5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:18, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth godi i siarad i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar brofiadau fy etholwyr—fy etholwyr sy'n byw nid yn unig ar ffyrdd heb eu mabwysiadu, ond fel y mae cynifer o fy nghyd-Aelodau yma wedi pwysleisio heddiw, ar ystadau sydd heb eu mabwysiadu. Rwyf am sôn am yr effaith a gaiff methiant datblygwyr i sicrhau bod yr ystadau hyn yn cyrraedd safonau mabwysiadwy ar fy etholwyr. Yn wir, nid wyf yn credu ei bod yn rhy ddramatig i siarad am y dioddefaint y mae hyn yn ei achosi.

Ar hyn o bryd rwy'n ymdrin â thair ystâd sylweddol o dai 'executive' fel y'u gelwir, pob un wedi'i hadeiladu gan yr un datblygwr. Mae'n un o'r 'pedwar datblygwr mawr' fel y'u gelwir yn y DU. Gwn fod ACau eraill wedi sôn am y problemau a achosir pan fo adeiladwyr tai yn mynd i'r wal, ond rwy'n sôn am gwmni yma sy'n parhau i fod yn un o bedwar adeiladwr tai mawr y DU. Felly, ymhell o fethu gallu datrys y materion hyn, maent yn rhy brysur yn mynd ymlaen i adeiladu mwy o dai mewn lleoliadau eraill, gwneud miliynau ar filiynau o bunnoedd, cyn cwblhau ystadau i safonau mabwysiadwy. Nid wyf yn mynd i enwi'r datblygwr yma heddiw, ond mae'n bosibl y bydd y sylwadau a wnaf yn nes ymlaen yn awgrymu pwy ydynt.

Fel y noda'r cynnig, mae un o'r problemau mwyaf dybryd yn ymwneud â ffyrdd ar yr ystadau tai hyn. Gan na fabwysiadwyd y ffyrdd, maent mewn cyflwr anniogel. Gall hyn achosi niwed i geir y trigolion, ac mae gennyf nifer o enghreifftiau o hynny yn fy llwyth achosion, ac anaf i drigolion hefyd. Unwaith eto, rwyf wedi ymwneud â nifer o achosion o hynny. Yn benodol, yn yr enghraifft hon, nid y ffordd yn unig y mae'r datblygwr heb drafferthu ei gorffen: mae trigolion yr un ystâd o dros 150 o dai wedi cael problemau gyda'u darpariaeth band eang; ni chafodd maes chwarae a addawyd mo'i adeiladu; ni wnaed gwaith tirlunio; ac ni orffennwyd y gwaith ar orsaf bwmpio. Mae hyn i gyd wedi cael effaith negyddol—effaith negyddol iawn—ar ddeiliaid tai. Ac yn yr achos hwn lle y cwblhawyd yr ystâd dai bedair blynedd yn ôl, mae wedi gwneud i'r trigolion deimlo'n siomedig iawn fod y cartrefi newydd sbon danlli a addawyd iddynt wedi eu dympio yn yr hyn sy'n fawr gwell na safle adeiladu o ran ei olwg. Mae rhai o'r deiliaid tai mor siomedig fel eu bod wedi dweud wrthyf eu bod am symud, ond mae cyflwr gwael yr ystâd yn golygu na allant wneud hynny am fod gwerth eu cartrefi wedi gostwng.

Rwy'n ymdrin â dwy ystâd arall, a godwyd gan yr un datblygwr tai mawr. Yma, mae trigolion yn wynebu problemau tebyg. Mewn un achos, nid yw'r gwaith sydd ei angen i sicrhau bod yr ystâd mewn cyflwr mabwysiadwy wedi'i gwblhau 17 mlynedd ar ôl adeiladu'r tai. Hoffwn ailbwysleisio'r pwynt hwnnw—17 mlynedd, gan un o brif adeiladwyr tai y DU. Nid yw hynny'n dderbyniol o gwbl.

Nawr, rwyf wedi siarad â'r adeiladwr tai. Rwyf wedi cyfarfod â'u prif swyddogion a derbyn ymateb cynnes a chymodlon. Ond o ran gweithredu, nid oes dim wedi newid. Ni wnaed unrhyw gynnydd. Mae ymholiadau, apeliadau a chwynion fy mhreswylwyr wedi disgyn ar glustiau byddar. A'r hyn sy'n gwneud y materion hyn yn anos byth i'w stumogi yw bod y datblygwr eisoes yn edrych ar safle newydd yn fy etholaeth. Oes, mae angen cartrefi arnom, ond nid oes unrhyw ddyletswydd ar adeiladwyr tai ar raddfa fawr i sicrhau bod gwaith wedi'i gwblhau cyn iddynt symud ymlaen, ac rwy'n credu bod hynny'n gwbl anghywir.