Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rwy'n ddiolchgar am gael siarad heddiw ar y mater hollbwysig hwn, yn dilyn lansio adroddiad ein pwyllgor yn Horton's Coffee House yng Nghasnewydd. Mae unigrwydd ac unigedd cymdeithasol yn un o'r problemau sy'n diffinio ein hoes ni, ac mae'n epidemig sy'n effeithio ar bob oedran ym mhob rhan o'n cymunedau.
Mae effaith unigedd cymdeithasol yn frawychus: mae 75,000 o bobl yng Nghymru yn nodi eu bod bob amser neu'n aml yn teimlo'n unig; gall unigrwydd fod yr un mor niweidiol i'ch iechyd â smygu 15 o sigaréts y dydd; gall fod mor beryglus â gordewdra; a gall effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn ein bywydau. Er bod yr ystadegau hyn yn mynd ffordd bell i ddangos pa mor sylweddol yw problem unigrwydd, rwy'n credu mai straeon pobl sydd o ddifrif wedi sbarduno'r angen i wneud rhywbeth. Yn sicr, drwy gydol ein hymchwiliad, clywsom y lleisiau hynny'n glir. Mae un stori arbennig yn dod i fy meddwl, stori a rannodd meddyg teulu gyda mi. Roedd hi wedi bod yn trin claf oedrannus a oedd yn gwella ar ôl dod allan o'r ysbyty. Roedd hi wedi bod yn ymweld â'r claf unwaith yr wythnos, ac ar ôl ychydig wythnosau o ymweliadau rheolaidd, dywedodd wrth y fenyw ei bod wedi gwella'n iawn ac na fyddai angen mwyach iddi weld y meddyg yn rheolaidd. Roedd hi'n amlwg fod y wraig yn drist o glywed hyn. Nid oedd hi eisiau i'r ymweliadau ddod i ben am mai'r meddyg teulu a'r nyrsys ardal oedd yr unig bobl a welai o un wythnos i'r llall. Clywsom enghreifftiau eraill tebyg o effaith ddifrifol arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.
Gwyddom y gall unrhyw un ohonom brofi unigrwydd ac unigedd wrth inni heneiddio am nifer o resymau sydd y tu hwnt i'n rheolaeth yn aml. Mae unigrwydd ac unigedd yn achos ac yn ganlyniad i broblemau iechyd meddwl ac yn bethau nad ydynt yn cael sylw digonol oherwydd y stigma sy'n gysylltiedig â hynny. Yn wir, fel y soniodd Lynne Neagle, roedd yr adroddiad a lansiwyd gan y Samariaid ddoe yn tynnu sylw at unigrwydd ac unigedd fel ffactor risg ar gyfer hunanladdiad.
Mae argymhelliad 6 yn nodi pa mor hollbwysig yw rhoi diwedd ar y stigma sy'n gysylltiedig ag unigrwydd. Dylai codi ymwybyddiaeth fod yn gam cyntaf tuag at fynd i'r afael â'r mater ei hun. Ychydig iawn o bobl sydd eisiau cael eu labelu â'r gair 'unig', a gall ffactorau guddio'r rheswm sylfaenol. Gallwn weld o'n hymwneud drwy gydol ein hymchwiliad fod yna gryn dipyn o ewyllys ac angen hanfodol i oresgyn y broblem hon.
Canfu ein hymchwiliad fod llawer o waith da yn cael ei wneud eisoes ledled Cymru. Clywsom gan nifer o sefydliadau drwy gydol yr ymgynghoriad, a chynhaliais drafodaeth o amgylch y bwrdd ag Age UK yn fy etholaeth yr haf diwethaf i rannu enghreifftiau o brosiectau sy'n mynd i'r afael ag unigrwydd ac i weld sut i ledaenu arferion da yn y ffordd orau.
Yn argymhelliad 4, gwnaethom yn glir fod angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r sector gwirfoddol i ddarparu sefydlogrwydd i'r gwasanaethau y mae cymaint yn dibynnu arnynt. Gwneir cymaint o'r gwaith hwn gan wirfoddolwyr. Un enghraifft ragorol yw Ffrind i Mi. Gwasanaeth ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan ydyw sy'n cael ei arwain gan y nyrs ranbarthol Tanya Strange, sy'n berson ymroddedig iawn. Nod y gwasanaeth yw mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd drwy baru gwirfoddolwyr â phobl yn seiliedig ar eu diddordebau. Y syniad yw dweud, 'Gadewch i mi eich cyflwyno i ffrind i mi.'
Mae Ada yn enghraifft wych. Mae Ada yn 93 oed a dechreuodd brofi unigrwydd ac unigedd ar ôl marw ei gŵr. Roedd hi wedi bod yn gofalu am ei gŵr a oedd â dementia ers dros 10 mlynedd ac fel cymaint o rai eraill, roedd yr ymrwymiad i ofalu'n golygu ei bod wedi colli cysylltiad â'i ffrindiau agos. Pan fu farw ei gŵr, dechreuodd deimlo'n ynysig ac yn unig. Cyfeiriwyd Ada at Ffrind i Mi, ac fe'i helpodd i'r fath raddau nes bod Ada bellach yn wirfoddolwr, yn helpu eraill sy'n profi unigrwydd ac unigedd. Mae hi'n cyfarfod â menyw arall bob wythnos am baned o goffi a sgwrs yng nghanol dinas Casnewydd, ac mae'r ddwy'n elwa ar eu cyfeillgarwch newydd.
Mae'r broblem yn effeithio ar fwy na'n pobl oedrannus yn unig, fel y dywedodd Aelodau eraill. Mae ein hadroddiad yn bellgyrhaeddol, ond nid yw'n crafu'r wyneb hyd yn oed mewn perthynas ag unigrwydd ymhlith pobl ifanc, cyn-filwyr, mamau newydd, grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig a'r gymuned LGBT ymysg eraill. Cefais syndod pan fynychais lansiad Ffrind i Mi o adnabod wyneb yn y fideo. Roedd Rob Wiltshire ddwy flynedd yn iau na mi yn yr ysgol ac wedi ymuno â'r fyddin wedyn. Ag yntau bellach yn gyn-filwr yn ei 30au, teimlai mor bell oddi wrth ei rwydwaith cymorth ar ôl dychwelyd i'r DU nes ei fod wedi brwydro gyda theimladau o unigedd ac unigrwydd. Canfu Ffrind i Mi ac mae wedi mynd o nerth i nerth. Ond er bod cynlluniau fel hyn yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywydau pobl fel Ada a Rob, mae angen inni gynllunio ar gyfer y dyfodol a mabwysiadu dull mwy cyfannol o ymdrin ag unigrwydd ac unigedd, fel sy'n cael ei amlygu yn argymhelliad 2, ac mae hyn yn hanfodol.
Dywedodd un arall o drigolion Casnewydd, Carol Beaumont, wrth lansio ein hymchwiliad pa mor bwysig yw gallu gwybod am wasanaeth yn hawdd, er enghraifft drwy gysylltwyr cymunedol, ac mae angen inni ddefnyddio'r adnoddau gwerthfawr sydd gennym eisoes yn ein cymunedau a sicrhau bod y wybodaeth ar gael ac yn hygyrch i bobl ble bynnag y maent ei hangen. Mae gennym hanes balch o gymuned yng Nghymru, a gwyddom fod gennym y gyfran uchaf o bobl hŷn yn y DU. Mae'n fater iechyd y cyhoedd sy'n gorfod bod yn flaenoriaeth genedlaethol, ac mae angen i hynny ddechrau yn awr. Nid yn unig y bydd mynd i'r afael ag ef yn gwella bywydau pobl, ond bydd hefyd yn helpu i leihau'r galw am wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.