Lleihau'r Defnydd o Blastig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 1:57, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Ymddiheuriadau am hynna. Sicrhaodd Llywodraeth Cymru bod Cymru ar flaen y gad o ran cyflwyno'r ffi am fagiau siopa untro. Ers ei gyflwyno, bu gostyngiad sylweddol i'r defnydd o fagiau plastig untro. Rydym ni'n datblygu deddfwriaeth nawr i gyflwyno gwaharddiad ar ficrobelenni yng Nghymru, ar weithgynhyrchu a gwerthu'r cynhyrchion hynny.