Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 14 Chwefror 2018.
Rwy'n siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Yn ddiweddar fe gynhaliwyd ymchwiliad cynhwysfawr gennym i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Yfory, byddwn yn cynnal ein sesiwn tystiolaeth lafar olaf, ac yn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rydym yn anelu at gyflwyno adroddiad cyn y Pasg eleni, felly rwyf am osgoi achub y blaen ar ein casgliadau a'n hargymhellion yn fy nghyfraniad heddiw.
Fodd bynnag, roeddwn am dynnu sylw'r Aelodau at y dystiolaeth werthfawr a gawsom ar y pwnc hwn yn y misoedd diwethaf, a'r pwyslais arbennig a roddwyd ar bwysigrwydd gwaith ataliol effeithiol gan randdeiliaid arbenigol, staff rheng flaen a phlant a phobl ifanc eu hunain. Dechreusom ein hymchwiliad yr haf diwethaf.
Y peth cyntaf a wnaethom oedd ymweld â lleoliadau sy'n darparu cymorth i blant a phobl ifanc ar ddau ben y sbectrwm angen. Tra bu rhai ohonom yn ymweld â dwy uned cleifion mewnol Cymru, sy'n darparu cymorth i rai sy'n dioddef y salwch meddwl mwyaf dwys ac sydd angen gofal mwyaf arbenigol, ymwelodd eraill ag Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, ysgol gynradd sydd wedi ymgorffori ymwybyddiaeth ofalgar ar draws ei haddysg gynradd ac iau. Ar eu hymweliad ag Ysgol Pen y Bryn, gwelodd yr Aelodau drostynt eu hunain beth y gellir ei gyflawni o ran gwytnwch plant os mabwysiedir dull gweithredu ysgol gyfan sy'n hybu lles ac iechyd meddwl da i bob disgybl o oedran cynnar. Dywedodd plant mor ifanc â chwech oed wrthym fod ymwybyddiaeth ofalgar yn eu helpu pan oeddent yn gofidio, yn nerfus neu'n bryderus. Ar y llaw arall, dywedodd y bobl ifanc y buom yn siarad â hwy yn Nhŷ Llidiard, yr uned ar gyfer plant a phobl ifanc yn ne Cymru sydd angen gofal cleifion mewnol, fod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac i rymuso pobl ifanc i siarad am yr hyn sy'n peri pryder iddynt. Dywedasant wrthym eu bod wedi bod yn dioddef problemau iechyd meddwl am amser hir cyn iddynt gael mynediad at unrhyw fath o gymorth, arbenigol neu fel arall.
Yn ystod y cyfnod y buom yn casglu tystiolaeth, mae wedi dod yn amlwg fod lleoliadau ysgol yn allweddol i hyrwyddo lles emosiynol ac iechyd meddwl da. Ceir consensws cryf y gellir osgoi gwaethygu sylweddol mewn lles meddyliol drwy ymdrin â materion cyn gynted ag y bo modd, cyn i broblemau ddod yn ddigon difrifol i fod angen ymyrraeth arbenigol. Os yw cymorth yn mynd i fod yn wirioneddol ataliol o ran ei natur, clywsom fod angen inni wneud yn siŵr fod plant a phobl ifanc yn gallu siarad yn agored am eu lles emosiynol a gwybod lle i droi os oes ganddynt bryderon amdanynt eu hunain neu am eraill. Tynnodd bron bob tyst sylw at y cyfleoedd a gynigir gan ddiwygio'r cwricwlwm yng Nghymru.
Serch hynny, mae'n amlwg hefyd fod angen newid sylweddol i wireddu'r uchelgais hwn. Er gwaethaf awydd cyffredinol i weld addysg, iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio'n agosach i gydlynu eu cymorth, dengys y dystiolaeth a glywsom nad yw hyn wedi'i roi ar waith yn ymarferol eto i'r graddau sy'n angenrheidiol. Er gwaethaf ymdrechion mudiadau fel y Samariaid i gyflwyno cymorth fel prosiect DYEG—datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando—mae gormod o blant heb yr arfau sydd eu hangen arnynt i'w galluogi i ymateb yn wydn i'r pwysau y mae bywyd yn ei roi arnynt o oedran mwyfwy cynnar. Fel y dywedodd Dr Liz Gregory, seicolegydd clinigol ymgynghorol, wrthym, yn rhy aml pan fo gennym bryderon ynglŷn ag iechyd meddwl ein plant, rydym yn troi at fodel gofal oedolion. Mae hyn yn dynodi methiant i gydnabod y gwendid cynhenid a'r diffyg rheolaeth sydd gan blant ar eu bywydau eu hunain ar gam cymharol gynnar yn nhaith bywyd.
Wrth gloi, hoffwn nodi ein bod, fel pwyllgor, wedi taflu goleuni ar y pwnc hwn dros y chwe mis diwethaf gyda'r nod o ddiwygio system sydd wedi dibynnu, am gyfnod rhy hir, ar adael i blant a phobl ifanc gyrraedd pwynt lle mae angen triniaeth ac ymyrraeth feddygol cyn y darperir cymorth. Pan fyddwn yn cyflwyno ein hadroddiad yn ddiweddarach y tymor hwn, byddwn yn canolbwyntio ar y camau sydd angen inni eu cymryd i wrthdroi hyn, er mwyn hybu lles ac iechyd meddwl da fel y galluogir ein plant a'n pobl ifanc i drafod eu hemosiynau heb ofni stigma a sicrhau bod ganddynt yr arfau sydd eu hangen arnynt i wynebu heriau a phwysau yn wydn a hyderus. Diolch.