Effaith Gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Islwyn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:21, 27 Chwefror 2018

(Cyfieithwyd)

Cewch. Rwy'n hapus iawn i ddweud hynny yn bendant. Nid ydym ni erioed wedi gwadu'r ffaith bod angen i ni aros y tu mewn i'r trefniadau hynny. Mae'n drychinebus i waith ymchwil o bob math—nid dim ond ymchwil clinigol—ar draws Cymru ac ar draws y Deyrnas Unedig fod y tu allan i'r trefniadau partneriaeth pellgyrhaeddol hynny ar gyfer y gwaith ymchwil arloesol hwnnw. Felly, rwy'n hapus iawn i gadarnhau ein bod yn dal i fod o blaid hynny, a byddwn ni'n ei amddiffyn yn gadarn ar ba bynnag lefel.