Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 27 Chwefror 2018.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Ychydig funudau yn ôl, arweinydd y tŷ, dywedasoch fod y Prif Weinidog wedi bod yn eglur iawn am fater yr undeb tollau. Rwy'n anghytuno, felly fe gadwaf fy nghwestiwn cyntaf yn syml iawn: a yw eich Llywodraeth o blaid aros yn undeb tollau'r UE neu mewn undeb tollau?