Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 14 Chwefror 2018.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n llwyr gydnabod eich dull o ymateb i hyn, ond hoffwn ofyn i chi am eich barn ar y ddarpariaeth o ganolfannau gofal mewn argyfwng, oherwydd nid yw pobl yn robotiaid naw i bump ac mae gan bobl broblemau iechyd meddwl y tu allan i oriau ac ar benwythnosau. Rydych newydd sôn am fynediad at wasanaethau ac rydych newydd sôn am degwch a chydraddoldeb i bawb, ac eto mewn rhai byrddau iechyd, gwyddom nad yw'r cymorth hwnnw ar gael i bobl pan fydd ei angen arnynt.