Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 27 Chwefror 2018.
Oedd, fe wnaethom weithio'n galed iawn i'w cadw yn y broses gaffael. Mae arweinydd yr wrthblaid yn llygad ei le: mae'n well i ni gael yr amrywiaeth ehangaf o bosibiliadau yn agored i ni o ran y broses gaffael. Felly, gwnaed llawer o waith caled iawn cyn methiant Carillion, ac ar ôl hynny, i'w cadw yn y broses gaffael. Fodd bynnag, mae gennym ni ddau o dendrwyr cadarn iawn i fwrw ymlaen â nhw o hyd, ac rydym ni'n hyderus iawn y byddwn yn cael canlyniad da i ddinasyddion Cymru, yr wyf i'n cytuno'n llwyr ag ef y maen nhw'n llwyr ei haeddu.