'n cynnig cyngor a chymorth ar gyfer pobl sy'n cael trafferth gyda'u biliau ynni. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried mesurau i atal miliynau o bobl rhag mynd i drafferthion ariannol drwy filiau ynni annheg. Bydd yr argymhellion newydd ganddynt yn helpu pobl agored i niwed i elwa ar ynni rhatach drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni symud pobl agored i niwed yn awtomatig ar dariff diogelu arbennig wedi'i osod gan Ofgem a fydd yn eu diogelu rhag cynnydd annheg yn y pris, ac fe lansiwyd ymgynghoriad ddoe ddiwethaf i holi barn pobl ar newid y gyfraith i ganiatáu i wybodaeth gael ei rhannu o dan amodau wedi'u rheoli rhwng awdurdodau cyhoeddus a chyflenwyr ynni. Byddai hyn yn nodi cwsmeriaid sy'n derbyn budd-daliadau penodol y wladwriaeth sy'n dynodi y gallent fod mewn perygl o dlodi tanwydd a sicrhau eu bod yn cael eu symud yn awtomatig i gap tariff diogel Ofgem.
Anogir Llywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion canlynol: dynodi effeithlonrwydd ynni domestig yn flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol allweddol sy'n ganolog i'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi Cymru, datblygu strategaeth newydd hirdymor i fynd i'r afael â thlodi tanwydd fel mater o frys a mater o gyfiawnder cymdeithasol, gosod targed tlodi tanwydd newydd er mwyn gwella cartrefi i safon effeithlonrwydd ynni ofynnol, wedi'i gefnogi gan y data sydd ei angen arnom i yrru strategaeth newydd uchelgeisiol, ac i sicrhau bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru yn amlinellu sut y bwriadant fynd i'r afael â chartrefi oer a thlodi tanwydd yn eu cynlluniau llesiant lleol ac integreiddio hyn yng ngwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'n bryd ymdrin â thlodi tanwydd yn fwy deallus. Diolch yn fawr.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Mark Isherwood am roi munud i mi. Rwyf am ganolbwyntio ar y potensial sydd gennym i ysgogi mwy o newid eto drwy tai cymdeithasol. Mae yna arferion da, arferion gorau yn wir, yn dod yn amlwg yn y sector hwn eisoes, oherwydd gallant adeiladu ar raddfa fawr. Felly, gallwn edrych ar gartrefi a allai gynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio. Daw hynny â thlodi tanwydd i ben yn y cartrefi hynny. Mae'n syfrdanol. Mae cyflawni hynny bellach ar garreg ein drws, os caf ddefnyddio ymadrodd priodol. Mae angen inni ddatblygu marchnad ar gyfer y safonau hyn o ran cartrefi cymdeithasol ac adeiladu oddi ar y safle ac adeiladu modiwlaidd. Mae'r pethau hyn yn aml yn ymarferol iawn o ran defnyddio'r deunyddiau diweddaraf ar gyfer cymaint â phosibl o effeithlonrwydd tanwydd. Felly, rydym eisoes yn gweld cynnydd da o ran beth y gall y sector tai cymdeithasol ei wneud i ni. Rwyf eisiau gweld mwy o hynny fel ein bod yn sbarduno newid a'i fod wedyn yn ymledu o ran y farchnad dai yn gyffredinol, ond hefyd o ran beth y gall cymdeithasau tai yn ei wneud ar ôl-ffitio ac yna datblygu a helpu i ddatblygu marchnad fwy helaeth yno, oherwydd mae'r hyn a ddywedodd Mark yn iawn—nid ydym yn mynd i gyflawni ein targed i ddileu tlodi tanwydd, felly credaf fod angen inni ystyried gosod un newydd a dileu tlodi tanwydd cyn gynted â phosibl, ond bwrw ymlaen â'r gwariant angenrheidiol yn ein rhaglen, oherwydd daw â budd aruthrol i gynifer o bobl, gan fod yn byw mewn cartref oer yn ddrwg iawn i chi.
Diolch. A gaf fi alw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mark Isherwood am gyflwyno'r ddadl bwysig hon lle y cododd rai pwyntiau pwysig iawn. Mae'n rhoi cyfle i mi ddisgrifio beth rydym yn ei wneud fel Llywodraeth a hefyd mae'n ein hatgoffa o'r angen i gynnal camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Gall byw mewn cartref oer effeithio'n sylweddol ar iechyd, cyrhaeddiad addysgol a lles cymdeithasol ac economaidd yn gyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hollol glir yn ein hymrwymiad i wneud popeth yn ein gallu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.
Mae gan Gymru beth o'r stoc adeiladau hynaf a lleiaf effeithlon yn thermol yn Ewrop, felly mae'n cymryd mwy o ynni i gadw cartrefi'n gynnes, gan godi'r costau i ddefnyddwyr ynni. Mae gwella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai'n hollbwysig, felly, i leihau'r galw, gan leihau biliau ynni a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar fod yn fwy deallus mewn perthynas â thlodi tanwydd, ac mae yna lawer o ffyrdd y gallwn ddangos dull mwy deallus o weithredu. Mae mesuryddion deallus yn heb ei ddatganoli, ond rydym yn parhau i weithio gyda Smart Energy GB, Ofgem a chyflenwyr ynni i sicrhau bod anghenion defnyddwyr Cymru yn cael eu hystyried wrth gyflwyno mesuryddion deallus. Mae ymchwil Smart Energy GB yn dangos bod 86 y cant o'r aelwydydd sy'n meddu ar fesuryddion deallus yn newid eu hymddygiad i arbed ynni a bydd hyn yn bwysig os ydym i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer dileu tlodi tanwydd a hefyd, wrth gwrs, ar gyfer cyflawni ein targedau datgarboneiddio uchelgeisiol.
Mae mesuryddion deallus yn arwyddocaol, ond ceir mentrau eraill wrth gwrs sy'n rhaid inni eu mabwysiadu yng Nghymru os ydym am ddileu tlodi tanwydd. Er enghraifft, bydd Cymru'n cymryd rhan yn rhaglen Dyfodol Teg y Catapwlt Systemau Ynni. Nod y rhaglen yw deall sut i gynllunio a darparu gwasanaethau i ddefnyddwyr sy'n wynebu anawsterau, gydag incwm aelwyd isel a chost uchel ynni digonol ar gyfer eu cartrefi. Bydd y ffocws cychwynnol ar ardal rhaglen systemau deallus a gwres Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond bydd yn lledaenu i ardaloedd eraill wrth i raglen Dyfodol Teg datblygu.
Y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â thlodi tanwydd yw gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl ar incwm isel neu bobl sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Rydym yn gwneud hyn i bob pwrpas drwy raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys Arbed a Nyth. Cartrefi Clyd Nyth yw ein cynllun tlodi tanwydd a arweinir gan y galw lle y gall aelwydydd gael cyngor diduedd am ddim a chymorth i'w helpu i leihau eu biliau ynni. Darperir cyngor mewn meysydd megis arbed ynni a dŵr a thariffau ynni. Mae Nyth hefyd yn darparu cyngor ac atgyfeiriadau ar faterion ehangach, gan gynnwys gwiriadau hawl i fudd-daliadau a chyngor ar ddyledion, gan gynnwys rheoli arian.
Mae Ofgem wedi nodi cynnydd yn nifer y cwsmeriaid yng Nghymru sy'n newid eu cyflenwr ynni. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod nifer y bobl a newidiodd eu darparwr ynni yn 2016 yn uwch yng Nghymru na gweddill Prydain. Dyma pam y mae'r gwasanaeth cyngor drwy raglen Cartrefi Clyd mor bwysig, a byddwn yn adeiladu ar hyn drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd newydd i sicrhau bod mwy o gartrefi yn cael y fargen orau, gydag arbedion posibl o dros £200 y flwyddyn. Hoffwn weld cyflenwyr ynni hefyd yn gwneud mwy i sicrhau bod cwsmeriaid ar y tariffau mwyaf priodol, yn hytrach na gordalu'n barhaus ar dariffau safonol amrywiol.
I'r rhai sydd fwyaf mewn angen, ac yn byw yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran eu defnydd o ynni, mae Nyth hefyd yn cynnig pecyn wedi'i deilwra o gamau am ddim ar gyfer gwella ynni yn y cartref, megis uwchraddio a gosod boeleri a gwresogyddion. Ochr yn ochr â Nyth, mae gennym ein cynllun tlodi tanwydd ar sail ardal, Cartrefi Clyd Arbed. Mae Arbed yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae'r cynllun yn anelu at leihau ôl troed carbon stoc dai bresennol Cymru ac wrth wneud hynny, yn galluogi aelwydydd i wrthsefyll costau ynni cynyddol.
Rwyf wedi cynnal ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu ar dlodi tanwydd gyda rhaglen Cartrefi Clyd newydd sy'n dechrau yn y gwanwyn, a bydd yn rhedeg yn hirdymor. Croesawodd Mark Isherwood y ffaith y byddwn yn buddsoddi cyfanswm o £104 miliwn yng nghynllun Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru, a bydd hyn yn ein galluogi i wella cartrefi hyd at 25,000 o bobl ar incwm isel neu sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Bydd ein buddsoddiad hefyd yn denu hyd at £24 miliwn o gyllid UE yn ogystal â chyllid rhwymedigaeth cwmni ynni y DU.
Ers 2011, rydym wedi buddsoddi dros £240 miliwn ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni dros 45,000 o gartrefi pobl ar incwm isel neu sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Ceir rhai pryderon y gallai aelwydydd lle y ceir tlodi tanwydd ac aelwydydd agored i niwed gael eu gadael ar ôl gyda'r chwyldro deallus sy'n digwydd ym maes ynni. Unwaith eto, dyma pam y mae'r cyngor a gynigir i ddeiliaid tai yn ein rhaglen Cartrefi Clyd mor bwysig. Mae Nyth wedi darparu cyngor a chymorth diduedd i dros 98,000 o aelwydydd ers 2011.
Ac er fy mod yn falch o ymrwymiad parhaus y Llywodraeth hon i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, mae rhagor i'w wneud wrth gwrs. Ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig lle y nodais fy uchelgais i gynyddu maint a graddfa ôl-osodiadau effeithlonrwydd ynni preswyl yng Nghymru. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi ein huchelgais i leihau allyriadau yng Nghymru 80 y cant erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd ein nod, mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym y bydd angen i allyriadau o adeiladau fod yn agos at sero. Ar hyn o bryd, mae cartrefi'n cyfrannu tua 15 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru. Bydd sicrhau lleihad mewn allyriadau ar y raddfa hon yn galw am wneud cartrefi ac adeiladau newydd yn llawer mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni. Bydd hefyd yn galw am offer sy'n defnyddio ynni'n effeithlon a newid yn y ffordd rydym yn cynhesu ein hadeiladau.
Yn hanfodol, bydd hefyd yn golygu cynnydd dramatig yn y gwaith ôl-osod effeithlonrwydd ynni ar gartrefi sy'n bodoli eisoes. Bydd oddeutu 70 y cant o gartrefi a fydd yn bodoli yn y 2050au wedi'u hadeiladu cyn 2000. Felly, mae fy swyddogion yn datblygu opsiynau ar gyfer ymyriadau newydd, gan archwilio sut y gellid sefydlu, gweithredu a chyllido gwasanaethau i ddarparu nid yn unig manteision i bobl mewn tlodi tanwydd, ond manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach i Gymru hefyd, gan gynnwys datgarboneiddio. Diolch.
Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.