2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru ar 14 Chwefror 2018.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y broses o ddatblygu isadeiledd trydan yn Ynys Môn? OAQ51763
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiwn. Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried ein llesiant hirdymor. Bydd 'Polisi Cynllunio Cymru' yn cael ei adolygu yn sgil y Ddeddf. Bydd yn ystyriaeth berthnasol ar gyfer penderfyniadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â materion seilwaith trydan.
Diolch am yr ateb. Rydych chi'n cyfeirio at gyrff cyhoeddus yng Nghymru a'r dyletswyddau sydd arnyn nhw, ond, wrth gwrs, mae yna gyrff eraill yn gyhoeddus, yn lled gyhoeddus, neu â chysylltiadau cyhoeddus sy'n gweithredu yng Nghymru ac sy'n cael impact go iawn arnom ni. Mae'r Grid Cenedlaethol yn bwriadu codi cysylltiad trydan newydd ar draws Ynys Môn efo'r gost yn brif, os nad yr unig, ffactor, rydw i'n meddwl, mewn penderfynu sut gysylltiad i'w gael, a beth maen nhw am wneud, felly, ydy mynd am yr opsiwn rhataf, sef peilonau uwchben y ddaear yn hytrach na mynd o dan y ddaear neu o dan y môr, sef beth rydym ni yn Ynys Môn yn gofyn amdano fo. Rŵan, dyna—mynd dan y môr neu dan y tir—fyddai'n gwarchod buddiannau Ynys Môn rŵan, a chenedlaethau'r dyfodol yn Ynys Môn, ac mae gennym ni Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol yma yng Nghymru. Rŵan, chi ydy'r Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros weithrediad y Ddeddf honno. A ydych chi'n barod i roi ymrwymiad i weithio efo fi ac eraill fel ymgyrchwyr yn erbyn peilonau i wthio ar y grid, ar Ofgem, ar Lywodraeth Prydain—a fydd yn gwneud y penderfyniad yn y pen draw—i sicrhau bod y cynllun cysylltu yma ddim ond yn gallu digwydd yn unol ag egwyddorion y darn pwysig yna o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei basio yn y lle yma?
Wel, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am beth ddywedodd e. Rydw i'n gwybod am y gwaith y mae e wedi'i wneud yng nghyd-destun yr ynys ar y pwnc yma. Rydym ni fel Llywodraeth yn gweithio'n agosach gyda'r cyngor lleol ar y pethau mae ef wedi cyfeirio atyn nhw. Nawr, roeddwn i'n falch i weld y datganiad gyda'r National Grid. So, maen nhw wedi gwneud datganiad ar well-being ble maen nhw'n dweud, yng nghyd-destun y Ddeddf,
Er nad yw'r rhain yn cyflwyno gofynion penodol ar y Grid Cenedlaethol neu ddatblygiad llinellau trosglwyddo newydd, mae'r Grid Cenedlaethol yn credu bod amcanion y Ddeddf yn bwysig ac yn haeddu ystyriaeth.
Felly, mae'r Grid Cenedlaethol yn cydnabod effaith y Ddeddf i raddau. Mae'r Ddeddf yn rhwymol o ran y cyngor lleol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael ei ddylanwadu ganddi. Rwy'n clywed, wrth gwrs, yr hyn a ddywed yr Aelod am danddaearu a gosod peilonau uwchben y ddaear, a thanddaearu yw dewis cyntaf Llywodraeth Cymru, ond bydd angen cynnal trafodaethau, a bydd yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn rhan ohonynt wrth i ni geisio sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i’r ynys tra'n lliniaru effeithiau'r datblygiadau hyn.
Ddydd Iau diwethaf, ymwelodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau â bwrdd ardal fenter Ynys Môn a chyfarfuom â chynrychiolwyr y bwrdd—cyngor Ynys Môn, Menter Môn, y trydydd sector, busnesau ac addysg—a dywedasant wrthym pa mor bwysig yw'r seilwaith trosglwyddo trydan sylweddol, nid yn unig i ddatblygu'r Wylfa Newydd, yr orsaf bŵer niwclear newydd, ond i ehangu porthladd Caergybi, argymhellion ar gyfer gwaith newydd i gynhyrchu ynni'r llanw ar y môr, ac yn y blaen. Pa ymgysylltiad rydych yn ei gael, felly, â bwrdd ardal fenter Ynys Môn i gael cyngor ar seilwaith trafnidiaeth trydan cynaliadwy yn y dyfodol, a sut y byddwch yn sicrhau bod y sianeli cyfathrebu hynny'n aros ar agor yn y dyfodol yn dilyn y cyhoeddiad y bore yma y bydd bwrdd ardal fenter Ynys Môn yn cael ei uno ag un Eryri?
Wel, Lywydd, yn y bôn, materion ar gyfer fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yw'r rhain yn hytrach na materion i mi fel Gweinidog cyllid, ond cytunaf gyda'r hyn a ddywedodd yr Aelod ynglŷn â'r angen am seilwaith trydan effeithlon a dibynadwy, nid yn unig ar gyfer datblygiad y Wylfa Newydd, ond ar gyfer agenda ehangach Ynys Môn fel ynys ynni. Gallaf ei sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â'r buddiannau hanfodol ar yr ynys mewn perthynas â'r mater hwn a byddaf yn sicrhau fy mod yn tynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth at ei gwestiwn.