Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 27 Chwefror 2018.
Llywydd, diolch ichi am y cyfle i wneud datganiad ynglŷn â chyfarfod diweddaraf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd)—a gynhaliwyd yn Llundain ddydd Iau diwethaf, 22 Chwefror.
Cafodd y Cydbwyllgor ei gadeirio gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington, ac yno hefyd roedd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, David Davis, ac Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Michael Russell, Gweinidog Llywodraeth yr Alban ar gyfer Negodiadau'r Deyrnas Unedig ynglŷn â lle yr Alban yn Ewrop, a minnau. Cynrychiolwyd Gogledd Iwerddon gan weision sifil, yn dilyn methiant yr ymgais ddiweddaraf i sefydlu Llywodraeth newydd.
Roedd y cyfarfod yn adeiladol. Digwyddodd ychydig cyn cyfarfod pwyllgor Cabinet y DU yn Chequers a oedd â'r bwriad o roi mwy o eglurder ar safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â'r berthynas hirdymor rhwng y DU a 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth Mike Russell a minnau roi cyflwyniadau clir a diamwys ynglŷn â'n blaenoriaethau hirsefydlog, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod anghenion yr economi ar frig y rhestr flaenoriaeth honno a sicrhau cytundeb cyflym ynglŷn â chyfnod pontio, cam y galwodd Llywodraeth Cymru amdano yn ffurfiol, ynghyd â Phlaid Cymru, mor bell yn ôl â mis Ionawr 2017. Pwysleisiais hefyd bwysigrwydd ymrwymiad clir gan Lywodraeth y DU i gynnwys y llywodraethau datganoledig yn ail gam y broses negodi, yn enwedig lle'r oedd y rhain yn ymwneud â meysydd polisi datganoledig. Rwy'n falch o allu dweud yr ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion yn hyn o beth i'w hystyried yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth.
Llywydd, bu cryn ddyfalu cyn y cyfarfod ynglŷn â chynnydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sydd gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Fel y gŵyr yr Aelodau yma, mae Llywodraeth y DU wedi addo i'r ddau Senedd-dy y bydd yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig i gyflwyno gwelliannau a allai alluogi Senedd yr Alban a'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cysyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael.
Er y bu gwaith trylwyr ar y gweill ar lefel swyddogol ers rhai wythnosau, roeddem ni'n siomedig na allai Llywodraeth y DU gyflwyno cynnig dim ond yn fuan iawn cyn y cyfarfod ddydd Iau. Roedd hyn yn golygu nad oeddem wedi gallu trafod y cynigion yn llawn ac yn ystyrlon mewn modd yr oedd pwysigrwydd y mater hwn yn ei deilyngu.
Serch hynny, cytunodd pob un o'r tair Llywodraeth eu bod yn rhannu'r amcan o ddod i gytundeb ar y materion hyn, ac er bod cynigion y DU yn bur ddiffygiol o'r hyn a fyddai'n dderbyniol i naill ai ni ein hunain neu i Lywodraeth yr Alban, cytunwyd eu bod yn rhoi sail ar gyfer trafodaeth wleidyddol bellach yn y dyfodol agos iawn.
Yn ei araith ddoe rhoddodd Mr Lidington amlinelliad o'r meddylfryd sy'n sail i gynnig newydd Llywodraeth y DU. Hoffwn i gydnabod ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi symud cryn bellter oddi wrth ei safbwynt gwreiddiol, yn enwedig ar gymal 11. Roedd y safbwynt gwreiddiol hwnnw yn gwbl annerbyniol i Lywodraeth Cymru, a chredaf, i'r mwyafrif yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, bellach mae angen inni wneud cynnydd sy'n mynd y tu hwnt i eiriau teg ac sy'n gwneud cytundeb yn bosib. Rwy'n dal yn obeithiol y gellir dod i gytundeb o'r fath a byddaf, wrth gwrs, yn diweddaru'r Aelodau wrth i bethau ddatblygu.
Mae hyn hefyd, Llywydd, yn berthnasol iawn i'r ffaith, fel sy'n hysbys bellach, ein bod ni heddiw hefyd wedi cymryd camau tuag at gyflwyno deddfwriaeth barhad ein hunain. Un o'r rhesymau pam y bu'r fath rwystredigaeth gyda pha mor araf y bu Llywodraeth y DU yn meithrin trafodaethau ar ddiwygio Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd yw goblygiadau'r cynnydd araf hwn ar ein cynlluniau ein hunain. Rydym wedi bod yn gwbl glir, ac yn parhau i fod yn gwbl glir, mai'r hyn fyddai'n well gennym ni fyddai Bil y mae modd gweithio gydag ef ar lefel y DU. Ond, fel sy'n hysbys iawn, ac y mae cefnogaeth gref iddo ledled y Siambr hon, ac y traethir yn ei gylch yn rheolaidd iawn, er enghraifft, gan Steffan Lewis, rydym wedi gweithio'n galed ar ddewis wrth gefn, i ddarparu parhad cyfreithiol i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ynghylch materion datganoledig yng Nghymru, ac i ddiogelu datganoli. Rydym wedi cyrraedd sefyllfa lle na allwn oedi mwyach os yw'r ddeddfwriaeth hon, hyd yn oed ar ffurf Bil brys, yn mynd i gael cyfle rhesymol o gyrraedd y llyfr statud mewn pryd inni allu gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau parhad deddfwriaethol.
Mae ein Bil, y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cymru), yn parhau i fod yn ddewis wrth gefn, rhag ofn. Ond mae'r Bil, rydym yn credu, yn ddarn cadarn o ddeddfwriaeth y rhoddwyd cryn ystyriaeth iddo, a fydd yn cyflawni'r swyddogaeth os caiff ein dewis ffordd ymlaen—Bil ymadael sy'n parchu'r setliad datganoli—ei gwarafun i ni gan Lywodraeth y DU. Rwy'n dal i obeithio, Llywydd, y bydd y trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos nesaf yn arwain at ganlyniad llwyddiannus, un sy'n ein galluogi i argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd pan fo hwnnw'n dal gerbron y Senedd. Os ydym ni'n llwyddo yn yr ymdrech honno, ni fyddwn yn petruso tynnu'n ôl y Mesur y byddwn yn ei gyflwyno yma.
I grynhoi, Llywydd, yn y trafodaethau Brexit yn eu cyfanrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n bendant ar sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i anghenion swyddi a'n heconomi ddod yn gyntaf. Ni all ac ni ddylid defnyddio'r broses honno yn esgus i gyfyngu ar ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid parchu a diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel y cadarnhawyd mewn dau refferendwm a roddwyd gerbron pobl Cymru. Mae ein hymdrechion yn parhau i ganolbwyntio mewn modd adeiladol ond di-ildio ar gyflawni hynny.