Mudiad Meithrin

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 27 Chwefror 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:13, 27 Chwefror 2018

A gaf innau hefyd croesawu’r ffaith bod y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn y cytundeb ar y gyllideb wedi sicrhau’r adnoddau ychwanegol yma i Mudiad Meithrin? Byddwn i’n anghytuno, i raddau, gyda’r pwynt yr oedd Suzy Davies yn ei wneud oherwydd mae’r dystiolaeth yn dangos os ŷch chi’n mynd i gylch meithrin neu addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg, yna rŷch chi lawer iawn mwy tebygol o fynd ymlaen i addysg Gymraeg na phetai chi ddim. 

Wrth gwrs, rŷm ni’n sôn fan hyn am strategaeth gan y Llywodraeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond byddwn i eisiau cyfeirio’n benodol fan hyn at y cynnig gofal plant y mae’r Llywodraeth yn ei ddatblygu nawr wrth gwrs, a’r rôl allweddol sydd gan hwnnw i sicrhau bod cynifer o blant ag sy’n bosib yn yr oed cyn ysgol yna’n cael eu dal o fewn y continwwm addysg Gymraeg yn hytrach nag yn cychwyn y siwrne addysg y tu allan iddo fe, oherwydd, unwaith rŷch chi wedi eu colli nhw yn y blynyddoedd cynnar yna, y tebygolrwydd llethol yw na fyddan nhw'n dod i mewn i addysg Gymraeg, ac na fyddan nhw’n ennill y gallu i fod yn ddwyieithog.

Felly, a gaf i ofyn sut rydych chi’n sicrhau y bydd pob plentyn yn cael mynediad i wasanaethau Cymraeg o safbwynt y cynnig gofal plant, a hefyd, wrth gwrs, yr angen i sicrhau bod yna weithlu digonol i fedru sicrhau bod y ddarpariaeth yna'n bodoli?