Effaith Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:20, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'n chwith iawn gen i weld y chwarae gwleidyddol, y tactegau osgoi a'r cilio rhag ateb cwestiwn y farchnad sengl yn araith arweinydd Plaid Lafur y DU ar ei weledigaeth ar gyfer perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae yna ganlyniadau go iawn i bobl go iawn yn sgil gadael y farchnad sengl. Un o'r canlyniadau hynny fydd colli'r hawl i fanteisio ar dreialon clinigol yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Dim ond aelod-wladwriaethau yr AEE a'r UE a all fanteisio ar dreialon clinigol a thriniaethau, felly hoffwn i gael sicrwydd gan arweinydd y tŷ—. Ac nid yw hyn yn rhywbeth y gellir ei gyflawni, gyda llaw, drwy fynediad rhydd a dirwystr; mae'n rhaid ichi fod yn aelod o'r farchnad sengl i fanteisio ar aelodaeth yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ac i'ch dinasyddion elwa ar y treialon clinigol. A gawn ni ymrwymiad y byddwch yn gwrthwynebu’n gadarn unrhyw ymgais gan Lywodraeth o unrhyw liw gwleidyddol yn San Steffan i wrthod mynediad i ddinasyddion Cymru at y driniaeth arloesol orau y gellir ei darparu iddynt?