Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:40, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod Llywodraeth Prydain yn gwneud ei gorau i sicrhau bargen gyda'r UE. Yr unig bobl sy'n chwarae gêm galed yn hyn i gyd yw'r Comisiwn Ewropeaidd eu hunain. Mae hyn yn rhan hanfodol o strategaeth negodi Monsieur Barnier, a byddai Michel Barnier wrth ei fodd yn clywed yr ymateb y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd ei roi i mi. Dyna'n union y mae eisiau i bobl y wlad hon ei ddweud—i ddangos, felly, y bydd y pwysau ar wneud yr hyn y mae'r UE ei eisiau yn hytrach na'r hyn y mae Llywodraeth Prydain ei eisiau. Wrth gwrs ein bod eisiau bargen masnach rydd gyda'r UE; byddem yn wallgof pe na byddem eisiau hynny ac mae pawb sydd ag unrhyw synnwyr cyffredin yn pwyso am hynny. Ond ni fydd dweud 'Beth y mae'r UE ei eisiau o hyn' o hyd yn helpu ein safbwynt negodi. Felly, rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet, unwaith eto, ar ran Llywodraeth Cymru, nid yn unig i ganolbwyntio ar y pethau negyddol a fydd yn digwydd os na fydd unrhyw fargen, oherwydd os na fydd bargen, ni fydd hynny o ganlyniad i ymdrechion Llywodraeth Prydain, bydd hynny oherwydd bod yr UE wedi rhoi ei flaenoriaethau gwleidyddol ei hun o flaen synnwyr cyffredin economaidd.