1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 27 Chwefror 2018.
7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu faint o arian y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i Mudiad Meithrin yn y flwyddyn ariannol 2018/19? OAQ51790
Gwnaf. Mae grantiau a chontractau gwerth mwy na £3.7 miliwn wedi eu dyrannu hyd yma i'r Mudiad Meithrin ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19. Mae hyn yn cynnwys £1 filiwn ychwanegol i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg ledled Cymru.
A gaf i ddiolch i chi am yr ateb yna? Hoffwn godi pwysigrwydd y Mudiad Meithrin, sy'n cael plant i ddechrau defnyddio'r Gymraeg yn ifanc iawn, sy'n arwain atyn nhw yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg gan gynyddu trwy hynny nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. A wnaiff Llywodraeth Cymru lunio cynllun i gynyddu'r niferoedd sy'n mynychu Ti a Fi a'r Mudiad Meithrin, gan mai dyna fydd yr unig ffordd y bydd modd cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn sylweddol dros yr 20 neu'r 30 mlynedd nesaf?
Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud gan fod fy rhieni fy hun yn siaradwyr Cymraeg, fel y mae'n gwybod, ac nid wyf i'n siaradwr Cymraeg gan na wnaethon nhw ei addysgu i mi fel plentyn ac rwyf i wedi methu'n lân â o ran ei siarad heblaw am wybod fy lliwiau a fy rhifau, mae gen i gywilydd dweud. Felly, rwy'n credu bod llawer i'w ddweud dros fagu eich plant yn ddwyieithog. Mae Cymraeg i Blant yn cynnig cyngor a chymorth i rieni a darpar rieni gyda'r nod o alluogi teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae'r rhaglen wedi ei thargedu at ddarpar rieni a theuluoedd â phlant 0 i bedair oed, ac mae'r Mudiad Meithrin yn darparu gweithgareddau lleol a chymorth ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys sesiynau stori a chân, ioga babanod a grwpiau tylino babanod. Estynnwyd y gweithgareddau hyn i bob awdurdod lleol o fis Ebrill 2017, ac mae'r contract ar gyfer darparu'r gweithgareddau wedi ei ymestyn i fis Mawrth 2019, gan ein bod ni'n cytuno'n llwyr gyda'r Aelod mai'r cynharaf yw'r ymgysylltiad â'r Gymraeg a'r amlaf y bydd yr ymgysylltiad hwnnw yn y teulu, y mwyaf tebygol yw hi y bydd yr iaith yn aros gyda'r plant.
Mae gennym ni rwydwaith o fwy na 400—nid wyf i'n gallu ei ddweud yn Gymraeg, mae gen i gywilydd dweud—o gylchoedd rheini a phlant bach Ti a Fi ledled Cymru. Mae'r rhain yn cynnig gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'u geni hyd at oedran ysgol ac yn cynnig y cyfleoedd i deuluoedd gymdeithasu mewn awyrgylch Gymraeg anffurfiol.
Rwy'n mynd i ychwanegu rhywbeth arall yn y fan yma yr wyf i'n ei wybod o'm portffolio digidol fy hun, sef fy mod i wir yn annog pawb i roi cymaint o Gymraeg â phosibl ar Wikipedia ac ar y we oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei ganfod yw os gall pobl ifanc ei defnyddio mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd yn rhan o'u cymdeithasu, yna maen nhw'n tueddu i ddefnyddio'r Gymraeg yn amlach o lawer ymhlith eu grŵp cyfoedion y tu allan i'r ysgol, ac mae hynny hefyd yn helpu i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg yn eu bywydau. Felly, rydym ni wedi bod yn ceisio annog hynny ers cyfnod sylweddol o amser.
Bydd yr £1 filiwn ychwanegol i gynorthwyo'r gwaith yn 2018-19 yn eu galluogi i wneud cynnydd cyflym i ehangu'r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg a bydd yn cael ei ddefnyddio i wneud y gwaith sydd wedi ei dargedu'n benodol at sefydlu lleoliadau newydd mewn ardaloedd â phrinder presennol o ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg hefyd.
Mae'r arian hwn i'w groesawu'n fawr, ac wrth gwrs mae'n fuddsoddiad sbarduno pwysig iawn ar gyfer y polisi 1 filiwn o siaradwyr erbyn 2050, ond ni allwch chi wneud y dybiaeth dim ond os bydd plentyn yn mynd i sesiynau Ti a Fi a Mudiad Meithrin y bydd yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg trwy gydol ei fywyd, yn enwedig pan fydd yn gadael yr ysgol. Er y gallai fod yn eithaf anodd i fonitro cynnydd unigolion sy'n defnyddio'r Gymraeg pan fyddant yn ei dysgu ar-lein efallai, dylai fod yn haws olrhain cynnydd plentyn a pha un a yw'n datblygu ac yn defnyddio ei Gymraeg drwy gydol ei oes. A yw hynny'n rhywbeth sy'n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru o fewn strategaeth 2050?
Nid wyf i'n gwbl sicr a yw'r manylyn hwnnw yn rhan ohoni, ond gwn fod yr adolygiad o gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a gynhaliwyd gan Aled Roberts yn 2017 yn cynnwys argymhellion i gryfhau'r berthynas strategol rhwng awdurdodau lleol a'r Mudiad Meithrin i sicrhau twf ar lefel awdurdod lleol i gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru ar gyfer 2050, ac i sicrhau bod y system ar gyfer buddsoddiad cyfalaf yn cymryd yr angen am ddarpariaeth cyn-ysgol i ystyriaeth er mwyn cynllunio'n fwy effeithiol ar gyfer pontio rhwng y cyfnod cyn-ysgol a'r cyfnod cynradd. Felly, mae hynny'n ateb eich cwestiwn yn rhannol, yn yr ystyr ein bod ni'n olrhain pobl o'r ddarpariaeth cyn-ysgol i ddarpariaeth y cyfnod cynradd, ond byddaf yn gofyn i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am y Gymraeg i ateb eich cwestiwn yn benodol.FootnoteLink
A gaf innau hefyd croesawu’r ffaith bod y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn y cytundeb ar y gyllideb wedi sicrhau’r adnoddau ychwanegol yma i Mudiad Meithrin? Byddwn i’n anghytuno, i raddau, gyda’r pwynt yr oedd Suzy Davies yn ei wneud oherwydd mae’r dystiolaeth yn dangos os ŷch chi’n mynd i gylch meithrin neu addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg, yna rŷch chi lawer iawn mwy tebygol o fynd ymlaen i addysg Gymraeg na phetai chi ddim.
Wrth gwrs, rŷm ni’n sôn fan hyn am strategaeth gan y Llywodraeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond byddwn i eisiau cyfeirio’n benodol fan hyn at y cynnig gofal plant y mae’r Llywodraeth yn ei ddatblygu nawr wrth gwrs, a’r rôl allweddol sydd gan hwnnw i sicrhau bod cynifer o blant ag sy’n bosib yn yr oed cyn ysgol yna’n cael eu dal o fewn y continwwm addysg Gymraeg yn hytrach nag yn cychwyn y siwrne addysg y tu allan iddo fe, oherwydd, unwaith rŷch chi wedi eu colli nhw yn y blynyddoedd cynnar yna, y tebygolrwydd llethol yw na fyddan nhw'n dod i mewn i addysg Gymraeg, ac na fyddan nhw’n ennill y gallu i fod yn ddwyieithog.
Felly, a gaf i ofyn sut rydych chi’n sicrhau y bydd pob plentyn yn cael mynediad i wasanaethau Cymraeg o safbwynt y cynnig gofal plant, a hefyd, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod yna weithlu digonol i fedru sicrhau bod y ddarpariaeth yna'n bodoli?
Mae'r Aelod yn llygad ei le, cyfrannwyd yr £1 filiwn ychwanegol gennym—fe'i buddsoddwyd—i'w galluogi i ymateb i'r her a nodir yn 'Cymraeg 2050' i wneud cynnydd cyflym i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg. Rydym ni wedi darparu ar gyfer dros 2,000 o grwpiau yn ystod 2017-18 hyd yn hyn, gan gynnig cymorth a chyngor i alluogi teuluoedd i ddefnyddio mwy o Gymraeg. Mae'r Aelod yn llygad ei le—ceir data gwirioneddol i ddangos bod gweithgarwch cyn-ysgol yn arwain at weithgarwch cyfrwng Cymraeg. Fel y dywedais wrth Suzy Davies, rydym ni wedi ymestyn ein gwaith o fonitro hynny i wneud yn siŵr bod gennym ni'r data ar gael, ac rydym ni wedi ymestyn y contract ar gyfer darparu gweithgareddau i fis Mawrth 2019 hefyd. Fel y sefydliad arweiniol o fewn Cwlwm—consortiwm o bum sefydliad gofal plant blaenllaw yng Nghymru—mae'r Mudiad Meithrin hefyd wedi ymgymryd â phrosiectau sydd â'r nod o ddarparu gwasanaeth integredig dwyieithog a fydd yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ledled Cymru, gyda golwg ar y dwyieithrwydd hwnnw, yn hytrach nag addysgu Cymraeg fel iaith dramor, y credaf nad yw'n bolisi sydd wedi sefyll prawf amser, ac rwy'n brawf byw o ba mor dda nad yw'n gweithio.