Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 27 Chwefror 2018.
Wel, caiff eglurder o'r math yna ei ganfod dim ond yn nhudalennau Alice's Adventures in Wonderland neu Through the Looking Glass fel rheol, oherwydd ni allwch chi fod y tu mewn a'r tu allan ar yr un pryd.
Mae'r Prif Weinidog, rwy'n gweld, yn bwriadu, yn ystod ei ymweliad, siarad â Hillary Clinton. Nid oes dim o'i le â hynny ynddo'i hun ond, gan fod Hillary Clinton wedi colli'r etholiad ar gyfer yr arlywyddiaeth i Arlywydd Trump, oni fyddai wedi gwneud mwy o synnwyr mewn gwirionedd i geisio cyfarfod â phobl yng ngweinyddiaeth Trump yn hytrach na'r ymgeisydd dros y blaid a gollodd yr etholiad y tro diwethaf yr oedd yr arlywyddiaeth yn y fantol?