6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:27, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n eironig iawn ein bod yn cynnal dadl ar unigrwydd ar ddydd Sant Ffolant, ond fel y mae llawer wedi nodi, mae'n ddadl amserol. Nid oeddwn yn aelod o'r pwyllgor, ond credaf fod yr alwad i weithredu yn hollol briodol. Ond rwy'n rhwystredig fod yr atebion yn anwybyddu'r newidiadau technolegol y mae gwledydd eraill o gwmpas y byd yn manteisio arnynt. Mae'r tri pharagraff yn yr adroddiad sy'n mynd i'r afael â rôl technoleg i ymladd unigrwydd yn cyfeirio at ficrodonnau fel pethau sy'n cymell unigedd, ac yn nodi mai cyfryngau cymdeithasol a FaceTime yw technolegau ac arloesedd y dyfodol. Gadewch inni gael un peth yn ddealladwy: nid 'technoleg y dyfodol' yw cyfryngau cymdeithasol. Mae FaceTime yn wyth oed. Dylai'r ffaith nad yw eisoes mewn defnydd eang drwy'r system iechyd a gwasanaethau cymdeithasol fod yn achos pryder, ond peidiwch â chaniatáu i ni osod ein huchelgeisiau mor isel.

Oherwydd tra'n bod yn pendroni a all meddyg teulu drin Skype, mae gwledydd eraill yn treialu cynorthwywyr deallusrwydd artiffisial arloesol—rhyw fath o Siri y genhedlaeth nesaf. Mae Luke Dormehl, yn ei lyfr Thinking Machines, yn nodi rhai enghreifftiau. Mae'n sôn am flwch sgwrsio Microsoft yn Tsieina sy'n ymateb i negeseuon testun y mae defnyddwyr yn eu hanfon ato, sydd wedi dal sylw miliynau. Mae Xiaoice—credaf mai dyna'r ynganiad—yn defnyddio technegau dysgu dwfn i sganio'r rhyngrwyd, gan edrych ar sut y mae bodau dynol yn rhyngweithio. Mae'n defnyddio'r dysgu hwn i greu ymatebion bywyd go iawn i negeseuon testun sy'n cael eu hanfon ato. Mae'r bot yn olrhain ffyrdd o fyw ei ddefnyddwyr, gan gynnwys a ydynt mewn perthynas, eu swyddi, pethau y gallent fod yn gofidio amdanynt neu'n bryderus yn eu cylch, ac yn cyfeirio'n ôl at y rhain mewn sgyrsiau diweddarach, gan ddynwared ymddygiad hen ffrind. Yn Japan, maent wedi datblygu robot therapiwtig cyntaf y byd: morlo ifanc cymdeithasol sy'n gallu edrych i fyw eich llygaid ac sy'n addasu ei ymddygiad yn dibynnu ar sut y caiff ei drin—rhyw fath o Tamagotchi ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Gwelwyd bod gallu ymddangosiadol y morlo ifanc i uniaethu â'i ddefnyddwyr yn rhoi cysur, yn enwedig i bobl hŷn.

Nawr, nid yw Luke Dormehl yn awgrymu y bydd cynorthwywyr deallusrwydd artiffisial yn gallu disodli pob math o ryngweithio rhwng pobl, na finnau chwaith, ond mae'n amlwg fod yna gyfleoedd i dechnoleg chwarae rôl. Yr hyn sy'n fy mhoeni yn yr adroddiad yw mai prin y cyfeirir at y cyfleoedd hyn, oherwydd dylai pawb ohonom allu rhagweld sut y gallai technoleg helpu pobl â dementia i aros yn eu cartrefi, i gadw eu hannibyniaeth am ychydig mwy o amser. Mae'r dechnoleg yn bodoli eisoes i fonitro ymddygiad er mwyn gwirio, er enghraifft, a yw pobl yn agor a chau drysau cypyrddau fwy nag y byddent fel arfer, neu'n gadael amser hir cyn defnyddio'r ffwrn, i weld a yw eu hymddygiad yn anghyson. A gallwn ddychmygu technoleg sy'n sylwi os nad yw rhywun wedi llwyddo i wisgo eu hunain yn iawn neu sy'n trosi lleferydd aneglur. Mae'r pethau hyn oll o fewn cyrraedd, felly dylem droi ein sylw at archwilio sut y gallai technoleg ein helpu i roi diwedd ar unigrwydd a'i leddfu.

Mae bychanu rôl technoleg yn yr epidemig hwn a'i gyfyngu i ddyfeisiau cyfathrebu syml sydd eisoes ddegawd ar ei hôl hi yn broblemus iawn yn fy marn i. Fel rhan o becyn o fesurau, mae technoleg yn cynnig ffordd gosteffeithiol a chynaliadwy inni allu mynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd, a buaswn yn erfyn ar y Gweinidog i edrych ar hyn fel mater o frys. Diolch.