Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 14 Chwefror 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Gallai unigrwydd ac unigedd fod wedi cael eu gweld fel pynciau ymylol ychydig flynyddoedd yn ôl, ac rwy'n falch o fod wedi rhoi blaenoriaeth iddynt yn y pwyllgor iechyd a bod ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o'r niwed y gall unigrwydd ei wneud i'n hiechyd. Rydym i gyd yn dod yn gyfarwydd ag effaith iechyd cyhoeddus unigrwydd ac unigedd megis yr ystadegyn a ddyfynnir yn aml y gall fod yr un mor niweidiol i'ch iechyd â smygu 15 o sigaréts y dydd. Ond roeddwn am ganolbwyntio fy sylwadau heddiw ar y ffaith bod unigrwydd ac unigedd yn ffactor risg sylweddol ar gyfer hunanladdiad.
Pan roddodd Samariaid Cymru dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddent yn dweud eu bod am symud y camau a gymerir i fynd i'r afael ag unigrwydd i mewn i ofod llawer mwy difrifol, a chredaf fod hynny'n hollbwysig, oherwydd mae mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd yn achub bywydau. Ddoe, gydag aelodau eraill, fe fynychais lansiad adroddiad Samariaid Cymru ar anfantais economaidd-gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn gwneud 10 o argymhellion pendant ar sut y gall Cymru leihau nifer yr achosion o hunanladdiad. Gallwn dreulio o leiaf pum munud yn sôn am bob un, a gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn mynd ar drywydd yr argymhellion yn yr adroddiad ardderchog hwn yn ystod y misoedd nesaf. Ond gan mai pum munud yn unig sydd gennyf, roeddwn am dynnu sylw at un neges yn yr adroddiad—y dylid ystyried grwpiau cymunedol fel ffordd o atal ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer unigrwydd, unigedd a chymorth cymdeithasol yng Nghymru, ac y dylid llunio atebion polisi i gynyddu cyfranogiad cymunedol. Mae bod mewn cysylltiad ag eraill yn achub bywydau.
Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag unigrwydd fel blaenoriaeth genedlaethol yn fawr, ond mae angen inni weld hynny'n cael ei droi'n weithredu go iawn yn awr. Mae rhai polisïau Llywodraeth yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn mynd i gyfeiriad gwahanol. Tynnwyd sylw'r pwyllgor at raglen Cymunedau yn Gyntaf mewn tystiolaeth. Cafodd ei beirniadu am feithrin mentrau mwy meddal yn hytrach na rhai caled sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth, ond yn aml, y mathau hynny o brosiectau sy'n allweddol wrth ddarparu'r cysylltedd sydd mor hanfodol i fynd i'r afael ag unigedd. Ym mis Medi, er enghraifft, mynychais fforwm defnyddwyr gwasanaethau Gofal Gwent, a chyfarfûm â defnyddwyr gwasanaethau yno sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a ddywedodd wrthyf na fyddent wedi gallu gadael y tŷ heb gymorth eu grŵp Siediau Dynion lleol, menter a arferai gael ei hariannu gan Cymunedau yn Gyntaf.
Roeddwn yn ddiolchgar i Rebecca Evans fel y Gweinidog blaenorol am ei hymgysylltiad â mi ynghylch y bygythiad i gyllid ar gyfer Dewch i Gerdded Cymru. Gwn ei bod wedi deall, fel finnau, nad yw grwpiau o'r fath yn ymwneud ag iechyd corfforol yn unig. I lawer o gerddwyr yn fy etholaeth, mae Dewch i Gerdded wedi bod yn ffordd hollbwysig o fynd i'r afael ag unigrwydd, yn aml ar ôl colli priod. Rwy'n falch iawn fod y cyllid wedi'i barhau, ond ni ddylai fod wedi bod dan fygythiad. Rhaid inni wneud yn siŵr fod ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag unigrwydd yn torri ar draws polisïau Llywodraeth Cymru.
Ddydd Gwener, daeth gwraig i fy nghynghorfa a oedd yn poeni'n fawr fod y pwysau ar gyllid addysg oedolion wedi arwain at gyflwyno taliadau i bobl sydd ar fudd-daliadau am fynychu ei dosbarth celf lleol, lle roedd rhai o'r mynychwyr ag anableddau. Unwaith eto, i rai o'r bobl hynny, mae'r dosbarth celf yn achubiaeth. Nawr, mae pawb ohonom yn deall y pwysau ariannol enfawr sy'n ein hwynebu, ond mae angen inni edrych ar y penderfyniadau hyn ar sail buddsoddi i arbed. Mae costau unigedd cymdeithasol, a hunanladdiad yn wir, yn llawer iawn uwch. Mae'n rhaid i ni weithredu'n unol â'n rhethreg ar atal.
Roeddwn am gloi drwy sôn am bobl ifanc. Ceir canfyddiad fod unigrwydd ac unigedd yn broblem i bobl hŷn yn bennaf. Nid yw hynny'n wir. Dywedodd Samariaid Cymru wrthym am arolwg gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a welodd fod pobl rhwng 18 a 34 oed yn fwy tebygol o deimlo'n unig yn aml, o boeni am deimlo'n unig ac o deimlo'n isel ynglŷn ag unigrwydd na phobl dros 55 oed. Dywedasant wrthym fod yna dystiolaeth gynyddol y gall cyfryngau cymdeithasol achosi unigrwydd ac iselder ysbryd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, a bod astudiaeth ddiweddar ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol am ddwy awr y dydd yn gwneud person ddwywaith mor debygol o deimlo unigedd cymdeithasol. Cyhoeddwyd adroddiad o'r enw 'Life in Likes' gan Gomisiynydd Plant Lloegr yn ddiweddar ar ddefnydd plant rhwng 8 a 12 oed o gyfryngau cymdeithasol, a chanfu'r adroddiad fod plant ifanc iawn hyd yn oed yn dod yn orddibynnol ar 'hoffi' a sylwadau dilysu cymdeithasol. Mae'n effeithio ar eu hiechyd meddwl, ac mae hynny hefyd wedi bod yn neges gref yn ymchwiliad ein pwyllgor i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae hyn yn bwysig, nid yn unig oherwydd ein bod am i'n pobl ifanc gael iechyd meddwl da, ond oherwydd bod pobl ifanc yn y grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad. Mae'n warth cenedlaethol fod pedwar plentyn ysgol yn marw drwy hunanladdiad bob wythnos yn y DU. Mae Papyrus, yr elusen atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc, fel rhan o'u hymgyrch Save the Class of 2018, i leihau nifer yr achosion o hunanladdiad ymysg plant ysgol, wedi lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o effaith negyddol cyfryngau cymdeithasol ar ein pobl ifanc. Maent wedi cynhyrchu ffilm rymus iawn o'r enw Bedtime Stories, sy'n annog pob un ohonom i fod yn ymwybodol o effaith cyfryngau cymdeithasol. Hoffwn annog pawb yma, yn enwedig y rhai ohonom sy'n rhieni, i'w gwylio. Diolch.