Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:37, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n llawn gymeradwyo'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach wrth feirniadu Llywodraeth y DU a'r dryswch sydd i’w weld yn y Cabinet mewn perthynas â'i bolisi Brexit, yn bennaf oherwydd gweithgareddau rhai a ymgyrchodd yn gadarn dros aros yn yr UE fel Canghellor y Trysorlys sy'n ymddangos fel pe bai’n ceisio tanseilio'r broses gyfan yn rheolaidd. Ond wrth gwrs, gallai Llywodraeth Cymru helpu i gael y canlyniad gorau posibl o'r trafodaethau Brexit hyn pe bai'n barod i gydnabod mai'r ffordd orau o osgoi 'dim bargen' yw drwy baratoi ar ei gyfer, a'i gwneud yn glir ein bod yn gallu ymdopi â'r canlyniadau. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol iawn o adroddiad y pwyllgor materion allanol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy'n gwneud nifer o argymhellion. Yn benodol, dywedodd fod ar Gymru angen arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru o ran sut y dylent fod yn paratoi ar gyfer Brexit a bod sectorau a sefydliadau yn troi at Lywodraeth Cymru am arweiniad, ac mae’n hanfodol eu bod yn gallu dechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain ar gyfer bywyd y tu allan i'r UE. Mae hyn wedi cael ei fynegi yn y ffordd fwyaf amhleidiol sy’n bosibl. Ac rwy'n ceisio gwneud hynny fy hun yn y cwestiwn hwn—annog a phwyso ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu safbwynt optimistaidd ynghylch y canlyniad y tu hwnt i Brexit. Hyd yn oed os na cheir bargen, bydd cyfleoedd yno, yn ogystal â heriau, a dylem roi sylw i'r rheini yn hytrach na rhygnu am y pethau negyddol byth a beunydd.