Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rwy'n rhannu pob un o'r teimladau a'r safbwyntiau a fynegwyd yn y Siambr y prynhawn yma hyd yn hyn. Fel pob Aelod Cynulliad ac etholaeth, mae gennyf innau hefyd ystadau gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fy ardal fy hun, a'r amlycaf ohonynt yw ystâd Sandy Cove, y bydd y Dirprwy Lywydd yn gyfarwydd â hi. Mae'n ystâd o 250 byngalo a adeiladwyd yn y 1930au fel cartrefi gwyliau ar gyfer pobl gyfoethog o bob rhan o'r DU i ddod i fwynhau peth amser ar lan y môr. Ond yn anffodus, dros gyfnod o amser, daeth y cartrefi hyn yn breswylfeydd parhaol, ac mae'r cwmni a adeiladodd yr ystâd wedi mynd i'r wal ac wedi gadael gwaddol o ffyrdd ar eu holau sydd bellach mewn cyflwr gwael ofnadwy. Nid hwyaid a welwn yn y pyllau, ond gwylanod yn bennaf, ac yn anffodus, mae llawer o'r bobl sy'n byw ar yr ystâd honno—. Mae yna fater iechyd cyhoeddus yma, oherwydd mae llawer o'r bobl sy'n byw ar yr ystâd honno yn bobl sydd â phroblemau symudedd, pobl sy'n cael anhawster i gerdded, afiechydon cronig eraill, ac mae cyflwr y ffyrdd hyn, y diffyg palmentydd, diffyg draenio, diffyg goleuadau stryd hyd yn oed ar y ffyrdd hynny, yn peri pryder iddynt, mae'n wir, ond anhawster hefyd i fynd allan o gwbl. Mae llawer ohonynt yn byw mewn arwahanrwydd cymdeithasol. Maent yn teimlo'n anniogel oherwydd ei bod hi'n dywyll. Ac wrth gwrs mae'r ystâd hon hefyd, i ychwanegu at ei gofidiau, mewn ardal lle y ceir perygl o lifogydd, yn union y tu ôl i amddiffynfeydd y morglawdd ym Mae Cinmel. Mae wedi cael llifogydd ar sawl achlysur yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, mae mewn cyflwr eithaf truenus.
Nawr, i fod yn deg â'r awdurdodau lleol ac eraill, maent wedi ceisio gwneud yr hyn a allant i gefnogi'r trigolion hynny. Maent wedi ceisio edrych ar y gost o sicrhau bod y ffyrdd hynny'n cyrraedd safonau mabwysiadwy, a'r amcangyfrif diweddaraf yw y byddai oddeutu £3 miliwn, sy'n amlwg yn swm sylweddol o arian i 250 o berchnogion tai ddod o hyd iddo. Mewn gwirionedd, mae bron yn amhosibl iddynt godi'r math hwnnw o swm er mwyn gwella'r ffyrdd hynny i safonau mabwysiadwy.
Ac yn waeth na hynny, wrth gwrs, mae yna lawer o'r bobl sy'n berchen ar yr eiddo nad ydynt yn byw ynddynt mewn gwirionedd, cânt eu gosod ar rent, oherwydd bod gwerth yr eiddo wedi gostwng o ganlyniad i gyflwr y ffyrdd. Felly, yn amlwg, gallant fod yn ffynhonnell incwm broffidiol i rai landlordiaid prynu i osod diegwyddor posibl. Felly, mae hynny'n cymhlethu'r broblem ymhellach, oherwydd, cyhyd â bod eu rhent yn cael ei dalu, cyhyd â bod yr incwm yn dod i mewn, nid oes gan y landlordiaid prynu i osod hynny fawr o ddiddordeb mewn gwneud unrhyw fath o gyfraniad i sicrhau bod y ffyrdd yn cyrraedd y safon sy'n dderbyniol ar gyfer cerbydau modur hyd yn oed mewn rhai lleoedd. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa'n annioddefol, ac mae angen inni wneud rhywbeth yn ei chylch.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, yn 2011, gallaf gofio bod yn y Cynulliad hwn pan wnaeth Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd benderfyniad dewr iawn i ddefnyddio pwerau a oedd ganddi dan Ddeddf Dŵr 2003 i drosglwyddo carthffosydd preifat a draeniau ochrol i'r system ddŵr, sydd wrth gwrs yn gyfrifoldeb i Dŵr Cymru yma. Felly, cafodd y cyfan ei fabwysiadu yn y bôn, pa un a oeddent wedi'u mabwysiadu'n flaenorol neu beidio. Credaf fod angen dull tebyg o weithredu arnom a dweud y gwir, gyda phob un o'r ffyrdd heb eu mabwysiadu hyn, fel y gallwn ddatrys y broblem hon unwaith ac am byth. Yna, yn hollol—fel y dywedodd Mike ac eraill—mae angen inni newid y system gynllunio i'w gwneud yn ofynnol, os yw ystâd yn mynd i gael ei hadeiladu, rhaid cael ffordd fabwysiadwy sy'n hygyrch.
Un o'r pethau sy'n fy mlino'n fawr ar bron bob cais cynllunio a welaf y dyddiau hyn yw'r 'dreifiau preifat' fel y'u gelwir. Rydych wedi'u gweld—lle y ceir un ffordd gyswllt drwy'r ystâd, sydd wedi'i mabwysiadu, ac yna mae gennych dramwyfa breifat sy'n gwasanaethu fel mynediad i oddeutu 10 neu 15 eiddo gwahanol, ac wedi'i chreu o frics fel rheol oherwydd ei bod yn edrych yn ddeniadol, ond o fewn pedair neu bum mlynedd mae'n dechrau malu, a'r pantiau'n dechrau ymddangos, oherwydd nid yw wedi'i llunio i safon dderbyniol. Felly, rydym yn storio problemau ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n credu bod yr adolygiad cyfredol o'r system gynllunio sydd ar y gweill yng Nghymru yn rhoi cyfle inni ddatrys hyn unwaith ac am byth.
Un peth y buaswn yn ei hoffi—os yw Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu sefydlu tasglu, sy'n syniad rwy'n ei groesawu'n fawr—yw bod y tasglu hwnnw'n trefnu, o ran blaenoriaethau, pa ardaloedd sydd angen sylw yn gyntaf, oherwydd gallaf ddweud wrthych yn awr fy mod yn tybio'n fawr iawn y byddai ystâd Sandy Cove yn fy etholaeth yn agos iawn at frig y rhestr honno, am y rhesymau rwyf wedi eu hamlinellu heddiw. Felly, rwy'n annog pobl i gefnogi'r cynnig.