Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 27 Chwefror 2018.
Mae'r arian hwn i'w groesawu'n fawr, ac wrth gwrs mae'n fuddsoddiad sbarduno pwysig iawn ar gyfer y polisi 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ond ni allwch chi wneud y dybiaeth dim ond os bydd plentyn yn mynd i sesiynau Ti a Fi a Mudiad Meithrin y bydd yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gydol ei fywyd, yn enwedig pan fydd yn gadael yr ysgol. Er y gallai fod yn eithaf anodd i fonitro cynnydd unigolion sy'n defnyddio'r Gymraeg pan fyddant yn ei dysgu ar-lein efallai, dylai fod yn haws olrhain cynnydd plentyn a pha un a yw'n datblygu ac yn defnyddio ei Gymraeg drwy gydol ei oes. A yw hynny'n rhywbeth sy'n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru o fewn strategaeth 2050?