Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 14 Chwefror 2018.
Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl heddiw hon ac i Angela am agor y ddadl ac am ei chyfraniad huawdl.
Yn anffodus, nid yw iechyd meddwl yn cael y sylw y mae'n ei haeddu yn ein GIG o hyd. Rwy'n croesawu'r £20 miliwn ychwanegol i'r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl, sy'n codi'r cyfanswm i £649 miliwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon o hyd.
Ar ôl gweithio gyda phobl â graddau amrywiol o broblemau iechyd meddwl, mae'n ddirdynnol a dweud y lleiaf, a chyfarfod a'u teuluoedd—roedd yn ingol iawn. Ar ôl gweithio'n agos gyda'r Samariaid hefyd, teimlaf yn ostyngedig wrth ystyried y gwaith a wnânt a'r gwasanaeth drwy'r dydd a'r nos a ddarparant a hefyd y bywydau y maent yn eu hachub. Rwy'n derbyn mai'r gyllideb a glustnodwyd yw'r isafswm gwariant ac y gall y gwariant gwirioneddol fod yn uwch o lawer na hynny, ond fel arfer nid yw'n llawer uwch. Y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf y mae gennym ffigurau ar ei chyfer, 2015-16: gwariodd Cymru £683 miliwn. Pan ystyriwch fod y gyllideb iechyd oddeutu £7.5 biliwn a bod materion iechyd meddwl yn effeithio ar fwy na chwarter ein poblogaeth, pam rydym yn gwario tua 10 neu 11 y cant ar wasanaethau iechyd meddwl?
Mae PricewaterhouseCoopers, yn eu hadolygiad o'r trefniadau clustnodi arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, yn datgan nad yw'r arian a glustnodir yn seiliedig ar asesiad cadarn o anghenion gofal iechyd. Mae angen i Lywodraeth Cymru newid y trefniadau clustnodi arian fel mater o frys.
Nid wyf am ailadrodd achos y cyn-filwyr oherwydd mae Darren eisoes wedi ei ddweud, ond rwy'n cefnogi'r hyn a ddywedodd.
Mae amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn dal yn llawer rhy hir, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Er gwaethaf y targed o 28 diwrnod, mae mwy na hanner y plant a atgyfeiriwyd at CAMHS yn aros mwy na phedair wythnos, ac mae rhai plant a phobl ifanc yn aros am fwy na hanner blwyddyn. Cefais alwad ffôn gan un o fy etholwyr yn dweud ei bod wedi bod yn aros am saith mis am asesiad, ac ar ôl siarad ag aelod o'r tîm CAMHS, dywedwyd wrthyf fod yr ôl-groniad—chwe mis yn ôl oedd hyn—yn anferth a bod rhai pobl wedi bod yn aros am bron i flwyddyn. Felly, nid yw'r darlun ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion yn llawer gwell. Mae 12.5 y cant o gleifion yn aros hyd at 56 diwrnod a mwy na 9 y cant o gleifion yn aros yn llawer hwy na hynny.
Nid ydym yn gadael cleifion sydd wedi'u hanafu mewn poen, felly pam rydym yn goddef i'r rhai sy'n dioddef o salwch meddwl gael eu gadael mewn gwewyr meddwl am fisoedd bwygilydd? Nid oes gennym ddigon o arian ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, ac nid oes gennym ddigon o staff clinigol chwaith. Chwe seiciatrydd ymgynghorol yn unig sydd gennym i bob 100,000 o gleifion. Mae 10 i bob 100,000 yn yr Alban ac wyth yn Lloegr. Mae gennym brinder mawr mewn seiciatreg gyffredinol, seiciatreg yr henoed a seicoleg glinigol. Nid yw'n syndod fod amseroedd aros mor uchel.
Ar gyfer therapi gwybyddol ymddygiadol a therapïau siarad eraill, bydd y rhan fwyaf o gleifion yn aros rhwng tri neu bedwar mis a blwyddyn, ac mae 15 y cant o gleifion yn aros am lawer mwy na blwyddyn. O ganlyniad, cafwyd gorddibyniaeth ar feddyginiaeth bresgripsiwn. Yn ôl ciplun diweddaraf Gofal, cynigir meddyginiaeth seiciatrig i 80 y cant o gleifion, i fyny o tua 60 y cant yn 2012. Er bod meddyginiaeth seiciatrig yn fuddiol i lawer o bobl, ni ddylid ei hystyried yn ateb holliachaol. Gall fod sgil-effeithiau echrydus i gyffuriau gwrthiselder a meddyginiaeth wrthseicotig, yn amrywio o ddiffyg bywiogrwydd i deimladau hunanladdol.
Yn anffodus, mae cyfuniad o feddygon teulu wedi'u gorweithio a rhestrau aros hir am therapïau seicolegol yn gadael pobl heb unrhyw ddewis arall ond cymryd cyffuriau a allai wneud iddynt deimlo'n llawer gwaeth. Nid dyma a ragwelwyd gan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac mae'n bosibl ei fod yn cyfrannu at ein cyfraddau hunanladdiad, sydd i gyfrif am dair gwaith cymaint o farwolaethau â damweiniau traffig ar y ffyrdd. Rydym yn gwneud cam â'n hetholwyr, gydag un o bob pedwar ohonynt yn dioddef problemau iechyd meddwl.
Rwy'n annog pob Aelod i gefnogi'r cynnig, ynghyd â gwelliant Plaid Cymru, ac yn annog Llywodraeth Cymru i roi camau ar waith ar frys i wella'r ddarpariaeth iechyd meddwl i bawb yng Nghymru.