Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 27 Chwefror 2018.
Wel, ie, fel y dywedais yn gynharach wrth ateb y cwestiwn, rydym ni wedi ein cadarnhau y byddwn ni'n cyflwyno'r ddadl yn amser y Llywodraeth ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ar ôl i'r ymchwiliad lleol cyhoeddus ddod i ben. Mae'r ddadl yn debygol o fod yn ddadl 'i nodi' ar hyn o bryd, ond rwy'n amharod i ddweud hynny'n bendant gan nad ydym ni'n gwybod canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus eto. Felly, tan y byddwn ni'n gwybod y canlyniad, nid ydym ni wir yn gwybod beth y gallwn ni seilio'r ddadl arno. Felly, rwy'n barod ar hyn o bryd i roi awgrym, ond ni allaf fod yn bendant am y peth oherwydd, tan y byddwn ni'n gwybod canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, nid ydym mewn sefyllfa i fod yn bendant amdano.