Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:34, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rydym yn gweithio'n ofalus gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â Carillion a Capita. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau nad ydynt yn sefydlu tîm gyda Capita yn y ffordd a wnaethant gyda Carillion, ond eu bod yn parhau i fonitro Capita yn agos iawn, ac mae Swyddfa'r Cabinet yn ymgysylltu'n agos â Capita i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sylfaenol y mae'r cwmni yn eu hwynebu. Rydym wedi llunio trosolwg o wariant a'r gwasanaethau a ddarperir gan Capita yng Nghymru, ac rydym wedi rhannu hynny gyda Swyddfa'r Cabinet fel bod modd i’r ymdrechion y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud yn y maes gael eu llywio'n llawn o gwmpas anghenion Cymru.