Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl. Mae'n un o gyfres a gawsom y prynhawn yma lle y ceir cefnogaeth drawsbleidiol i wasanaethau gwell mewn maes penodol.
Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad ar gyfer yr ymgyrch Amser i Newid Cymru yma yn y Senedd. Fel y gwyddoch, nod yr ymgyrch honno yw rhoi diwedd ar stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru. Wythnos cyn hynny—rwy'n siŵr fod llawer o gyd-Aelodau eraill wedi gwneud fel y gwnes i—cymerais ran ar Ddiwrnod Amser i Siarad, diwrnod sy'n hyrwyddo'r neges fod unrhyw ddiwrnod, unrhyw funud, unrhyw amser yn amser da i siarad am iechyd meddwl. Mewn gwirionedd fe drydarais, gyda chymorth fy ymchwilydd galluog iawn, rhaid imi ddweud, ond beth bynnag, ni wnaf—[Chwerthin.] Wyddoch chi, ni allwch drawsnewid rhywun yn llwyr, allwch chi? Nid dros nos, beth bynnag. Ond beth bynnag, hanner ffordd i lawr Rhodfa Lloyd George, wrth y gwaith celf cyhoeddus yno o ddau wyneb yn siarad, neu gusanu efallai—nid wyf yn gwybod; mae'n dibynnu ar eich dehongliad—sefais yno o'i flaen, a siarad am fy mhrofiad fy hun, a pha mor bwysig yw hi i siarad am iechyd a lles a gwellhad meddyliol.
Rwy'n credu y gallem gael gwasanaethau iechyd meddwl o safon sydd hyd yn oed yn well na'r rhai o'r radd flaenaf sydd gennym ar hyn o bryd, ac mae gennym rai o safon felly. Gadewch inni gydnabod hynny. Mae yna ymarfer gwych yng Nghymru. Ond gyda chyfres o ddeddfau gwirioneddol bellgyrhaeddol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 ac yn fwyaf diweddar, yr adolygiad seneddol, a phob un yn amlygu lefel o gonsensws ar draws y Cynulliad, credaf fod angen inni ddisgwyl mwy, dulliau sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, mwy o gynllunio rhwng cenedlaethau ar gyfer yr hyn y dylem ei ddarparu, a rhoi diwedd go iawn ar rwystrau rhwng iechyd corfforol a meddyliol o ran yr hyn y ceisiwn ei gyflawni.
Felly, rwy'n credu bod angen inni adeiladu ar yr ymarfer gwell pan ddaw'n amlwg. Dysgais yn ddiweddar am Mind Cymru a'u gwaith gyda meddygon teulu a byrddau iechyd lleol ar gyflwyno gwasanaethau atal yn fuan. Nawr, rwy'n ystyried bod hyn yn allweddol, ac maent yn monitro'n weithredol. Rwy'n falch o weld bod y cynllun monitro gweithredol wedi cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Hyd yma, mae'r monitro gweithredol wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau cychwynnol, gyda 38 o feddygfeydd teulu ar draws Cymru'n cynnig gwasanaethau i gleifion o dan y cynllun monitro gweithredol, a thua 433 o gleifion yn cael cymorth ar hyn o bryd. O'r cleifion hynny, gwellodd 71 o bobl a oedd wedi profi lefelau clinigol o bryder a phanig yn llwyr, gyda 54 y cant o'r bobl a oedd wedi profi lefelau clinigol o iselder yn gwella'n llawn.
Os caf fi ddweud, rwy'n tybio nad fi yw'r unig Aelod Cynulliad, ond rwy'n sicr fy mod i'n un sydd wedi cael nifer o episodau o byliau o banig? Mae'n ofnadwy o nychus. Mae'n cael effaith enfawr ar eich hyder a'r hyn y credwch y byddwch yn gallu ei wneud. Wedi i chi fynd drwy hynny, a phan fyddwch wedi cael y driniaeth, y cymorth, beth bynnag ydyw, mae'r boddhad a deimlwch, y lles a deimlwch, a'r sefydlogrwydd a deimlwch yn rhywbeth tu hwnt i fesur. Rwy'n meddwl bod unrhyw wasanaethau sy'n galluogi pobl i gyrraedd y cyflwr gwell hwnnw yn werthfawr iawn. Nid ydynt yn aml yn ddwys iawn. Nid ydym yn sôn am bobl â salwch difrifol. Gadewch inni gofio hynny. Gorbryder ac iselder a phyliau o banig: gallant fod yn rhan o salwch mwy difrifol, ond gall pobl nad ydynt yn ddifrifol wael o ran eu hiechyd meddwl fod yn agored i'r pethau hyn. Felly, gall salwch ysgafn i gymedrol fod yn nychus tu hwnt, a chael effaith enfawr ar yr economi yn ogystal, a bywyd teuluol a phob math o bethau.