Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 14 Chwefror 2018.
Ceir llawer o resymau pam y daw cyflyrau iechyd meddwl yn amlwg. Mewn rhai achosion, gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod arwain at broblemau iechyd meddwl yn ddiweddarach mewn bywyd, a cheir cysylltiadau eglur â dibyniaeth ar gyffuriau ac felly â marwolaethau cynnar. Gall un enghraifft o brofiad niweidiol yn ystod plentyndod fod yn drawmatig, ond yn aml gwelwn oedolion sydd wedi gorfod ymdrin ag achosion lluosog yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol. Mae'r hyn sy'n digwydd i ni wrth i ni dyfu yn bwysig, ac nid yr erchyllterau mwy traddodiadol y mae rhai plant yn eu hwynebu yw hyn yn unig. Mae cymaint o bwysau ar blant heddiw yn y byd modern.
A siarad fel mam i ddwy ferch ifanc, gallaf ddweud wrthych ein bod yn cael brwydrau cyson am ddelwedd y corff, cynnwys y cyfryngau cymdeithasol, beth y mae'r cyfryngau print yn ei ddweud. Mae'r pwysau ar blant, yn enwedig merched, i gydymffurfio ag ymddangosiad neu steil penodol wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae pawb ohonom yn gwybod pa mor greulon y gall plant fod wrth ei gilydd. Adroddodd Childline fod 1,500 o ferched wedi cysylltu â hwy yn 2015-16, gyda'r ieuengaf yn wyth oed, yn poeni am ddelwedd eu corff—yn wyth oed, mewn difrif. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael ag ef cyn gynted â phosibl, oherwydd mae'r byd anllad sydd ohoni heddiw a'i sylw ar enwogion yn niweidio'r rhai sydd eto i ddatblygu'r croen trwchus a'r cryfder emosiynol i allu diystyru'r nonsens. Y canlyniad? Gorbryder, iselder, anhwylderau bwyta—mae'r rhain oll yn batrymau a all effeithio'n negyddol ar fywyd unigolyn yn y dyfodol.
Mae hyn yn fy arwain at ail bwynt ein dadl, lle yr hoffwn ganolbwyntio ar agweddau ar driniaeth iechyd meddwl y credwn nad ydynt yn gweithio'n dda. Mae'r agwedd gyntaf, ni fyddwch yn synnu clywed, yn ymwneud â diffyg cysondeb ar draws Cymru o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed o ansawdd da. Er gwaethaf eu natur fregus a llawer mwy agored i niwed yn aml, canran fach o'r cleientiaid sy'n dod o dan ymbarél CAMHS sy'n cael eu gweld o fewn yr amser aros argymelledig o bedair wythnos. Mae'n destun pryder mai tri yn unig o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru sy'n darparu tîm argyfwng CAMHS 12 awr, sy'n gweithio 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae'r un ym Mhowys yn gweithredu tan 5 p.m. o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim o gwbl ar benwythnosau. Beth y mae hynny'n ei ddweud am ba mor bwysig yw iechyd meddwl i ni?
Rwyf i, a llawer o Aelodau Cynulliad eraill—a hoffwn gyfeirio'n benodol at Lynne Neagle yn hyn o beth—yn dal i bryderu nad yw'r gwasanaethau CAMHS yn gweithio'n effeithiol. Mae Lynne wedi dadlau'n frwd ynglŷn â hyn. Mae'r meini prawf y byddant yn eu dilyn yn aml yn rhy gul. Caiff cleientiaid eu trin yn ôl eu cyflwr iechyd meddwl yn hytrach na chael eu trin fel unigolion. Ni roddir cymorth i blant sy'n bygwth cyflawni hunanladdiad am nad ydynt wedi cael diagnosis o broblem feddygol. Gwrthodir mynediad i blant sy'n dioddef o effeithiau cam-drin neu esgeulustod neu blant sydd â phroblemau ymlyniad, fel yr amlygodd adroddiad y pwyllgor plant a phobl ifanc i gymorth ôl-fabwysiadu yn glir iawn. Felly i ble yr ânt? Rwy'n ofni nad ydynt yn mynd i unman.
Hoffwn dynnu sylw at astudiaeth Mind Cymru a arolygodd 400 o bobl ym mis Chwefror 2016 a oedd naill ai wedi gofyn am, neu wedi cael therapïau seicolegol yn y tair blynedd cyn hynny. Canfu fod 57 y cant o bobl yn wynebu arhosiad o fwy na thri mis ddim ond i gael asesiad gan y gwasanaeth, ac roedd 21 y cant yn wynebu arhosiad o fwy na blwyddyn i gael eu hasesu. Rydym newydd gael dadl am unigrwydd ac unigedd, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n peri iselder. Ni allaf ddychmygu; dyna chi, rydych mewn cyflwr ofnadwy, mae taer angen help arnoch, mae eich meddwl yn brwydro, mae pob math o feddyliau yn eich pen, ond mae'n rhaid i chi aros am 12 mis i gael eich gweld. Mae'r drafft o gynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ar gyfer 2016-19 yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd adrodd ar y targed 26 wythnos rhwng atgyfeirio a thriniaeth mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd arbenigol ar gyfer pob claf, gan gynnwys y rhai mewn gwasanaethau cleifion mewnol.
Nawr, ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer 2017, dywedasom y dylai pobl gael mynediad cyfartal, pa un a ydynt mewn gofal sylfaenol neu ofal eilaidd—polisi a gefnogir gan Mind Cymru—a galwaf ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno targed i bawb allu cael mynediad at therapïau seicolegol o fewn 28 diwrnod. Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnaf i chi edrych i weld a allwch sicrhau hyn. Ac wrth wneud hynny, a wnewch chi hefyd adolygu'r ffordd y caiff hyfforddiant ar faterion iechyd meddwl ei strwythuro? Er enghraifft, nid yw meddygon teulu ar hyn o bryd ond yn cyflawni un modiwl hyfforddiant, allan o 21, ar iechyd meddwl yn benodol. Mae niferoedd y meddygon teulu dan hyfforddiant sy'n ymgymryd â chyfnod mewn seiciatreg yn lleihau'n gyson ac nid yw llawer o feddygon teulu ond yn gweld yr achosion mwyaf difrifol o salwch iechyd meddwl mewn cyfleusterau gofal sylfaenol yn ystod eu hyfforddiant ac felly maent yn llai cyfarwydd ag ef ac felly'n ei chael hi'n anos adnabod achosion mwy cymedrol o orbryder neu iselder ysbryd a allai elwa o ymyrraeth gynnar pan fo'r bobl hynny'n dod i'w meddygfeydd.
Mater arall rwyf wedi'i godi dro ar ôl tro yw'r ffordd y clustnodwyd gwariant ar iechyd meddwl gan y byrddau iechyd. Er ei fod wedi ei glustnodi ers 2008, mae iechyd meddwl yn faes o'n gwasanaeth iechyd sydd wedi'i danariannu i raddau cronig. Yn 2015-16, gwariwyd 5.1 y cant yn unig o wariant y GIG ar iechyd meddwl oedolion, a 0.7 y cant ohono'n unig a wariwyd ar wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Er bod clustnodi arian yn amlygu pa mor bwysig yw hi i ddiogelu gwariant ar iechyd meddwl, gwyddom nad yw'n adlewyrchiad cywir o ble y dylai cyllid iechyd meddwl fod, oherwydd mae bron bob un o'r byrddau iechyd yn dweud eu bod yn gwario llawer mwy na hynny ar iechyd meddwl. Ond rydym hefyd yn gwybod bod clustnodi arian ar iechyd meddwl neu'r defnydd o'r arian a glustnodir yn agored i ddehongliad gyda llawer o fyrddau iechyd yn chwarae'r system ac yn datgan y gellir defnyddio'r arian a glustnodir i ymgorffori'r holl gostau mewn perthynas â chlaf. Clywsom dystiolaeth yn y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol yn ddiweddar sy'n dweud, ac rwy'n mynd i ddyfynnu,
Er enghraifft, os yw claf sydd wedi cael diagnosis iechyd meddwl sylfaenol yn torri ei glun, bydd costau trin y glun yn cael eu cynnwys o fewn yr arian a glustnodir ar gyfer iechyd meddwl.
Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi addo adolygu'r gwariant a glustnodir er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i sicrhau datblygiadau mawr eu hangen yn y gwasanaeth hwn? Oherwydd os caiff ei ddefnyddio ar bethau fel cluniau pan fyddwch wedi ei glustnodi ar gyfer iechyd meddwl, sut y gallwn drawsnewid y modd y darparwn wasanaethau iechyd meddwl?
Wrth i mi ddod â fy sylwadau i ben, hoffwn dynnu sylw at ychydig o enghreifftiau lle mae prosiectau arloesol yn newid bywydau. Yn fy ardal fy hun, mae Hywel Dda, ar y cyd â Heddlu Dyfed-Powys, yn sefydlu tri chaffi argyfwng ar draws y rhanbarth gyda'r bwriad o ganiatáu i bobl alw heibio a chael sgwrs â chyrff cymorth perthnasol dros baned o goffi. Mae hyn yn newid enfawr i'r defnydd presennol o'r heddlu fel ymatebwyr cyntaf i gynifer o bobl sy'n arddangos arwyddion o iechyd meddwl gwael. Mae'n ychwanegu at yr ofn a'r stigma hwnnw ac yn y pen draw yn troseddoli rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl—ac rwy'n dweud yn glir nad wyf yn dal heddluoedd yn atebol am hyn; yn aml iawn, hwy yw'r unig rai sydd ar gael.
Daw enghraifft arall o arfer gorau o Loegr lle mae gan chwe ymddiriedolaeth GIG dimau wedi'u hyfforddi yn y dull deialog agored. Mae'r dull hwn yn golygu bod pobl yn cael eu gweld o fewn 24 awr i fynd yn sâl. Cynhelir cyfarfodydd gyda thimau seiciatrig yn eu cartrefi neu ble bynnag y bydd cleifion yn teimlo'n gyffyrddus, ac mae hefyd yn sicrhau bod y mantra 'dim byd amdanoch chi heboch chi' yn cael ei fabwysiadu ac yn galluogi cleifion i weld eu nodiadau i gyd. Mae'n syniad arloesol sy'n werth i'r GIG yng Nghymru edrych arno. Mae galw clir yng Nghymru bellach, nid yn unig gan y Cynulliad Cenedlaethol ond hefyd gan y rhai sy'n gweithio ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn y trydydd sector ac unigolion, i ddiwygio'n radical y ffordd y darperir gwasanaethau iechyd meddwl. Mae angen i ni gydnabod yn llawn beth yw'r manteision cymdeithasol ac economaidd unigol a ddaw o atal iechyd meddwl rhag gwaethygu. Mae angen inni ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar lefel sy'n gydradd â'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd corfforol, ac mae angen inni sicrhau bod ein gwasanaethau eilaidd a'n gwasanaethau argyfwng yn gallu cefnogi pobl yn ddiogel ac yn effeithiol pan fo'u hangen. Yn y pen draw, mae'n ymwneud â phobl. Rydym yn fodau o gig a gwaed, ond rydym hefyd yn fodau'r meddwl a'r enaid. Ni allwn fod yn iach oni bai bod y cyfan ohonom yn cael ei drin fel un.