Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi gofyn nifer o gwestiynau ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru—rhai i chi, rhai i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth. Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru wedi llofnodi pum contract gyda Capita ar gyfer darparu gwasanaethau yng Nghymru. Deallaf hefyd nad oes unrhyw drafodaethau sylweddol wedi bod gyda Capita o fewn y chwe mis diwethaf. A ydych yn credu y byddai'n ddoeth i Lywodraeth Cymru ymgysylltu ychydig mwy gyda Capita ar hyn o bryd? Rwy'n derbyn bod dimensiwn DU i hyn hefyd—ond er mwyn gwneud yn siŵr fod y risg yn cael ei lliniaru gymaint â phosibl.