7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 5:47, 14 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig a gyflwynir heddiw gan y Ceidwadwyr Cymreig ar destun iechyd meddwl. Mae'r mater hwn yn un a fydd yn effeithio ar lawer ohonom yn ystod ein hoes, naill ai'n uniongyrchol neu drwy deulu a ffrindiau agos, a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i'r Aelodau sydd wedi mynegi eu profiadau personol mewn perthynas ag iechyd meddwl yn y Siambr hon ar achlysuron blaenorol. Fe fuoch yn agored ac yn ddewr i wneud hynny. Drwy rannu'r profiadau hynny, credaf ei fod wedi helpu eraill i ddeall nad oes unrhyw gywilydd mewn bod yn sâl.

Rydym wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd ein bod am dynnu sylw at iechyd meddwl. Rydym am dynnu sylw at y ffaith y gallai gwasanaethau iechyd meddwl Cymru arwain y byd pe baent yn cael eu rhedeg mewn ffordd fwy rhagweithiol a chyfannol. Rydym am anfon neges i'r holl bobl sy'n byw gyda phroblemau iechyd meddwl fod golau ar ddiwedd y twnnel, a bod pobl yn deall.

Mae iechyd meddwl yn derm cyffredinol am amrywiaeth o gyflyrau. Gall pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl gael cyflyrau'n amrywio o orbryder ysgafn, iselder, ac anhwylderau bwyta, i sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol. Er bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn llawer mwy ymwybodol o gyflyrau iechyd meddwl mwy cyffredin, ac yn gallu eu trin yn fedrus, mae'n llawer anos cael mynediad at, neu siarad yn gyflym ag arbenigwyr sy'n ymdrin â chyflyrau mwy difrifol a chymhleth. Gall diffyg cymorth digonol i'r cyflyrau mwy cymhleth arwain at ganlyniadau difrifol i iechyd y claf a gall eu harwain i chwilio am fathau eraill o gymorth, drwy droi at gyffuriau neu alcohol.

Gall iechyd meddwl da effeithio'n gadarnhaol, nid yn unig ar yr unigolyn, ond hefyd ar y gymuned gyfan. Mae'n caniatáu i ni fod yn fwy gwydn ac i ymdopi â'r hyn sydd gan fywyd i'w daflu atom. Amcangyfrifir y bydd un o bob pedwar ohonom—dyna 25 y cant; chwarter y nifer sydd yn y Siambr hon—yn dioddef o anhwylder meddwl cyffredin ar ryw adeg yn ystod ein hoes. Mae hwnnw'n ystadegyn sy'n peri pryder, a'r hyn sy'n ei wneud yn waeth yw'r ffaith bod stigma di-sail yn dal i fodoli ynghylch salwch meddwl, sy'n atal llawer o bobl, yn enwedig dynion, rhag wynebu eu teimladau neu geisio cyngor am na allant ymdopi mwyach.

Yn ôl Samariaid Cymru, mae rhywle rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy gyflawni hunanladdiad bob blwyddyn—bron un y dydd; 30 y mis. Mae tua thri chwarter y rhain yn ddynion. Mae 150,000 o bobl eraill yn meddwl am gyflawni hunanladdiad, yn ôl adroddiad gan gonffederasiwn Cymru ar iechyd meddwl yn 2017. Dyna oddeutu 5 y cant o'r boblogaeth gyfan, sy'n ystadegyn gwirioneddol sobreiddiol. Ac nid y rhaniad rhwng dynion a menywod yn unig sydd wedi dod yn amlwg yn ddiweddar. Mae Samariaid Cymru hefyd yn nodi gwahaniaeth cynyddol rhwng pobl sy'n byw mewn tlodi a phobl o ardaloedd mwy cefnog. Canfu ymchwil yr elusen fod ymddygiad hunanladdol yn cynyddu wrth i amddifadedd gynyddu. Mae derbyniadau i'r ysbyty yn sgil hunan-niwed ddwywaith mor uchel mewn ardaloedd difreintiedig o gymharu â'r ardaloedd mwyaf cyfoethog, ac roedd y risg o hunanladdiad yn cynyddu gyda lefelau diweithdra. Mae gwaith ymchwil arall wedi amcangyfrif bod cost iechyd meddwl gwael yn y gweithle yn £12 biliwn y flwyddyn, bron £860 am bob gweithiwr yng Nghymru. Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn oll yn gwneud i ni ofyn beth y gellir ei wneud i addysgu pob un ohonom sut i adnabod arwyddion iechyd meddwl gwael yn gynharach o lawer.