Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:45, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gen i ddweud bod hynna'n dynnu'n ôl o'r safbwynt a gymerwyd gan y Llywodraeth hon rai misoedd yn ôl. Mae'r Papur Gwyn ar y cyd 'Sicrhau Dyfodol Cymru' yn dod i'r casgliad y dylai Cymru a'r DU aros yn undeb tollau'r UE, a dyfynnaf:

'nid ydym'— sef chi a ni—

'wedi ein hargyhoeddi bod manteision posibl tynnu yn ôl o Undeb Tollau’r UE yn fwy na’r costau.'

A dweud y gwir, mae pob un cyfeiriad at 'undeb tollau' ym mholisi'r Llywodraeth ers hynny at yr undeb tollau presennol. Nid oes unrhyw gyfeiriad at fath newydd o undeb tollau, nad yw'n bodoli eto. Felly pam, gofynnaf, mae'r Prif Weinidog wedi newid ei dôn neu wedi newid ei iaith? Pam mae'n sôn nawr am undeb tollau o ryw fath, fel yr ydych chithau? Mae oherwydd bod y safbwynt a amlinellwyd gan Jeremy Corbyn yn groes i'r hyn sydd er lles Cymru a phobl Cymru, ac yn absenoldeb term gwell, mae'r Prif Weinidog yn gorfod cymylu pethau?