9. Dadl Fer: Bod yn ddoeth o ran tlodi tanwydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:50 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:50, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r gost i GIG Cymru o drin pobl sy'n cael eu gwneud yn sâl am eu bod yn byw mewn cartref oer a llaith oddeutu £67 miliwn bob blwyddyn. Dengys tystiolaeth gan National Energy Action y gall cartref oer waethygu anhwylderau arthritig a chyflyrau gwynegol, a gwneud pobl yn fwy tueddol o gwympo. Gall apwyntiadau meddygon teulu o ganlyniad i heintiau'r llwybr anadlol gynyddu hyd at 19 y cant am bob gostyngiad o 1 radd yn y tymheredd o dan 5 gradd canradd. Ac nid problemau iechyd corfforol yn unig sy'n deillio o gartrefi oer. Mae unigolion sy'n byw mewn cartrefi gyda thymheredd ystafell wely o 15 gradd canradd 50 y cant yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau iechyd meddwl—yng nghyd-destun y ddadl flaenorol—na'r rheini sy'n byw gyda thymheredd o 21 gradd canradd. Gyda'r galw presennol ar y GIG yng Nghymru yn uwch nag erioed o'r blaen, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â chartrefi oer. Nid yn unig y bydd dileu tlodi tanwydd yn arwain at boblogaeth iachach, ac felly'n lleihau'r galw ar GIG Cymru, ond bydd hefyd yn cyfrannu at y targedau datgarboneiddio a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.

Rydym yn gwybod mai ynni a ddefnyddir yn y cartref yw mwy na chwarter yr ynni a ddefnyddir yng Nghymru. Defnyddir mwy o ynni mewn tai na thrafnidiaeth ffyrdd neu ddiwydiant ac felly, mae tai yn gyfle pwysig i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau. Mae strategaeth ddiwygiedig gydag amcanion uchelgeisiol yn hanfodol bellach. Gallai gwell inswleiddio, goleuadau ac offer mwy deallus a systemau gwresogi mwy deallus dorri 0.6 tunnell o garbon deuocsid oddi ar allyriadau aelwyd bob blwyddyn, a bydd yn arbed £184 ar gyfartaledd i ddeiliaid tai bob blwyddyn. Bydd gwella'r stoc dai felly yn torri allyriadau yn ogystal â helpu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae NEA Cymru wedi galw am dargedau newydd i wella cartrefi i safon effeithlonrwydd ynni gofynnol tystysgrif perfformiad ynni 'C', a chrybwyllais hynny wrth Ysgrifennydd y Cabinet y mis diwethaf.

Mae Calor Gas wedi datgan eu bod hwy hefyd yn gwbl gefnogol i gynyddu effeithlonrwydd ynni cartrefi a darparu gwybodaeth i bobl i'w helpu i wneud hyn. Fodd bynnag, roeddent yn galw am ddylunio tystysgrifau perfformiad ynni yn fwy deallus fel y prif fesur sgorio effeithlonrwydd ynni, sydd wedi'i osod yn amlwg ar y dudalen gyntaf ac yn seiliedig ar gostau rhedeg yn hytrach nag unedau ynni. Maent yn datgan felly fod hwn yn ddull annibynadwy o fesur effeithlonrwydd ynni, yn enwedig mewn ardaloedd nad ydynt ar y grid nwy. Yn lle hynny, maent yn cefnogi'r defnydd o system sgorio sy'n seiliedig ar ynni, gan fabwysiadu'r dull a ddefnyddir mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill sydd hefyd wedi gorfod cydymffurfio â'r gyfarwyddeb perfformiad ynni adeiladau. Mae Calor yn tynnu sylw at yr angen am raglen wedi'i thargedu ar gyfer ardaloedd gwledig, sydd â lefelau uwch o dlodi tanwydd yn draddodiadol, gydag aelwydydd gwledig yn llai tebygol o fod ar y grid nwy ac yn byw mewn adeiladau llai effeithlon o ran y defnydd o ynni, gyda waliau a/neu loriau solet er enghraifft, neu'n defnyddio systemau gwresogi nad ydynt yn draddodiadol. Fodd bynnag, roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn 2016 ar ddyfodol ei chynllun effeithlonrwydd ynni Nyth yn anwybyddu anghenion cymunedau gwledig i raddau helaeth, gyda fawr o ymrwymiad i ganiatáu i anheddau gwledig mewn cymunedau llai nad ydynt ar y grid nwy i elwa. Mae Calor yn tynnu sylw at yr angen i edrych ar dai gwledig ar wahân i dai trefol, er mwyn annog arloesi parhaus a thanwyddau a thechnolegau carbon isel, ac i sicrhau bod rheoliadau adeiladu cyfredol yn cael eu gorfodi'n briodol.

Cefais y pleser, gydag eraill, o ymweld â'r Ganolfan Adeiladu Naturiol yn Llanrwst, Conwy, sy'n cynnig arbenigedd cynhwysfawr mewn perthynas â hen adeiladau a chynhyrchion adeiladu ecolegol, gan gynnwys inswleiddio priodol ar gyfer anheddau gwledig nad ydynt yn draddodiadol. Mae angen inni feddwl y tu allan i'r blwch ac edrych ar atebion amgen arloesol o'r fath os ydym yn mynd i gyrraedd yr anghenion cudd hyn a'r ardaloedd lle mae lefelau tlodi tanwydd yn dal i fod yn llawer iawn rhy uchel.

Mae 'Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010' yn nodi:

'Dim ond drwy ddwyn ynghyd amcanion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y gallwn wella lles deiliaid tai a chymunedau yng Nghymru.'

Yr hyn sydd ei angen yn awr yw strategaeth tlodi tanwydd ddiwygiedig, gyda thargedau uchelgeisiol a buddsoddiad er mwyn dileu tlodi tanwydd yng Nghymru fel mater o gyfiawnder cymdeithasol unwaith ac am byth. Ydy, mae hyn yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, ond mae hefyd yn ymwneud â mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, yr effaith ar salwch meddwl, anllythrennedd ariannol a dyled, a llawer mwy. Mae hefyd yn ymwneud ag arbed arian i'r pwrs cyhoeddus. Fel y dywed Cynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru achub bywydau drwy weithredu canllawiau NICE ar fynd i'r afael â marwolaethau ychwanegol y gaeaf.

Fel y dywedodd Sefydliad Bevan a Sefydliad Joseph Rowntree wrth Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad dair blynedd yn ôl,

'dylai tlodi tanwydd gael proffil uwch yng nghynllun gweithredu ar gyfer trechu tlodi Llywodraeth Cymru am fod cartref cynnes yn angen dynol sylfaenol'

Ac fel y mae Age Cymru wedi dweud, mae llawer o'r mecanweithiau a'r camau a geir yn... Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 wedi dyddio neu heb fod yn gymwys mwyach, gan ychwanegu dyma'r adeg iawn i Lywodraeth Cymru ddiweddaru ei Strategaeth Tlodi Tanwydd, gyda rhaglen ac amserlenni clir, sylfaen dystiolaeth gredadwy a thargedau newydd uchelgeisiol ar gyfer tlodi tanwydd wedi'u gwreiddio yn y cyflenwad yn hytrach na bod yn gaeth i newidiadau ym mhrisiau ynni.

Rhaid inni roi camau atal ac ymyrryd yn fuan ar waith, gan roi ystyr go iawn i ddulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a than arweiniad dinasyddion. Rhaid cefnogi gwasanaethau cynghori annibynnol ar gyfer pobl mewn tlodi tanwydd, ac achub y rhai sydd mewn argyfwng uniongyrchol nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y ddarpariaeth bresennol, a dywedaf hynny'n ddoeth oherwydd mae gennyf berthnasau agos yn darparu'r cyngor hwnnw ac yn ymdrin bob dydd â phobl mewn argyfwng a ddylai fod wedi cael cymorth yn gynharach.

Rhaid croesawu cyfraniadau gan gwmnïau ynni sy'n cynnig cyngor a chymorth ar gyfer pobl sy'n cael trafferth gyda'u biliau ynni. Mae Llywodraeth y DU yn ystyried mesurau i atal miliynau o bobl rhag mynd i drafferthion ariannol drwy filiau ynni annheg. Bydd yr argymhellion newydd ganddynt yn helpu pobl agored i niwed i elwa ar ynni rhatach drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni symud pobl agored i niwed yn awtomatig ar dariff diogelu arbennig wedi'i osod gan Ofgem a fydd yn eu diogelu rhag cynnydd annheg yn y pris, ac fe lansiwyd ymgynghoriad ddoe ddiwethaf i holi barn pobl ar newid y gyfraith i ganiatáu i wybodaeth gael ei rhannu o dan amodau wedi'u rheoli rhwng awdurdodau cyhoeddus a chyflenwyr ynni. Byddai hyn yn nodi cwsmeriaid sy'n derbyn budd-daliadau penodol y wladwriaeth sy'n dynodi y gallent fod mewn perygl o dlodi tanwydd a sicrhau eu bod yn cael eu symud yn awtomatig i gap tariff diogel Ofgem.

Anogir Llywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion canlynol: dynodi effeithlonrwydd ynni domestig yn flaenoriaeth seilwaith cenedlaethol allweddol sy'n ganolog i'r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi Cymru, datblygu strategaeth newydd hirdymor i fynd i'r afael â thlodi tanwydd fel mater o frys a mater o gyfiawnder cymdeithasol, gosod targed tlodi tanwydd newydd er mwyn gwella cartrefi i safon effeithlonrwydd ynni ofynnol, wedi'i gefnogi gan y data sydd ei angen arnom i yrru strategaeth newydd uchelgeisiol, ac i sicrhau bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru yn amlinellu sut y bwriadant fynd i'r afael â chartrefi oer a thlodi tanwydd yn eu cynlluniau llesiant lleol ac integreiddio hyn yng ngwaith y byrddau partneriaeth rhanbarthol. Mae'n bryd ymdrin â thlodi tanwydd yn fwy deallus. Diolch yn fawr.