Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:28, 14 Chwefror 2018

Wel, fe allaf i ddweud wrth yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod e'n mynd lawr. Yn 2015-16, yn y flwyddyn ariannol honno, roedd 41 y cant o bryniant y gwasanaeth iechyd yn cael ei wneud yng Nghymru, yn ôl eich ystadegau chi, ond, erbyn y flwyddyn ganlynol, roedd y canran yma wedi disgyn i 39 y cant. Mewn ymateb i ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddar, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eich bod yn ceisio arwain trwy esiampl. Ond, ers 2015-16, mae canran y pryniant Cymreig gan Lywodraeth Cymru eu hunain wedi disgyn o 44 y cant i 41 y cant yn y flwyddyn honno—yn y flwyddyn fwyaf cyfredol. Felly, a ydy Llywodraeth Cymru yn gallu gosod targed penodol ar gyfer lefel pryniant Cymreig gan Lywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd, a'i wneud e, er enghraifft, yn gydradd â llywodraeth leol, sy'n llwyddo i gyrraedd lefel o 59 y cant o wariant yn aros yng Nghymru? Pe byddech chi'n gwneud hynny, mi fyddai hynny yn arwain, yn syth bin, at £400 miliwn ychwanegol o wariant yn cael ei wneud trwy fusnesau yng Nghymru.