Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 27 Chwefror 2018.
Arweinydd y tŷ, fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ei bod wedi comisiynu astudiaeth a fyddai'n edrych ar ffyrdd, a dyfynnaf,
'o gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol.'
Byddai'r astudiaeth hefyd yn cynnwys gwaith ymchwil ar effeithiau'r cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig. Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn: pryd gallwn ni ddisgwyl canfyddiadau'r adroddiad hwnnw i gael eu rhoi ar gael?