Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 14 Chwefror 2018.
Wel, Lywydd, hyd yn oed wrth geisio ymateb i gywair y cwestiwn hwnnw, ni allaf osgoi dweud wrth yr Aelod fy mod yn anghytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd. Bydd canlyniad 'dim bargen' yn dilyn Brexit yn drychinebus i Gymru, ac nid oes unrhyw baratoi ar gyfer 'dim bargen'. Ac un o'r rhesymau pam fy mod bob amser yn dweud hynny yw oherwydd ei bod hi’n bwysig iawn ymwrthod â'r syniad bod 'dim bargen' yn ddim ond un digwyddiad arall y gallwch baratoi ar ei gyfer. Nid yw normaleiddio 'dim bargen' o fudd i neb yma yng Nghymru. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi ar gyfer yr holl ganlyniadau gwahanol posibl a all ddeillio o negodi. Bob tro rwy'n siarad â Gweinidogion y DU, maent yn pwysleisio’n bendant nad 'dim bargen' yw’r hyn y maent yn ei geisio, ac rwy'n eu cefnogi'n llawn yn yr uchelgais hwnnw.