Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rwy’n falch o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma.
Ddoe, fe ges i’r fraint o allu cyd-gynnal sesiwn briffio yma yn y Cynulliad ar wasanaethau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig gyda Simon Thomas. O’r digwyddiad yma, daeth i'r amlwg rai o'r materion difrifol iawn ynghylch y ddarpariaeth ar gyfer iechyd meddwl yn ein cymunedau gwledig. Fel dywedodd Angela Burns, mae un ym mhob pedwar o bobl yn dioddef o broblemau iechyd meddwl rywbryd yn eu bywydau, ac yn y byd amaethyddol, ceir un o’r cyfraddau uchaf o hunanladdiad. Mae’r diwydiant ffermio yn gallu bod yn anodd iawn i weithio ynddo ac mae nifer o’r ffactorau hynny o straen yn rhywbeth sydd tu hwnt i ddwylo ffermwyr, megis anwadalwch mewn prisiau yn y farchnad, neu’r effaith emosiynol o TB mewn gwartheg. Mae nifer o ffermwyr yn gweithio mewn amodau ynysig ac yn treulio oriau hir ar eu pennau eu hunain gydag ychydig iawn o gyswllt gyda phobl eraill. Mae natur y gwaith yn mynnu oriau hir o waith llafur corfforol caled.
Yn wir, yn ôl yr adroddiad ar gefnogi lles ffermwyr gan Nuffield Farming Scholarships Trust mae yna tua 50 o ffermwyr ym Mhrydain yn marw bob blwyddyn drwy hunanladdiad. Yn yr Unol Daleithiau, ffermwyr, fforestwyr a physgotwyr sydd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad, o gymharu ag unrhyw broffesiwn arall yn y wlad. Er gwaetha’r ffeithiau hyn, nid yn aml caiff iechyd meddwl ei sôn amdano yn y diwydiant amaethyddol, ac er bod ymdrechion yn cael eu gwneud i fynd i'r afael â'r mater hwn, mae'n amlwg y gellir gwneud mwy.
Fodd bynnag, mae ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig yn cynyddu ac mae peth gwaith da yn cael ei wneud ar hyn o bryd ledled Cymru. Yn fy etholaeth i, sefydlodd Emma Picton-Jones Sefydliad DPJ ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth ei gŵr Daniel, a chlywsom gyflwyniad arbennig gan Emma yn y sesiwn briffio ddoe. Nod y sefydliad yw cefnogi dynion mewn cymunedau gwledig sydd â phroblemau iechyd meddwl trwy ddefnyddio stori Daniel i helpu i dorri'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, ac yn ddiweddar iawn lansiodd y sefydliad Share the Load, ei wasanaeth cwnsela allgymorth sy'n cynnig therapïau siarad a chynghori allgymorth i'r rhai sydd angen y gefnogaeth hon. Mae gwaith Sefydliad DPJ ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar sir Benfro, ond mae enghreifftiau o'r math hwn o weithgareddau mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo ac yn hyrwyddo rhwydweithiau cymorth iechyd meddwl mwy lleol sydd yn addas i ofynion yr ardaloedd hynny. Efallai wrth ymateb i'r ddadl hon, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym ni sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhwydweithiau cymunedol llai, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, i fynd i'r afael â mater iechyd meddwl yn y cymunedau hynny.
Wrth gwrs, mae codi ymwybyddiaeth yn un peth, ond mae hefyd yn bwysig bod darpariaeth o wasanaethau ar gael i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ac mae pryderon nad oes mynediad at wasanaethau mewn ardaloedd gwledig ar gael. Mae natur anghysbell y nifer o gymunedau ffermio yn golygu eu bod yn aml yn ddaearyddol bell oddi wrth wasanaethau iechyd craidd. Er enghraifft, llynedd, ymgynghorodd bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda am ei gynlluniau i newid y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl ar draws gorllewin Cymru trwy sefydlu uned asesu arbenigol ganolog yn ysbyty Glangwili gydag uned drin ganolog yn Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli. Felly, ar gyfer cymunedau gwledig yn sir Benfro, unwaith eto bydd rhaid i gleifion deithio ymhellach i ffwrdd ar gyfer triniaeth arbenigol. Yn anffodus, bydd cynigion y bwrdd iechyd yn ychwanegu at amseroedd teithio yn naturiol ac, yn sicr, bydd yn anodd i bobl sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus oherwydd bod seilwaith trafnidiaeth sir Benfro yn gyfyngedig. Felly, mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw un dull sy’n addas i bawb yn gweithio, a rhaid sicrhau bod byrddau iechyd yn deall hynny wrth gynllunio gwasanaethau.
Gallwn hefyd ddysgu gwersi o bob cwr o'r byd ynghylch sut y maent yn ymdrin ag iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig. Mae adroddiad Ymddiriedolaeth Ysgoloriaethau Ffermio Nuffield yn ei gwneud hi'n glir bod Awstralia a Seland Newydd yn eithaf datblygedig wrth fynd i'r afael ag iechyd meddwl ffermwyr, ac efallai y gallwn fanteisio ar rai o'u syniadau. Er enghraifft, mae gan Seland Newydd system o health pit stops lle mae gan ffermwyr y cyfle i gael archwiliad iechyd corfforol a meddyliol cyffredinol, ac mae'r pit stops hyn yn cael eu cynnal mewn digwyddiadau diwydiant mawr megis sioeau amaethyddol. Mae Awstralia hefyd wedi datblygu sefydliadau megis y Ganolfan Iechyd Meddwl Gwledig ac Anghysbell a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Ffermwyr sy'n canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau ymyrraeth ar gyfer iechyd a lles meddwl gwledig. Felly, mae lle i Gymru i edrych ar y cynlluniau hyn a gweld sut y gallwn ni ddysgu am rai o'r llwyddiannau yma, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ein byrddau iechyd yn dysgu o gynlluniau llwyddiannus ledled y byd.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, a allaf unwaith eto ailadrodd pwysigrwydd buddsoddi mewn rhwydweithiau cymorth iechyd meddwl ar gyfer cymunedau gwledig? Mae ffermwyr yn rhai o weithwyr pwysicaf Cymru, ond weithiau maent hefyd yn rhai o’n pobl mwyaf bregus. Felly, fel rhan o unrhyw strategaeth neu bolisi'r Llywodraeth a ddatblygir ar iechyd meddwl, hoffwn weld mwy o ddealltwriaeth a sylw i'n cymunedau gwledig a'r rheini sy'n gweithio ynddynt. Felly, rydw i'n annog pobol i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch yn fawr iawn.