Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf Ysgrifennydd y Cabinet at y cwestiynau a ofynnwyd eisoes gan yr Aelod blaenorol. Dyna'r broblem gyda dod yn ail, ynte, ond dyna ni—nid yn wleidyddol, hynny yw, yn y drefn heddiw rwy’n ei feddwl.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae caffael yn amlwg ar wefusau'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad yn sgil cwymp Carillion, ac fe gafodd hwnnw effaith amlwg ar brosiectau a gwasanaethau ledled y DU, ond hefyd, i raddau llai, yng Nghymru. Mae Capita, y cwmni contractio gwaith allanol, hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn cael anhawster yn ariannol. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o ymwneud Llywodraeth Cymru â Capita mewn perthynas â graddau'r contractau gyda hwy a'ch asesiad o'r risg a achosir gan y cytundebau hynny?