Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 27 Chwefror 2018.
Ydym, ar hyn o bryd, rydym ni o'r farn y dylai fod yn ddadl 'i nodi', ond hoffwn ailadrodd ei bod yn amhosibl bod yn bendant tan i ni weld canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus a'r cyngor cyfreithiol dilynol ac ati. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i fod yn bendant am y peth, am y rheswm gorau posibl, sef bod angen i ni ymateb iddo yng ngoleuni beth bynnag yw canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly, pan fydd hwnnw gennym ni, yna byddaf yn gallu rhoi syniad o beth yw safbwynt y Llywodraeth.