6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:10, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ar gyfer fy nghyfraniad, hoffwn wneud rhai sylwadau cyffredinol mewn gwirionedd ar y materion sy'n ymwneud ag unigedd ac unigrwydd, yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw rai o'r argymhellion penodol, oherwydd mae'n eironi mawr, onid yw, yn nyddiau'r rhyngrwyd, o wybod y gall pobl fynd ar FaceTime o bedwar ban byd, ein bod yn canfod problemau unigrwydd ac unigedd ar garreg ein drws, yma yn ein cymunedau.

Credaf fod hyn yn adlewyrchu'n rhannol y straen a osodir ar y wead cymdeithasol ein cymunedau. Mae gormod o'r byd cyhoeddus, gormod o'r pethau hynny y mae pawb ohonom yn ystyried eu bod er lles pawb, yn cael eu haberthu yn y cyfnod hwn o gyni, a dylai pawb ohonom osod premiwm uwch o lawer ar gadw'r gofodau a rennir sy'n caniatáu i bobl ffurfio cysylltiadau â'i gilydd. Ac wrth ddweud gofodau a rennir, nid adeiladau ffisegol yn unig a olygaf, er mor bwysig ydynt, ond hefyd y rhwydweithiau hynny sy'n dod â phobl at ei gilydd. Wedi'r cyfan, y rhwydweithiau cymdeithasol sy'n darparu'r sylfeini ar gyfer cymaint o ofal a gwytnwch.

Felly, er bod yr ymchwiliad wedi sefydlu bod problemau unigrwydd ac unigedd yn fwyaf cysylltiedig yn gyffredinol â phobl hŷn, ac ar hynny y canolbwyntiwyd yn bennaf o bell ffordd, mae'r materion a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn effeithio ar ystod eang o grwpiau eraill, a chyfeiriodd Angela Burns at hynny, fel y gwnaeth Lynne Neagle. Rwy'n falch fod y pwyllgor yn mynd i wneud gwaith pellach ar hyn yn ogystal, ond byddai'n dda pe gallai'r Gweinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau ymagwedd drawsadrannol yn y strategaeth sydd ar y gweill a fydd yn ymdrin â materion ehangach unigedd ac unigrwydd ar draws grwpiau eraill yn y gymdeithas, gan gynnwys aelodau'r lluoedd arfog, rhieni sengl, pobl ifanc, fel y clywsom eisoes, i enwi ond ychydig, gan fod yr adroddiad yn dangos pam y mae buddsoddi mewn mesurau i atal unigedd ac unigrwydd yn gwneud synnwyr yn economaidd i bob rhan o'r Llywodraeth.

Eisoes clywsom am fuddsoddi i arbed—cafodd hynny ei grybwyll gan nifer o siaradwyr heddiw—ac mae hwn yn weithgaredd buddsoddi i arbed. Os gallwn helpu i ddarparu rhwydweithiau cryfach i bobl, rydym yn llai tebygol o orfod mynd i'r afael â dirywiad acíwt cyflyrau iechyd corfforol a meddyliol sy'n gysylltiedig â'r broblem hon, cyflyrau sydd, yn yr amgylchiadau mwyaf eithafol, fel y dywedodd Lynne Neagle eisoes, yn gallu arwain at drasiedi hunanladdiad a mathau eraill o hunan-niwed.

Nawr, fel y soniodd Dai Lloyd yn ei sylwadau agoriadol, un o'r meysydd mwyaf addysgiadol o'n hymchwiliad i mi oedd pwysigrwydd—cafwyd tystiolaeth o hyn—cyswllt sy'n pontio'r cenedlaethau fel therapi, yn niffyg gair gwell, sy'n syml ac yn gosteffeithiol. Mae hynny'n caniatáu i mi gyfeirio'n fyr, rwy'n credu, at brosiect y bûm yn ymwneud rhywfaint ag ef a oedd yn dangos gwerth y gweithgarwch hwnnw sy'n pontio'r cenedlaethau.

Ychydig cyn y Nadolig, ymwelodd côr Only Boys Aloud Merthyr a Thredegar â chartrefi gofal yn yr ardal i ganu caneuon a charolau Nadolig gyda thrigolion fel rhan o'u menter Home for Christmas i gysylltu pobl ifanc a phobl hŷn drwy gerddoriaeth a chân. A chefais y pleser mawr o ymuno â'r bechgyn ifanc hyn i ganu cân neu ddwy yng Nghartref Gofal Greenhill Manor ym Merthyr Tudful. Prif bwynt hynny oedd rhoi cyfle i mi dystio i'r pleser a rannai pobl hŷn a phobl iau wrth ymuno yn llawenydd syml cerdd a chân. A'r hyn a welais yno oedd llawenydd a gwellhad ar waith, ac am ychydig oriau byr, pobl yn mwynhau cysylltiadau cymdeithasol, beth bynnag fo'u hoed. Roedd yn bleser pur ei weld, ac roedd yn bleser gennyf fod yn rhan ohono.

Yn 2016, Lywydd, roeddwn yn falch iawn o ymgyrchu ar sail maniffesto a oedd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â phroblemau unigedd ac unigrwydd, felly rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol i'n hadroddiad wrth iddynt gyflwyno eu strategaeth. Ac i gloi, Lywydd, credaf hefyd y byddwn, wrth gyflwyno cynllun gweithredu clir ar gyfer Cymru, yn talu ein teyrnged haeddiannol i Jo Cox, y cyn AS, a gwaith amhrisiadwy y sefydliad a ffurfiwyd yn ei henw, sy'n parhau â gwaith y comisiwn ar unigrwydd a sefydlwyd gan Jo i sicrhau newid sylfaenol mewn ymateb polisi cyhoeddus i argyfwng unigrwydd y DU—argyfwng y mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom, ac nid y Llywodraeth yn unig, i fynd i'r afael ag ef.