6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:55, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

I fod yn onest gyda chi, rwy'n credu bod Dai a Lynne wedi cynnwys yr hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud yn eithriadol o dda. Felly, fy neges i chi, Weinidog, yw rhywbeth tebyg i hyn: pan gymerais ran yn ymchwiliad y pwyllgor hwn, cefais fy syfrdanu wrth ddeall pa mor fawr yw'r broblem hon mewn gwirionedd. Yn gymharol ddiweddar, pasiwyd Bil iechyd y cyhoedd gennym, a buom yn sôn am geisio gwneud pobl yn feinach ac yn fwy heini, a gwneud yn siŵr fod toiledau ym mhobman, ond mewn gwirionedd ni soniwyd digon ynglŷn â sut y gwnawn yn siŵr, beth bynnag yw eich oedran, eich bod yn teimlo'n rhan o gymdeithas sy'n dod yn fwyfwy cythryblus a gorffwyll. Ac i'r rhai nad ydynt yn rhan o'n cawcws mewnol, credaf ei bod yn werth dweud beth yw'r gwahaniaeth rhwng unigrwydd ac unigedd. Hoffwn roi enghraifft i chi o un achos penodol sydd gennyf ar hyn o bryd.

Felly, fe allwch fod yn unig os ydych yn berson hŷn ac mewn cartref gofal, ac wedi eich amgylchynu gan lwyth o bobl eraill, ac maent i gyd yn dweud, 'Dewch, beth am fynd i gael aromatherapi, a beth am fynd i wylio'r teledu a gadewch inni chwarae bingo', ond os nad ydych erioed wedi bod yn un i ymuno, os nad ydych erioed wedi bod yn un da am adeiladu eich rhwydweithiau cymdeithasol, os nad yw'r gwytnwch emosiynol hwnnw wedi bod gennych erioed, yna sut rydych chi'n mynd i'w ddatblygu'n 75 neu'n 80, neu 65, neu beth bynnag, fel arfer pan fyddwch wedi colli eich partner mewn bywyd? Oherwydd dyna pryd y mae unigrwydd yn brathu mewn gwirionedd.

Mae unigedd yn digwydd pan fyddwch yn llythrennol yn colli'r cyswllt o'ch cwmpas. Efallai mai ffermwr yn sownd ar ben arall i drac ydych chi. Neu, yn wir, gallech fod fel un gŵr bonheddig sydd gennyf yn fy etholaeth, ac mae'n byw mewn tref fawr iawn—nid wyf am dynnu gormod o sylw ati am nad wyf fi eisiau dweud pwy ydyw. Ond mae'n byw mewn byngalo bach ar ymyl ffordd brysur iawn. Nid yw'n gweld neb. Fodd bynnag, mae'n gweld y byd: mae'n gweld y ceir yn mynd heibio, mae'n gweld y plant ysgol yn ciwio am y bws, ac mae'n teimlo ychydig o gysylltiad. Yn anffodus, mae'r person sy'n berchen ar ei eiddo yn mynd i'w werthu, ac mae'n mynd i gael ei symud oddi yno. Ac mae'r gymdeithas dai, wyddoch chi, yn garedig iawn am ei osod mewn byngalo bach neis, ond lle nad yw'n mynd i weld neb, ac unwaith y bydd y drws yn cau, dyna ni; fe fydd ar ei ben ei hun, yn profi unigedd go iawn. Ac rwy'n rhagweld y bydd y gŵr bonheddig oedrannus hwnnw, gyda'i deledu sgrin lydan enfawr—gan mai dyna'r oll sydd ganddo, ac rwyf wedi bod yn ei dŷ—oherwydd dyna yw ei gydymaith, o naw y bore pan fydd yn ei roi ymlaen hyd nes y bydd yn mynd i'w wely yn y nos, yn mynd yn fwyfwy unig, mae'n mynd i brofi mwyfwy o unigedd, mae'n mynd i deimlo'n fwyfwy isel, ac yn y pen draw bydd yn rhaid iddo ddechrau pwyso arnom ni, ar ein gwasanaethau cymdeithasol, ar ein gofal iechyd wrth i'w iechyd waethygu. Ac os dysgais rywbeth o adroddiad y pwyllgor, yr angen i ni gefnogi pobl yn eu henaint oedd hwnnw.

A hoffwn nodi un pwynt a wnaeth Lynne. Er bod ein hadroddiad, neu ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar bobl hŷn, ni allwn anghofio pobl ifanc, gan mai perygl cyfryngau cymdeithasol yw ein bod yn anghofio sut i feithrin perthynas â phobl. Rydym yn clicio ar Facebook neu Twitter, neu beth bynnag ydyw, a waw, mae gennym 450 o ffrindiau. Wrth gwrs, nid ffrindiau go iawn ydynt. Nid ydynt yn gwybod pwy yw eich mam. Nid ydynt yn gwybod a oes gennych gi. Nid ydynt yn gwybod beth rydych chi'n hoffi ei gael i de. Ond rydych yn credu eu bod yn ffrindiau. Ac rydym yn magu cenhedlaeth sydd mewn gwirionedd yn creu cysylltiadau arwynebol iawn. Felly, beth sy'n digwydd pan fydd y genhedlaeth ifanc yn dod yn genhedlaeth ganol oed ac yna'n genhedlaeth hŷn? Oherwydd bryd hynny byddant yn dod i ddeall go iawn beth yw unigrwydd ac unigedd, pan fyddant yn edrych ar Facebook ac yn sylweddoli nad yw'r oddeutu 400 o ffrindiau yn bodoli o gwbl mewn gwirionedd—rhith ydynt.

Felly rwy'n credu ei fod yn wirioneddol bwysig. Ac rwy'n erfyn arnoch i gyflwyno eich strategaeth cyn gynted â phosibl. A thrwy dderbyn argymhelliad 1 yn rhannol, pan ddywedoch y byddech, yn y cyfamser, yn ceisio tyfu prosiectau da, gwelsom ddigonedd o brosiectau da yn ein pwyllgor, o Siediau Dynion i Ffrind i Mi i gysylltwyr cymunedol—yr holl amrywiaeth. Mae angen cymorth arnynt, mae angen anogaeth arnynt, mae angen eu grymuso, a hoffwn ofyn i chi wneud hynny.