Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae'n braf cael cyfle i siarad yn y ddadl yma. Prin iawn yn fy mywyd i, rydw i'n meddwl, yr ydw i wedi teimlo yn wirioneddol ar fy mhen fy hun. Rydw i'n lwcus iawn yn hynny o beth, ac rydw i'n gobeithio y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn fan hyn â phrofiad tebyg, er nad ydy cael lot o bobl o'ch cwmpas chi yn angenrheidiol yn golygu na allech chi hefyd fod yn unig ac yn ynysig. Mae hynny yn rhywbeth y gwnaethom ni ei ddysgu, yn sicr, yn ystod ein hymchwiliad ni, a oedd yn sicr yn addysg i fi, ac rydw i'n gwybod, i fy nghyd-Aelodau. Beth mae'r adroddiad sydd gennym ni rŵan, wrth gwrs, yn fodd i'w wneud ydy atgoffa pob un ohonom ni, beth bynnag ydy ein profiadau personol ni, fod unigrwydd ac unigedd yn faterion difrifol iawn sy'n effeithio ar lawer iawn o bobl, ac etholwyr i bob un ohonom ni yma yn y Siambr yma.
Rydw i'n ddiolchgar i'r sawl sydd wedi bod yn cysylltu â ni dros y dyddiau diwethaf cyn y drafodaeth yma. Mae'r British Association for Counselling and Psychotherapy yn ein hatgoffa ni bod chwarter ein pobl hŷn yn gallu teimlo unigrwydd ac unigedd, ac mae hynny yn swm enfawr, yn enwedig, fel rydym ni wedi clywed gan Gadeirydd y pwyllgor, lle mae hwn yn cael effaith ar iechyd—nid gwneud i chi deimlo ychydig yn isel, a dymuno y byddai'n dda cael rhywfaint o gwmni, ond mae'n cael effaith ar eich iechyd corfforol a meddyliol. Grŵp arall sydd wedi cysylltu ydy Age Cymru, gan sôn am y mwynderau a'r adnoddau sydd wedi cael eu colli neu sydd mewn perygl o gael eu colli oherwydd cyfyngiadau ariannol, yn cynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, a bod yna bethau y gallem ni wneud i fuddsoddi mewn taclo unigrwydd ac unigedd.
Mi wnaf i jest cwpl o sylwadau yn sydyn iawn ynglŷn â dau argymhelliad penodol. Yr olaf un ohonyn nhw—fel un o gefndir cyfathrebu, mae cyfathrebu a negeseua efo pobl yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i fi. Mae argymhelliad 6 yn galw am godi ymwybyddiaeth ac i newid agweddau tuag at unigrwydd ac unigedd, a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig efo nhw. Fe'm hatgoffwyd i o drydariad y gwelais i—mae o gen i ar y sgrin o'm mlaen i yn fan hyn—ryw fis yn ôl, ychydig o dan fis yn ôl, gan ffrind da i fi. Mae'n berson adnabyddus iawn, Ffion Dafis, yr actores a chyflwynwraig deledu, a'r hyn a dywedodd hi yn ei thrydariad—ac mi wnaeth o fy nharo i ar y pryd—
'Oherwydd natur fy ngwaith y mae gen i ddyddiau rhydd weithiau lle y gallwn i fod yn ymweld â phobl sydd ar eu pennau ei hunain ond dwi ddim yn gwybod efo pwy na lle i gysylltu.'
Ac mae hi'n gwneud apêl am wybodaeth, ac roeddwn i'n meddwl, 'Ie, pa mor aml ydw i wedi clywed rhywun yn dweud hynny o'r blaen?' Nid yn aml iawn, mewn difrif, yn sicr gan bobl o fy nghenhedlaeth i. Mae yna fodd y gallem ni, drwy fod yn ymwybodol o unigrwydd a'r angen i fynd i'r afael ag o, feddwl sut y gallem ni i gyd chwarae rhan mewn taclo'r unigrwydd yna drwy gysylltu a chynnig cwmnïaeth i bobl. Mi oedd yr ymateb i'r trydariad yn ddifyr iawn, iawn, iawn, gyda llawer o bobl yn cynnig ffyrdd lle y gallai Ffion ac eraill gynnig eu hamser. Mae yna sefydliadau—capeli, byrddau iechyd, pob math o elusennau—sy'n cynnig llwybr i chi allu helpu pobl drwy eu hunigrwydd.
Ond mae hynny yn dod â ni at yr argymhelliad cyntaf, sef yr angen i gael y strategaeth yma i fynd i'r afael ag unigrwydd, achos dyma ydy rôl Llywodraeth: i roi arweiniad—arweiniad i'r holl sefydliadau ac unigolion yna sy'n sylweddoli maint problem unigrwydd ac ynglŷn â'r camau y gallem ni fod yn eu cymryd o ddifrif i fynd i'r afael ag o. Rydw i'n falch bod y Llywodraeth wedi ymateb yn gadarnhaol, yn derbyn neu'n derbyn mewn egwyddor yr argymhellion sydd wedi cael eu gwneud gan ein pwyllgor ni, ond rwy'n meddwl bod yr hyn rydw i wedi'i glywed, a fy nghyd-Aelodau, yn sicr yn dangos bod gyda ni broblem sy'n acíwt yng Nghymru o ran maint unigrwydd. Fy apêl i ydy i ddangos yr arweiniad yna cyn gynted â phosib drwy gyhoeddi strategaeth a fydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.