Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 14 Chwefror 2018.
Mewn gwirionedd, fel y byddaf yn nodi yfory, rydym yn adolygu rhai o'r heriau o ran darparu gwasanaethau iechyd meddwl, boed drwy CAMHS neu wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol lleol. Buaswn yn disgwyl i'r adolygiad hwnnw ystyried y materion rydych wedi sôn amdanynt.
Ond wrth gwrs, yr her ynghylch stigma yw'r rheswm pam rydym yn parhau i gefnogi ymgyrch Amser i Newid Cymru. Rwy'n falch fod David Melding wedi sôn amdani, ac unwaith eto rwy'n cydnabod ei ddewrder yn rhannu ei brofiad ei hun o fynd drwy heriau iechyd meddwl a gallu dod allan ar yr ochr arall a dweud, 'Rwy'n cydnabod fy mod mewn lle gwell yn awr o ganlyniad.' Mae rhywbeth yno am annog mwy o bobl i wneud yr un peth, i fod yn agored am eu heriau eu hunain, i newid natur y ddadl gyhoeddus ond hefyd y ddadl breifat a gawn fel dinasyddion cyffredin hefyd.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd atal. Dyna pam y mae'n thema allweddol, ynghyd ag ymyrryd yn fuan, yn 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl', ac mae hynny'n cynnwys canolbwyntio ar gymorth nad yw'n glinigol. Felly, rydym yn awyddus i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gefnogi pobl gydag ystod ehangach o wasanaethau cymunedol nad ydynt yn rhai clinigol sy'n cynnig manteision gwirioneddol o ran iechyd a lles. Mae cynlluniau ar gyfer ein bond lles, a fydd yn cynnwys ffocws ar iechyd meddwl, yn cael eu cwblhau a byddaf yn edrych ymlaen at allu darparu mwy o wybodaeth i'r Aelodau ar hyn cyn bo hir. Rydym hefyd yn ymrwymedig i gynllun peilot presgripsiynu cymdeithasol ar gyfer iechyd meddwl ac rydym ar y trywydd iawn i gael y cynllun peilot hwnnw ar waith o fis Ebrill eleni ymlaen.
Fel y cydnabuwyd yn gynharach gan amryw o bobl, gan gynnwys Angela Burns, mae gwreiddiau iechyd a lles yn gorwedd yn ein plentyndod. Mae'r profiadau a gawn wrth dyfu, y cymorth, y cysylltiadau, yr adnoddau sydd ar gael inni neu beidio, yn allweddol wrth bennu canlyniadau ein bywydau a pha mor wydn yr ydym i ymdrin â'r heriau y bydd bywyd yn eu cyflwyno i i ni. Dyna pam y mae'r Llywodraeth, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi ariannu canolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae'r ganolfan arbenigol honno'n mynd i gynyddu dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, cynyddu gwytnwch, cefnogi ac ysbrydoli unigolion, cymunedau a sefydliadau i ddysgu am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, ac i ddod yn fwy ymwybodol a newid meddylfryd ac ymddygiad.
Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen uchelgeisiol i wella mynediad at wasanaethau CAMHS arbenigol mewn ymateb i gynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd yr Aelodau'n gwybod ein bod wedi buddsoddi'n sylweddol yn hyn. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod ein bod wedi gosod safon newydd ar gyfer amser aros a'r her yn awr yw fy mod yn disgwyl gweld gwelliannau pellach a pharhaus yn y perfformiad o fis Mawrth ymlaen. Byddwn yn parhau i gyhoeddi ystod o ddata perfformiad mewn perthynas â mynediad, ar gael yn ôl mis a bwrdd iechyd unigol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda phobl yn Siambr y Cynulliad hwn ac ar y tu allan i barhau i wella iechyd meddwl ym mhob cymuned ledled Cymru.