7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 14 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:00, 14 Chwefror 2018

Rydym yn ddiweddar wedi clywed llawer o sôn, a chwestiynau yn cael eu holi o'r Llywodraeth yn y Siambr yma, am ofal iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae rhestrau aros ac amser aros yn un mesur pwysig o berfformiad. I'ch atgoffa chi, rhwng 2013 a 2015 mi welwyd cynnydd anferth mewn amseroedd aros, yn enwedig ar gyfer y rheini a oedd yn aros dros 16 wythnos neu bedwar mis. Roeddem ni mewn sefyllfa lle roedd bron i hanner y bobl sydd yn aros yn gorfod aros am fwy na pedwar mis. Mi fu yna beth gwelliant wedyn, ond erbyn Chwefror 2017, y mis olaf o ddata sydd gennym ni i allu cymharu, nid oedd amseroedd aros yn dal ddim wedi mynd yn ôl i lefelau haf 2013, felly mae'r dirywiad yn glir iawn. 

Ond ymateb y Llywodraeth, yn anffodus, dro ar ôl tro oedd gwadu y broblem. Ar sawl achlysur, mi wnaeth y Prif Weinidog honni mai y broblem mewn difrif oedd fod yna ormod o bobl ar y rhestr oedd ddim angen bod ar y rhestr. Ac ym mis Mawrth y llynedd, beth welsom ni oedd yr ystadegau yn newid dros nos. Aeth nifer y bobl a oedd ar y rhestr wedi'u cofnodi yn aros am apwyntiad CAMHS i lawr 74 y cant, wrth i lwybrau non-CAMHS gael eu tynnu oddi yna, a hynny'n dros 1,700 o blant. Mae'n gwelliant ni heddiw yn adlewyrchu ein bod ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd i'r plant hynny; data CAMHS ydy'r unig ddata perfformiad sydd ar gael.

Yn anochel, mi wnaeth newid y mesur o amseroedd aros arwain at y Llywodraeth yn dweud wrthym ni fod amseroedd aros yn gwella, gan fod y data yn dangos gwelliant mawr: 86.7 y cant o achosion rŵan yn cael eu gweld o fewn pedair wythnos. Naid sylweddol o'r 35.2 y cant yn ystod y mis blaenorol. Ond, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd yma ydy newid yn sut mae pethau yn cael eu mesur, felly allwn ni ddim cymharu go iawn, ac ni ydym yn gwybod beth ddigwyddodd i'r 74 y cant arall o blant yr oeddem ni'n arfer cofnodi eu siwrnai nhw. 

Mi wnaeth y Prif Weinidog ysgrifennu at Leanne Wood pan wnaethom ni godi hwn ym mis Tachwedd, a chadarnhau bod ein ffigurau ni yn gywir: 74 y cant o achosion eraill, un ai'n blant a fyddai rŵan yn cael eu gweld gan y gwasanaeth arbenigol ar gyfer plant gyda chyflyrau niwroddatblygiadol a gafodd ei ddatblygu yn 2016-17, neu eu bod nhw'n achosion llai a oedd wedi cael eu gweld gan wasanaethau iechyd meddwl gofal sylfaenol lleol a oedd wedi cael eu cynnwys ar gam yn ffigurau CAMHS. Ond, wrth gwrs, nid oes gennym data ar gyfer plant sydd angen y gwasanaethau yna. 

Rydym yn derbyn bod yna rai plant, o bosibl, wedi bod angen y triniaeth ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol, yn hytrach na CAMHS. Rydym hefyd yn gwybod bod y trothwy ar gyfer CAMHS wedi bod yn llawer rhy uchel. Mi gafodd hynny ei nodi gan ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2014. Mi nododd Swyddfa Archwilio Cymru hefyd fod problem o ran triniaeth i bobl ifanc yn cael ei stopio os oedd apwyntiad yn cael ei golli, a bod hynny yn broblem a oedd yn dylanwadu ar ffigurau.

Ond rwy ymhell iawn o fod wedi cael fy argyhoeddi mai'r unig broblem efo CAMHS oedd bod yna ormod o blant yno oedd ddim angen bod yna. Rydym yn gwybod ei bod yn broblem o gapasiti, yn broblem o ddiffyg gwasanaethau arbenigol, a methiant i gymryd y sefyllfa ddigon o ddifrif. Ac mae diffyg data yn broblem sy'n golygu na allwn ni fesur a rhoi pwysau ar y Llywodraeth i weithredu yn y ffordd mae'n pobl ifanc ni ei hangen. Ni allwn dderbyn y status quo o beidio gwybod sut mae'r NHS yn perfformio pan mae'n dod i edrych ar ôl rhai o'n pobl mwyaf bregus ni.