Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Chwefror 2018.
Gadewch i mi ddweud hyn wrth yr Aelod, Lywydd: nid oes unrhyw wahaniaeth o gwbl rhyngom o ran ein huchelgais i weld canran y gwariant ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru sy'n mynd i gwmnïau Cymreig yn tyfu ac yn tyfu ar draws y gwahanol gyfleoedd sydd yno. Rydym yn adolygu dyfodol y polisi caffael yng Nghymru, yn enwedig yng ngoleuni Brexit, i weld a fydd mwy o gyfleoedd i wneud hynny yn y dyfodol. Rwy'n fwy na pharod i ofyn i'r grŵp o bobl sy'n gyfrifol am hynny, a'r grŵp rhanddeiliaid sy'n eu cynorthwyo, i edrych a fyddai targedau yn gymorth yn y broses honno. Mae ganddynt ran i'w chwarae, o bosibl, ond gwyddom eu bod yn gallu ystumio pethau hefyd. Felly, buaswn eisiau gwneud yn siŵr fod y syniad wedi cael ei ystyried yn drwyadl. Pe baent yn dod i'r casgliad ei bod yn ffordd ddefnyddiol o wella'r sefyllfa, yna dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud, felly buaswn, wrth gwrs, yn ystyried y cyngor hwnnw'n ddifrifol iawn.