– Senedd Cymru am 2:47 pm ar 27 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) ar 22 Chwefror 2018, ac rydw i'n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Llywydd, diolch ichi am y cyfle i wneud datganiad ynglŷn â chyfarfod diweddaraf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd)—a gynhaliwyd yn Llundain ddydd Iau diwethaf, 22 Chwefror.
Cafodd y Cydbwyllgor ei gadeirio gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn, David Lidington, ac yno hefyd roedd yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, David Davis, ac Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â Michael Russell, Gweinidog Llywodraeth yr Alban ar gyfer Negodiadau'r Deyrnas Unedig ynglŷn â lle yr Alban yn Ewrop, a minnau. Cynrychiolwyd Gogledd Iwerddon gan weision sifil, yn dilyn methiant yr ymgais ddiweddaraf i sefydlu Llywodraeth newydd.
Roedd y cyfarfod yn adeiladol. Digwyddodd ychydig cyn cyfarfod pwyllgor Cabinet y DU yn Chequers a oedd â'r bwriad o roi mwy o eglurder ar safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â'r berthynas hirdymor rhwng y DU a 27 aelod yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth Mike Russell a minnau roi cyflwyniadau clir a diamwys ynglŷn â'n blaenoriaethau hirsefydlog, gan bwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod anghenion yr economi ar frig y rhestr flaenoriaeth honno a sicrhau cytundeb cyflym ynglŷn â chyfnod pontio, cam y galwodd Llywodraeth Cymru amdano yn ffurfiol, ynghyd â Phlaid Cymru, mor bell yn ôl â mis Ionawr 2017. Pwysleisiais hefyd bwysigrwydd ymrwymiad clir gan Lywodraeth y DU i gynnwys y llywodraethau datganoledig yn ail gam y broses negodi, yn enwedig lle'r oedd y rhain yn ymwneud â meysydd polisi datganoledig. Rwy'n falch o allu dweud yr ymrwymodd Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion yn hyn o beth i'w hystyried yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth.
Llywydd, bu cryn ddyfalu cyn y cyfarfod ynglŷn â chynnydd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sydd gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd. Fel y gŵyr yr Aelodau yma, mae Llywodraeth y DU wedi addo i'r ddau Senedd-dy y bydd yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig i gyflwyno gwelliannau a allai alluogi Senedd yr Alban a'r Cynulliad Cenedlaethol i roi cysyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael.
Er y bu gwaith trylwyr ar y gweill ar lefel swyddogol ers rhai wythnosau, roeddem ni'n siomedig na allai Llywodraeth y DU gyflwyno cynnig dim ond yn fuan iawn cyn y cyfarfod ddydd Iau. Roedd hyn yn golygu nad oeddem wedi gallu trafod y cynigion yn llawn ac yn ystyrlon mewn modd yr oedd pwysigrwydd y mater hwn yn ei deilyngu.
Serch hynny, cytunodd pob un o'r tair Llywodraeth eu bod yn rhannu'r amcan o ddod i gytundeb ar y materion hyn, ac er bod cynigion y DU yn bur ddiffygiol o'r hyn a fyddai'n dderbyniol i naill ai ni ein hunain neu i Lywodraeth yr Alban, cytunwyd eu bod yn rhoi sail ar gyfer trafodaeth wleidyddol bellach yn y dyfodol agos iawn.
Yn ei araith ddoe rhoddodd Mr Lidington amlinelliad o'r meddylfryd sy'n sail i gynnig newydd Llywodraeth y DU. Hoffwn i gydnabod ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi symud cryn bellter oddi wrth ei safbwynt gwreiddiol, yn enwedig ar gymal 11. Roedd y safbwynt gwreiddiol hwnnw yn gwbl annerbyniol i Lywodraeth Cymru, a chredaf, i'r mwyafrif yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, bellach mae angen inni wneud cynnydd sy'n mynd y tu hwnt i eiriau teg ac sy'n gwneud cytundeb yn bosib. Rwy'n dal yn obeithiol y gellir dod i gytundeb o'r fath a byddaf, wrth gwrs, yn diweddaru'r Aelodau wrth i bethau ddatblygu.
Mae hyn hefyd, Llywydd, yn berthnasol iawn i'r ffaith, fel sy'n hysbys bellach, ein bod ni heddiw hefyd wedi cymryd camau tuag at gyflwyno deddfwriaeth barhad ein hunain. Un o'r rhesymau pam y bu'r fath rwystredigaeth gyda pha mor araf y bu Llywodraeth y DU yn meithrin trafodaethau ar ddiwygio Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd yw goblygiadau'r cynnydd araf hwn ar ein cynlluniau ein hunain. Rydym wedi bod yn gwbl glir, ac yn parhau i fod yn gwbl glir, mai'r hyn fyddai'n well gennym ni fyddai Bil y mae modd gweithio gydag ef ar lefel y DU. Ond, fel sy'n hysbys iawn, ac y mae cefnogaeth gref iddo ledled y Siambr hon, ac y traethir yn ei gylch yn rheolaidd iawn, er enghraifft, gan Steffan Lewis, rydym wedi gweithio'n galed ar ddewis wrth gefn, i ddarparu parhad cyfreithiol i ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ynghylch materion datganoledig yng Nghymru, ac i ddiogelu datganoli. Rydym wedi cyrraedd sefyllfa lle na allwn oedi mwyach os yw'r ddeddfwriaeth hon, hyd yn oed ar ffurf Bil brys, yn mynd i gael cyfle rhesymol o gyrraedd y llyfr statud mewn pryd inni allu gwneud yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau parhad deddfwriaethol.
Mae ein Bil, y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cymru), yn parhau i fod yn ddewis wrth gefn, rhag ofn. Ond mae'r Bil, rydym yn credu, yn ddarn cadarn o ddeddfwriaeth y rhoddwyd cryn ystyriaeth iddo, a fydd yn cyflawni'r swyddogaeth os caiff ein dewis ffordd ymlaen—Bil ymadael sy'n parchu'r setliad datganoli—ei gwarafun i ni gan Lywodraeth y DU. Rwy'n dal i obeithio, Llywydd, y bydd y trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos nesaf yn arwain at ganlyniad llwyddiannus, un sy'n ein galluogi i argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi ei gydsyniad deddfwriaethol i Fil ymadael yr Undeb Ewropeaidd pan fo hwnnw'n dal gerbron y Senedd. Os ydym ni'n llwyddo yn yr ymdrech honno, ni fyddwn yn petruso tynnu'n ôl y Mesur y byddwn yn ei gyflwyno yma.
I grynhoi, Llywydd, yn y trafodaethau Brexit yn eu cyfanrwydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio'n bendant ar sicrhau'r canlyniadau gorau i Gymru. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i anghenion swyddi a'n heconomi ddod yn gyntaf. Ni all ac ni ddylid defnyddio'r broses honno yn esgus i gyfyngu ar ddatganoli yn y Deyrnas Unedig, ac mae'n rhaid parchu a diogelu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, fel y cadarnhawyd mewn dau refferendwm a roddwyd gerbron pobl Cymru. Mae ein hymdrechion yn parhau i ganolbwyntio mewn modd adeiladol ond di-ildio ar gyflawni hynny.
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cyllid, am eich datganiad. Roedd y cyd-hysbysiad a gyhoeddwyd gennych chi, gan David Lidington ar ran Llywodraeth y DU, gan Lywodraeth yr Alban, ac uwch was sifil o weinyddiaeth Gogledd Iwerddon, yn dilyn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddydd Iau diwethaf ynghylch y negodiadau ynghylch Ewrop,
'yn cydnabod y negodi a fu rhwng Llywodraeth y DU a swyddogion y llywodraethau datganoledig ers y cyfarfod blaenorol', ac yn dweud
'Byddai trafodaethau'n parhau gyda'r nod o sicrhau bod y llywodraethau datganoledig yn chwarae rhan lawn yn datblygu sefyllfa negodi y DU, gan barchu swyddogaeth Llywodraeth y DU fel negodwr.'
Mae hynny, yn amlwg, yn llai perthnasol i'r hyn yr ydych chi wedi ymdrin ag ef hyd yma a mwy â'r negodiadau sydd ar y gweill rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ei hun. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi ychydig mwy o wybodaeth ynglŷn â beth yw rhan Llywodraeth Cymru yn datblygu safbwynt negodi y DU, fel y nodwyd yn y cyd-hysbysiad gennych chi ac eraill.
Dywedodd yr un cyd-hysbysiad fod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion wedi trafod Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd a'r cynnig i ddiwygio cymal 11, fel yr ydych chi wedi ymdrin â nhw, gan nodi y bu cynnydd ond nad oedd y tair Llywodraeth, na Gogledd Iwerddon, wedi cytuno eto ar ffurf y gwelliannau, ond y byddai trafodaethau ar fanylion pellach yn parhau. Rwy'n croesawu eich cadarnhad y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn cyfarfod yr wythnos nesaf, rwy'n credu ichi ddweud, ac fe gyfeirioch chi hefyd at gyfarfod ym mis Mawrth. Felly, efallai y gallech gadarnhau fy mod i wedi deall yn gywir.
Allech chi ddweud wrthym a oes cynnydd hefyd ynglŷn â'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion y bydd Prif Weinidog Prydain yn ei gadeirio, h.y. cyfarfod gyda Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a Phrif Weinidog Cymru, o ran pennu dyddiad ar gyfer cynnal trafodaethau ar y lefel honno, neu ai'r teimlad yw nad yw hynny'n angenrheidiol ar hyn o bryd o ystyried y sefyllfa gymhleth yr ydych chi â'ch swyddogion eisoes ynddi?
Yn ei araith ddoe yn Airbus Brychdyn, dywedodd David Lidington, sydd, fel y gwyddoch, yn cadeirio cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), fod yn rhaid inni amddiffyn marchnad fewnol y DU gan barchu datganoli ar yr un pryd. Nododd fod wyth o bob 10 lori nwyddau sy'n gadael Cymru yn mynd i weddill y DU, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y farchnad gyffredin yn y DU. Dywedodd,
'Byddwn yn adeiladu ar fargen twf Gogledd Cymru a fydd yn gweld golau dydd yn y dyfodol drwy feithrin cyfleoedd hefyd rhwng dinasoedd Cymru a gweddill y DU ' ac roedd hynny'n galonogol. Dywedodd y byddwn yn diogelu marchnad gyffredin hanfodol y DU, ond yna dywedodd y byddai pedwar set gwahanol o reolau
'dim ond yn ei gwneud hi'n anoddach ac yn ddrutach i wneuthurwr caws yn sir Fynwy werthu i gwsmeriaid ym Mryste neu i ffermwr gwartheg yn swydd Aberdeen werthu ei gig eidion yn Berwick-upon-Tweed.'
Ychwanegodd, felly, mai ei gynnig oedd newid y Bil sydd gerbron y Senedd i'w gwneud hi'n glir, wrth gytuno ar fframweithiau, mai'r rhagdybiaeth bellach fyddai y dylai'r pwerau sy'n dychwelyd o'r UE fynd at y llywodraethau datganoledig, ac rwy'n credu mai dyna beth mae'r tŷ hwn yn ei geisio. Dywedodd y byddai San Steffan yn ymyrryd dim ond, er mwyn amddiffyn marchnad gyffredin y DU neu i fodloni rhwymedigaethau rhyngwladol, pan fyddai angen saib i roi amser i'r Llywodraethau gynllunio a rhoi fframwaith ar waith a fyddai'n gwasanaethu'r DU gyfan. Dim ond ddoe, sylwaf i Lywydd Cymdeithas Milfeddygon Prydain ymateb i gynigion Ysgrifennydd Amgylchedd y DU yn y ddogfen 'Health and Harmony: The Future for Food, Farming and the Environment in a Green Brexit' gan ddweud,
'Gyda llygaid pawb ar San Steffan, rydym ni'n annog rhoi ystyriaeth wirioneddol i gydgysylltu polisïau amaethyddol ym mhob un o bedwar rhanbarth y DU wrth inni ddynesu tuag at Brexit.'
Felly, dyna'r sefyllfa amhosibl, rwy'n credu: safbwynt Llywodraeth y DU, fel y'i mynegwyd gan David Lidington ddoe, a phryderon parhaus Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn benodol ynghylch rhai materion datganoledig ddim yn trosglwyddo'n uniongyrchol i'r Llywodraethau datganoledig. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni, yn benodol, beth yr hoffech chi, neu sydd arnoch chi angen, ei weld yn digwydd y tu hwnt i'r hyn sydd wedi digwydd eisoes, er mwyn gwneud cynnydd yng nghyd-destun y pwyntiau a wnaethoch chi a'r sefyllfa a amlinellwyd gan David Lidington ddoe?
Yn olaf, o ran parhad—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ond mae hwn yn fater pwysig; nid yw'n rhywbeth er mwyn sgorio pwyntiau yn unig, ac rwy'n ceisio osgoi sgorio pwyntiau yn y cyd-destun hwn. Rydych chi'n nodi mai'r hyn yr hoffech chi ei weld yn ddelfrydol yw Bil sy'n gweithio'n ymarferol ar lefel y DU. Rydych chi hefyd yn gwbl briodol yn nodi, neu yn cyfeirio at y gwelliannau sydd gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar hyn o bryd, a bod Llywodraeth y DU wedi addo i'r ddau Senedd-dy y bydd yn gweithio gyda'r llywodraethau datganoledig i gyflwyno gwelliannau a fydd yn galluogi i'r Alban a Chymru roi cydsyniad i'r Bil, sef eich sefyllfa ddelfrydol chi. A wnewch chi, felly, gadarnhau ei bod hi'n dal yn wir—rwy'n credu mai dyma wnaethoch chi ei ddweud— mai, yn ddelfrydol, cytundeb ar y Bil ymadael neu, os yw hynny'n methu, welliannau drwy Dŷ'r Arglwyddi, yw eich dewisiadau delfrydol o hyd. Ond, fel y nodwch chi tuag at ddiwedd eich datganiad heddiw, oherwydd bod amser yn cerdded, oni fyddwch yn cyflwyno Bil parhad dros yr wythnos nesaf, byddech yn colli'r cyfle i gael Cydsyniad Brenhinol cyn y byddai Bil gan y DU ei hun yn derbyn Cydsyniad Brenhinol? Diolch.
Diolch yn fawr, Llywydd. Fe wna i geisio ateb y cwestiynau hynny yn eu trefn.
Mae Mr Isherwood yn gywir yn dweud bod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion wedi trafod rhan y gweinyddiaethau datganoledig yn nhrafodaethau cyfnod 2. Roeddem ni wedi trafod y pwynt hwn yn union yn ystod ein cyfarfod yng nghanol mis Rhagfyr, pan gytunodd Gweinidogion y DU y byddai angen cymryd rhan ar lefel wahanol yn y trafodaethau Cyfnod 2, oherwydd bydd cyfrifoldebau datganoledig uniongyrchol yn y fantol bryd hynny. Cytunwyd ganol mis Rhagfyr y byddai swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd yn gyflym —dyna'r gair a ddefnyddiwyd, yn 'gyflym'—i lunio cynigion ymarferol o ran sut y gallai hynny ddigwydd. Roedd hi'n arbennig o siomedig, felly, na chafwyd unrhyw bapur yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos diwethaf a oedd yn adlewyrchu unrhyw ran o'r gwaith hwnnw. Dywedais yn fy natganiad, ac fe wna i ei ailadrodd: roeddwn yn falch serch hynny fod Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, David Lidington, wedi addo cynhyrchu Papur o'r fath ar gyfer cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ystod mis Mawrth.
Roedd yr ail bwynt y gofynnodd yr Aelod ynglŷn â'r cyfarfod nesaf ar gyfer Bil ymadael â'r UE yn benodol. Yr hyn y cytunwyd arno yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf oedd y byddai cyfarfod Cyd-bwyllgor Gweinidogion rheolaidd yn ystod mis Mawrth, pan fyddwn yn trafod yr ystod eang o faterion sy'n berthnasol i adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n ffurfio agenda'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Hefyd byddai trafodaeth wleidyddol ar wahân a fyddai'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar Fil ymadael yr UE ac yn rhoi cyfle i ni allu ymateb i'r papur y cyflwynodd Llywodraeth y DU yn hwyr iawn yn y dydd, ac na allasom ni ei drafod gyda'r math o sylw manwl y buasem wedi dymuno ei roi iddo.
A fydd cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ym mis Mawrth? Wel, rwy'n gobeithio hynny. A oes ei angen? Credaf hynny'n sicr. Nid fu cyfarfod llawn o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ers mis Ionawr 2017 erbyn hyn, ac os mai dyma'r cyfrwng y bwriedir i'r DU gydweithredu drwyddo, a'r glud sy'n cadw'r Deyrnas Unedig at ei gilydd, yna mewn gwirionedd nid yw hi'n foddhaol na fu gan Brif Weinidogion y gwledydd datganoledig a Phrif Weinidog y DU y cyfle hwnnw i drafod y materion hyn yn y sefyllfa ffurfiol honno. Mae dyddiad mewn cylchrediad ar gyfer cyfarfod o'r fath ganol mis Mawrth, ond rwyf wedi gweld dyddiadau yn cylchredeg ym mis Ionawr, ym mis Chwefror a bellach ym mis Mawrth yn ogystal, Llywydd, felly yn anffodus rydym yn dal yn byw mewn gobaith yn hytrach na disgwyl y cyflawnir hynny.
Gan droi at y set olaf o gwestiynau a holodd Mark Isherwood, mae'n gywir i ddweud bod yr araith gan Mr Lidington ddoe yn gam ymlaen o ran ein pryderon am gymal 11. Cynnig Llywodraeth y DU nawr yw y dylai'r holl gyfrifoldebau hynny a fu gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn ac sy'n cael eu harfer drwy'r Undeb Ewropeaidd aros yma ar ôl Brexit, ac eithrio nifer fach a gânt eu cadw yn ganolog wrth inni barhau i negodi trefniadau fframwaith fel y gall y farchnad fewnol yn y DU barhau i weithredu'n effeithiol. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yn awr yw cael trafodaeth fanwl gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhai o'r ffyrdd ymarferol y byddai hynny'n gweithredu, a'r mater allweddol yn y fantol o hyd yw caniatâd. Os oes nifer fach o faterion i'w cadw'n ganolog, pwy sydd i benderfynu pa faterion fydd y rheini? Pwy sy'n penderfynu pa mor hir y cânt eu cadw'n ganolog? Pwy sydd i benderfynu pwy all arfer y grymoedd hynny pan nad ydyn nhw yn nwylo'r Cynulliad Cenedlaethol hwn?
Byddwn yn mynd i'r cyfarfod nesaf gyda chynigion adeiladol ynghylch sut y gellid datrys y cwestiynau hynny, ac os oes modd eu datrys, yna roedd Mr Isherwood yn hollol gywir o ran trefn y digwyddiadau. Ein dewis ffordd o weithredu o hyd yw gwelliant cytunedig y gallai'r tair Llywodraeth weld ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, a gallai Gweinidog ddod yma ac argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn y gellid rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil. Os na allwn ni gytuno ar welliant, byddwn yn parhau i fynd ar drywydd y gwelliannau a gyflwynwyd gennym, ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, yn Nhŷ'r Cyffredin ac y byddwn ni yn eu hailgyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi. Byddwn yn gweithio mor galed ag y gallwn ni i gael cymeradwyaeth i'r gwelliannau hynny. Mae gennym ni, fel y gwyddom, gefnogaeth sylweddol yn Nhŷ'r Arglwyddi i'n sefyllfa, gan gynnwys Arglwyddi ar y croesfeinciau. Os na lwyddwn ni yma, yna bydd yn rhaid inni amddiffyn y sefyllfa pe bai'r dydd yn dod pan na fyddai'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn barod i roi ei gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil ymadael. Dyna pam mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn cyflwyno ein Bil parhad fel dewis wrth gefn. Yn wir, mae'r mater o'i gael i'r llyfr statud cyn i'r Bil ymadael dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn dylanwadu ar yr amserlen i'w gyflwyno gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos nesaf.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ac am ei amynedd di-ball gyda rhai o'r anawsterau hyn? A gaf i ddiolch yn arbennig iddo am gadarnhau heddiw fod y Llywodraeth yn symud ymlaen â'r Bil parhad, y mae fy nghyd-Aelod anrhydeddus, Steffan Lewis, wedi dadlau o'i blaid gyhyd? Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, yn falch iawn o weld bod hwn bellach yn rhan gadarn o arfogaeth y Llywodraeth—rhywbeth yr ydym yn credu a ddylai fod wedi bod yno yn gynharach, mae'n rhaid dweud.
Byddaf yn dychwelyd at hynny mewn eiliad oherwydd rwyf eisiau, yn gyntaf oll, ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag araith David Lidington yn benodol, a beth sydd wedi dod i'r fei ers cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Cefais yr araith braidd yn rhwystredig ac roeddwn yn teimlo ei bod hi o hyd yn dangos peth o'r bwlio a'r agwedd fygythiol o du San Steffan tuag at Lywodraethau Cymru a'r Alban ill dwy. Elfen fechan o fygythiad oedd os nad ydych chi'n ymddwyn, yna byddwn yn cadw'r pwerau hyn. Rwy'n awyddus iawn i'w roi yn y modd hwn: roedd yr araith gan David Lidington yn frith o gyfeiriadau at farchnadoedd mewnol neu gyffredin y DU—rhywbeth na soniodd Ysgrifennydd Cabinet yn ei gylch unwaith yn ei ddatganiad ei hun. Buom yn rhan o farchnad gyffredin neu farchnad sengl ers 40 mlynedd bellach. Bu rhai anawsterau gyda hynny ac mae rhai pobl wedi anghytuno'n gryf iawn ag ef, ond nid yw wedi effeithio ar sut yr ydym ni'n rhedeg ein dulliau mewnol ein hunain.
Siawns, y cyfan sydd ei angen i sicrhau bod fframweithiau cadarn a fframweithiau cytunedig yn y DU yw agenda syml o barch sy'n rhoi sylw i bob rhan o'r DU yn yr un modd, ac yn rhoi swyddogaethau a phwysau a chryfderau cyfartal i hynny. Y gwendid yn hynny wrth gwrs yw Lloegr, nid Cymru na'r Alban, ond mae hynny'n fater i bobl Lloegr. Pe baem ni'n cyflawni hynny, does neb yma o unrhyw blaid nad oes arnyn nhw eisiau fframweithiau cryf i'r DU ynglŷn ag amaethyddiaeth, yr amgylchedd, lles cymdeithasol nac unrhyw beth arall. Nid yw'n angenrheidiol dal grymoedd sy'n cael eu dal ar hyn o bryd yn gyffredin ar y lefel Ewropeaidd, eu dal nhw yn awr yn San Steffan a pheidio â throsglwyddo'r rheini, yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, i bob rhan—i rannau cyfansoddol a gweinyddol gyfansoddiadol datganoledig—o'r Deyrnas Unedig. Felly, dyna i raddau helaeth safbwynt Plaid Cymru yn hyn o beth.
Rwy'n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i droedio'n ofalus, yn awyddus i barhau i drafod gyda Llywodraeth San Steffan, ond nid wyf yn credu bod ganddo gyfle i gael barn unfrydol ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma oni bai ei bod hi'n amlwg y caiff y pwerau hynny eu dychwelyd at bobl Cymru ac na cheir feto, pa un a yw hynny'n feto tymor byr neu'n feto hirdymor, yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan.
Felly, o arddel y safbwynt hwnnw, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut mae bellach yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, oherwydd nad oes Llywodraeth ddatganoledig gan Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd? Sut y bydd yn parhau i weithio—? Rwy'n diolch iddo am y gwaith y mae wedi'i wneud, a Michael Russell hefyd; mae'r gwaith wedi bod yn glir iawn ac mae wedi'i ysgrifennu ar y cyd mewn rhai achosion ac wedi bod yn fwy llwyddiannus oherwydd hynny, rwy'n credu. Felly, sut mae'n parhau i sicrhau bod hynny'n digwydd?
A gaf i ei atgoffa o'r hyn a ddywedais i chwe wythnos yn ôl: allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid? Rwy'n credu y dangoswyd hynny inni, a dyna pam wrth gwrs yr ydych chi wedi dewis, bellach, y Bil parhad. Gan edrych yn benodol ar y Bil hwnnw, sydd yn rhoi mantais ychwanegol inni, rwyf yn credu pe cyflwynid ef yn gynharach, y gallem fod wedi cyflymu'r broses hon. Rwy'n credu efallai y byddem wedi rhoi argraff gryfach o lawer i San Steffan ein bod yn hollol o ddifrif ynghylch hyn, ond, wyddoch chi, dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi.
A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i'r Cynulliad ei fod yn credu, gan dybio y byddwn ni yn cymeradwyo mesurau brys yr wythnos nesaf, y gallwn ni gyflawni'r Bil hwn mewn digon o amser fel na fydd Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd yn achub y blaen arnom ni, os mynnwch chi—neu na fydd yn sleifio o'r tu arall heibio, fel y bydd yn dal i fod yn ddewis posib ac y gellid ei ddefnyddio eto yn hynny o beth? A all ddweud hefyd ei fod wedi siarad â'i gydweithiwr wrth ei ochr, y Cwnsler Cyffredinol, ynghylch sut y gellid, pe bai angen, amddiffyn Bil o'r fath yn y Goruchaf Lys, os bydd diffyg cytundeb rhwng y Llywodraeth hon a Llywodraeth San Steffan?
Llywydd, diolch yn fawr i Simon Thomas am y cwestiynau.
Wnes i ddim sôn yn fy natganiad, mae'n hollol gywir, ynglŷn â mater y farchnad gyffredin fewnol yn y Deyrnas Unedig. Safbwynt Llywodraeth Cymru, o'r cychwyn cyntaf, yw ein bod yn deall yn llwyr yr angen i drosglwyddo cyfraith yr UE yn drefnus i'r llyfr statud domestig mewn modd a fydd yn caniatáu i'r Deyrnas Unedig weithredu'n effeithiol yn y dyfodol. Ar lawer ystyr doedd cyfeiriadau Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn at hyn ddoe yn ddim byd amgenach na dadlau dadl ffug. Maen nhw'n cyfeirio at broblem nad yw mewn gwirionedd yn bodoli ac wedyn yn ceisio defnyddio hynny i gyfiawnhau'r ffordd y maen nhw'n dadlau mai dim ond nhw sy'n gallu defnyddio pwerau mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i'r gweithio effeithiol hwnnw barhau. Rydym yn anghytuno'n llwyr gyda nhw ar y pwynt hwnnw. Rydym wedi dweud o'r dechrau un y byddem ni, wrth gwrs, yn dynesu at hyn yn hollol adeiladol gyda'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gennym ni er mwyn ceisio darganfod a chytuno ar ffyrdd i wneud yn siŵr y gall y DU barhau i weithredu'n llwyddiannus yn y dyfodol.
Rwy'n fodlon ystyried y safbwynt mai'r ffordd orau i roi sylfaen ddeddfwriaethol i rai o'r fframweithiau hynny—o bosib—fyddai i'r pwerau gael eu dal yn San Steffan tra bo'r ddeddfwriaeth honno yn cael ei gwireddu. Ond ni allaf gytuno i sefyllfa lle byddai'r grymoedd hynny y byddem ni yn eu hildio dros dro yn digwydd heb inni gytuno. Os caiff ei wneud gyda'n cytundeb ni a chyda chytundeb Llywodraeth yr Alban a chytundeb Llywodraeth y DU, yna mae achos pragmatig dros wneud pethau yn y ffordd honno. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn barod i weithredu gyda mwy o ymddiriedaeth a pharch, dywedodd Simon Thomas, nag y mae wedi gwneud hyd yma, ac nid yw pwerau feto sy'n dweud, yn y pen draw, mai dim ond nhw y gellir ymddiried ynddynt yn gydnaws â'r ffordd y mae datganoli wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban. Wrth gwrs, mae gwahaniaethau sylfaenol o ran safbwyntiau gwleidyddol rhwng y Llywodraeth yng Nghaeredin a'r Llywodraeth yma yng Nghaerdydd. Ond, ar y mater hwn, cydnabuwyd yn gynnar iawn bod gennym ddyheadau clir iawn yn gyffredin. Rydym wedi gwneud ein gorau i gydweithio mewn modd adeiladol ac rydym wedi gwneud hynny ym mhob ffordd bosibl Prif Weinidog Cymru yn ysgrifennu ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban; y digwyddiad llywodraethol cyntaf erioed ar y cyd yn Nhŷ'r Arglwyddi, felly roeddem ni'n gallu rhoi crynodeb ar y cyd i Aelodau Tŷ'r Arglwyddi; parhawyd i gydweithio ar yr agweddau hynny o'r agenda lle mae gennym lawer iawn yn gyffredin yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos diwethaf, a disgwyliaf y byddwn yn parhau i wneud hynny cyhyd ag y bo'r tir cyffredin hwnnw'n bodoli.
Rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd i Simon Thomas y byddwn yn cyflwyno amserlen yr wythnos nesaf, ac os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno i weithdrefn frys er mwyn ystyried y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd, byddem mewn sefyllfa i gwblhau'r broses o'i ystyried o flaen y Cynulliad Cenedlaethol mewn pryd i gael Cydsyniad Brenhinol cyn bod Bil ymadael yr UE yn yr un sefyllfa. Ac, wrth gwrs, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud yn agos â'r holl ddadleuon sy'n digwydd yn y Llywodraeth ar y mater hwn i wneud yn siŵr mai'r Bil y byddwn ni'n ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r Bil cryfaf a mwyaf amddiffynadwy y gallwn ni ei roi ger eich bron.
Rwy'n credu y gŵyr yr Ysgrifennydd Cyllid nad wyf yn petruso bod yn hallt fy meirniadaeth o Lywodraeth Cymru lle rwy'n credu bod angen hynny, ond hefyd, gan fy mod yn gytbwys fy marn, byddaf yn hael iawn fy nghefnogaeth os rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn gywir. Rwy'n croesawu'r datganiad yr ydym ni wedi clywed ganddo heddiw a hoffwn i ddweud fy mod yn credu ei fod wedi dangos amynedd Job yn ei negodiadau â Llywodraeth y DU. Mae'n baradocs rhyfedd, pan fydd Llywodraeth Prydain yn negodi gyda Llywodraeth Cymru neu Lywodraeth yr Alban, mae cael unrhyw fath o gonsesiynau ganddyn nhw o safbwynt yr hyn sy'n sefyllfa anghynaladwy fel tynnu dannedd â gefeiliau, ac eto yn eu trafodaethau gyda'r Comisiwn ym Mrwsel maen nhw'n ymddangos yn gwbl ddi-rym. Bu'r negodiadau Brexit, boed yn yr UE neu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yn draed moch llwyr.
A yw'n rhannu fy nryswch bod Llywodraeth y DU wedi rhoi arf i wrthwynebwyr y broses Brexit drwy greu anghydfodau diangen yn yr achos penodol hwn? Holl ddiben gadael yr Undeb Ewropeaidd yw ei bod hi'n broses ddatganoli; mae'n adfer i wleidyddion etholedig ar lefel sy'n briodol y pwerau hynny sydd, yn y pen draw, yn perthyn i neu yn deillio o ganiatâd y bobl, a byddai'n anghywir i Lywodraeth y DU gadw pwerau neu geisio cadw'r pwerau sydd wedi'u datganoli i Gymru o ganlyniad i refferenda eraill lle mynegwyd ewyllys y bobl. Efallai ei bod hi'n anghyfleus i Lywodraeth y DU gydnabod y ffaith hon a, gan fod Lloegr yn arglwyddiaethu o ran poblogaeth yn y Deyrnas Unedig, efallai fod gwleidyddion Lloegr yn ei chael braidd yn anodd deall hyn—neu rai gwleidyddion Lloegr, beth bynnag. Ond, fel y dywedodd Simon Thomas funud yn ôl, yn y bôn, mae hwn yn gwestiwn o barchu sefydliadau sydd wedi eu sefydlu yn dilyn proses ddemocrataidd, y mae Brexit yn estyniad ohono.
Hoffwn i fynegi fy nryswch unwaith eto at arafwch Llywodraeth y DU yn cyflwyno cynigion i ddiwygio'r Bil ymadael gan eu bod wedi, mewn egwyddor, cytuno i gyflwyno'r gwelliannau hynny. Mae'n hollol annerbyniol y caiff y rhain eu cyflwyno ychydig oriau cyn cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion—ac ni all neb roi ystyriaeth briodol ac felly cael trafodaeth ystyrlon ar y cynigion yn yr amser hwnnw. Nid yw'n syndod bod y gwelliannau hyn yn angenrheidiol, ac mae'n hollol anesboniadwy pam mae Llywodraeth y DU mor araf yn eu cyflwyno.
Wrth gwrs, rydym i gyd yn gwybod, fel y mae pawb yn cytuno, y bydd yn rhaid cael, ac mae'n sicr yn ddymunol cael, fframweithiau ar gyfer y DU o ran materion fel amaethyddiaeth. Ond, yn ystod ymgyrch y refferendwm ac wedyn pan rwyf wedi annerch cyfarfodydd â ffermwyr ar hyd a lled y wlad, rwyf wedi dadlau o blaid y broses Brexit ar y sail bod hyn yn rhoi cyfle i greu polisi amaethyddol sydd wedi ei theilwra ar gyfer buddiannau Cymru, ffermwyr Cymru a defnyddwyr Cymru. Rwy'n synnu at fethiant Llywodraeth y DU i ddeall natur y broses hon yn ddigonol. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig i gyflwyno Bil brys i'r Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod hyn yn dacteg angenrheidiol, o leiaf, i orfodi Llywodraeth y DU i gydnabod realiti'r sefyllfa, bod Llywodraeth y Cynulliad yn fynegiant dilys o farn pobl Cymru, a'n diben ni yma yw sicrhau y caiff y setliad datganoli ei barchu gan Lywodraeth y DU ac na ddylid defnyddio'r broses Brexit i'w danseilio.
Wel, wrth gwrs, mae Mr Hamilton yn gywir: mae cryn anghydweld rhwng y safbwyntiau a fabwysiadwyd ynglŷn â'r holl fusnes o Ewrop a gadael yr Undeb Ewropeaidd, rhwng safbwynt Llywodraeth Cymru a sefyllfa ei blaid—y mae ef ei hun yn rheolaidd wedi ei amlinellu yma ar lawr y Cynulliad. Ond, yn ysbryd eciwmenaidd ei gyfraniad y prynhawn yma, gadewch imi wneud dau neu dri phwynt: yn gyntaf oll, credaf ei bod hi'n sefyllfa sobreiddiol bod Llywodraeth y DU wedi ei chael hi mor anodd i gynnal trafodaethau gyda'i chymdogion agosaf yma o fewn y Deyrnas Unedig a hithau ar fin cychwyn ceisio cwblhau'r negodiadau mwyaf cymhleth gyda 27 o wladwriaethau Ewropeaidd eraill. Mae Gweinidogion olynol y DU yn dweud wrthym pa mor hawdd y bydd hyn, pa mor ddidrafferth y bydd, i gael yr holl gytundebau y maen nhw'n dweud sy'n angenrheidiol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac eto nid ydyn nhw wedi gallu dod i gytundeb ar fater lle—ac rwy'n sicr yn cytuno'n â'r hyn a ddywedodd Neil Hamilton yma—lle nad oedd angen anghydfod o'r cychwyn cyntaf. Pan ddywedodd David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd, am y tro cyntaf erioed mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, y byddai Bil ymadael â'r UE, dywedais, ar ran Llywodraeth Cymru, ein bod yn cytuno ei bod yn bwysig cyflwyno'r Bil a'n bod eisiau i'r Bil fod yn llwyddiant, oherwydd mae a wnelo'r Bil â throsglwyddiad trefnus o gyfraith yr ydym ni wedi dibynnu arni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd i gyfraith y bydd ei hangen arnom ni ar ôl Brexit. Ac mae mynd ar ofyn ffrae gyda grŵp o bobl a oedd yn eich cefnogi yn y gwaith hwnnw wedi bod yn ddirgelwch i mi pan fo dwylo Llywodraeth y DU yn llawn—mor llawn y gallech chi ddweud eu bod yn orlawn—gyda'r gwaith o geisio llywio a negodi'r holl gymhlethdodau eraill o adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n credu bod hynny ar lawer ystyr yn esbonio natur araf eu hymateb. Mae'n Llywodraeth sydd wedi ei llethu gan y dasg y mae'n ei hwynebu ac mae'n cael trafferth dod o hyd i'r amser a'r egni a'r ymdrech sydd eu hangen i roi sylw i faterion, sy'n troi, o'u hanwybyddu, yn broblemau gwirioneddol anodd y gellid bod wedi eu datrys yn llawer haws.
Dywedais yma yn y Siambr yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, Llywydd, yng nghyfarfod yr wythnos diwethaf, mai David Lidington fyddai pumed Cadeirydd y Cydbwyllgor Gweinidogion ar negodiadau Ewropeaidd, mewn corff sydd wedi bodoli ers llai na 18 mis. Mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi ynghylch pa mor anodd yw creu momentwm yn y fforwm hwnnw, oherwydd mae unigolion allweddol wedi bod yn newid mor aml. A dyna pam na chyflwynwyd papur a fyddai wedi caniatáu trafodaeth briodol ar adeg yn y broses lle byddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd. Mae hynny'n gam yn ôl o'r sefyllfa yr oeddem ni ynddi yn yr hydref, pan gynhaliwyd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar sail fwy trefnus, pan oedd gennym ni agendâu, pan oedd gennym ni bapurau, pan oedd gennym ni gofnodion, pan oedd gennym ni ystafell y gallem fod yn sicr y byddem yn cwrdd ynddi na fyddai'n newid pan oeddem ni ar y trên rhwng Caerdydd a Llundain. Roedd cyfarfod yr wythnos diwethaf—er ei fod yn adeiladol—yn gam yn ôl o'r sefydlogrwydd a welsom yn yr hydref. Serch hynny, rydym yn bwrw ymlaen yn y ffordd yr wyf i wedi ei ddisgrifio. Ein gwaith ni bob amser yw ceisio bod mor adeiladol ag y gallwn a dod o hyd i ffyrdd o ddod i gytundeb, pontio'r safbwyntiau nad ydyn nhw naill ai'n llesol i'r Deyrnas Unedig neu Gymru, a rhan Llywodraeth Cymru yn hyn i gyd bob amser yw ceisio chwilio am ffyrdd o ddatrys sefyllfaoedd anodd—hyd yn oed y rhai nad oedd angen iddyn nhw byth fodoli—yn y pen draw yn llwyddiannus.
Rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod i'n parhau i fod wedi fy syfrdanu gan hwyliau lled rhadlon Ysgrifennydd y Cabinet. Ni allaf ddychmygu pa mor rhwystredig a phoenus o drwyadl y bu'r broses hon, ac eto ymddengys ei fod bob amser yn llwyddo i gynnwys y gair 'adeiladol' mewn datganiad ynglŷn â'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), er y gall ceisio dod o hyd i unrhyw beth adeiladol fod yn her weithiau. Ond mae hynny'n rhywbeth yr wyf yn ei edmygu llawer am Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn amlwg, rwy'n croesawu'n fawr y penderfyniad i fwrw ymlaen i gyhoeddi Bil parhad, nid oherwydd, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet, ei fod yn ddymunol ond am mai dyna'r peth iawn i'w wneud, a dyna'r peth pwyllog i'w wneud, ac, yn wir, dyna'r peth angenrheidiol i'w wneud os ydym eisiau anrhydeddu ewyllys pobl Cymru a fynegwyd mewn dau refferendwm, nid yn unig i sefydlu Senedd i Gymru ond i gael Senedd i Gymru gyda'r pwerau sydd gennym ni heddiw.
Hefyd byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed barn Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch a yw'n credu bod ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi camdrafod—o'i fynegi'n gwrtais—y cysylltiadau yn fwy cyffredinol gyda'r llywodraethau datganoledig yn gynllwyn, neu ai anallu ydyw? Rwy'n pendilio rhwng y naill a'r llall byth a beunydd; ni allaf gredu mewn rhai agweddau fod modd i Lywodraeth fod mor ddi-glem, ond yna gwrandawaf ar rai o'i Gweinidogion ac yna gallaf gredu hynny'n bur hawdd.
Rwyf hefyd yn credu, yn ogystal â bod hwn yn gam angenrheidiol i ddeddfu yn gyflym, os oes angen, o ran ein cyfansoddiad a'i ddiogelu, yn wir, fod hon yn adeg bwysig ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol hwn a chymeriad cenedlaethol Cymru. Os ydym yn mynd i fwrw ymlaen â deddfwriaeth frys i amddiffyn ein cyfansoddiad, yna gobeithio y bydd hynny'n nodi dechrau diwedd sefyllfa lle caiff Cymru ei gweld fel doli glwt yr ynysoedd hyn, ac y bydd unrhyw Lywodraeth yn San Steffan yn y dyfodol, beth bynnag ei lliw, yn meddwl ddwywaith cyn dechrau ein cam-drin a chredu y gallant wneud fel y mynnant â'n cyfansoddiad.
Hoffwn i gael eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet o ran y trafodaethau sydd ar y gweill ar gyfer y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), yn enwedig yr wythnos nesaf. Mae'r gair 'negodi' yn air poblogaidd iawn y dyddiau hyn, am resymau amlwg. Ond, o ran y nod y mae Llywodraeth Cymru wedi ei osod o ran yr hyn fyddai'n dderbyniol mewn Bil ymadael yr UE sydd wedi'i wella, a all ef sicrhau'r Cynulliad hwn na fydd unrhyw negodi yn gyfystyr â chymryd grymoedd oddi ar Gymru, bod angen trafod a bod angen cydweithio a negodi, ond ei fod yn barod i wthio'r ddeddfwriaeth hon, ac na fydd yn ddigon i San Steffan ildio ychydig, y byddai'n rhaid cael newid sylfaenol yn y ddeddfwriaeth cyn belled â bod datganoli yn y fantol?
Hefyd—soniodd fy nghyd-Aelod a'm cyfaill Simon Thomas am hyn yn ei gyfraniad, ond mae Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth yr Alban wedi bod mor brysur yn gwarchod rhag difrod posib y Bil ymadael, tybed a all ein diweddaru ni ymhellach ynglŷn ag unrhyw gynnydd sydd wedi bod o bosib o ran fframweithiau cyffredin. Mae'n rhywbeth y mae Aelodau eraill wedi ei grybwyll hefyd. Oherwydd, os nad oes gennym ni newid safbwynt yn Llywodraeth y DU ar fater y Bil ymadael, mae arnaf ofn na chawn ni byth newid ar fater fframweithiau yn y dyfodol, er y bu sôn yn y gorffennol y bu rhywfaint o gynnydd, o leiaf consesiwn y gellid llunio a chytuno ar y cyd ar gynnwys fframweithiau, a oedd yn adeg nodedig i Lywodraeth San Steffan. Ond byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a fu unrhyw drafodaeth bellach ynglŷn â'r fframweithiau cyffredin hynny.
Ac yn olaf, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai trafodaethau fel hyn, a chytundebau rhwng y Llywodraethau datganoledig, fod wedi dirwyn i ben ymhell cyn i grŵp o bobl gyfarfod yn Chequers i benderfynu ar ein tynged heb fod cynrychiolaeth i'n gwlad yn y grŵp hwnnw?
A gaf i ddechrau drwy ddweud mor dda yw cael Steffan Lewis yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar y mater hwn yma y prynhawn yma a chymaint, yn fy marn i, y mae ei gyfraniad hyd yma ac eto heddiw yn ein helpu ni i bendroni ynghylch rhai o'r materion cymhleth iawn a phwysig hyn?
Felly, rwy'n cytuno ag ef y credaf fod ein Bil parhad, y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd, yn ddarn ystyriol o ddeddfwriaeth, a'i fod yn ddarn angenrheidiol o ddeddfwriaeth i ddiogelu buddiannau datganoli, er nad hynny, fel y dywedais dro ar ôl tro y prynhawn yma, yw ein dewis cyntaf, ond sefyllfa wrth gefn y mae'n rhaid inni allu ei diffinio a'i datblygu.
Sut ydym ni'n deall safbwynt Gweinidogion y DU? Wel, mae'n fater dyrys. Yn sicr, mae anallu yn chwarae rhan, fel hyn o leiaf: fel y dywedaf, fy argraff i o gwrdd â Llywodraeth y DU yw bod yr holl agwedd o adael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn sioc enfawr i'r system. Y diffyg paratoi ar gyfer y posibilrwydd hwn, y frwydr enfawr i ysgogi'r ymdrech ddeallusol, i gasglu ynghyd y bobl sydd eu hangen arnoch chi, natur y manylder sydd wrth wraidd llawer o hyn i gyd—rydych chi'n cael yr argraff o system sydd bron bob amser mewn peryg o gael ei llethu gan y dasg sydd ganddi. Ond mae rhai lleisiau yn Llywodraeth y DU—ac, fel y gŵyr Steffan Lewis yn dda, nid Llywodraeth yw hi o bell ffordd sy'n siarad ag un llais, ond mae elfennau yn y Llywodraeth honno nad ydyn nhw'n gefnogol i ddatganoli. Er bod ganddyn nhw ffurf ar eiriau y maen nhw'n arfer eu ddefnyddio, yn y bôn maen nhw'n credu bod datganoli yn rhywbeth y rhoddodd Senedd San Steffan inni yn ei haelioni ac y gall gymryd hynny oddi wrthym pan ddaw'n anghyfleustra iddynt. Ac nid dweud yr wyf i bod y lleisiau hynny yn y mwyafrif, ond mae pobl yr ydych chi'n cwrdd â nhw yn Llywodraeth y DU y mae'n amlwg iddyn nhw bod y newid sylweddol yng nghyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn sgil datganoli wedi eu gadael ar ôl i bob pwrpas, ac maen nhw'n credu bod ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â chamu'n ôl mewn amser, ac y byddant rywsut yn gallu ail-greu'r Deyrnas Unedig a oedd yno cyn inni erioed ymuno â hi. Mae hon yn adeg bwysig yn ein hanes, wrth gwrs. Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno â'r drefn y bydd y Llywodraeth yn ei chynnig yr wythnos nesaf, byddwn yn treulio mis Mawrth fel deddfwrfa yn gorfod ymwneud yn uniongyrchol â chymhlethdod y Bil parhad, a bydd hynny'n gofyn am ymdrechion pawb yn y Siambr hon i wneud yn siŵr bod y Bil gystal ag y gall fod.
Gadewch imi orffen yr hyn a ddywedaf wrth Steffan Lewis drwy gadarnhau ei gred yn fy ngallu i edrych ar yr ochr orau o bethau. Oherwydd cyn belled ag y mae fframweithiau cyffredin yn y cwestiwn, yna mewn gwirionedd bu llawer iawn o waith manwl ar y gweill ar lefel swyddogol ers i'r broses honno ddechrau. Bellach bu dros 20 o'r hyn a elwir yn sesiynau trochi sy'n cynnwys Llywodraeth yr Alban, ni, Llywodraeth y DU a gweision sifil o Ogledd Iwerddon, ac mae hyd at oddeutu 10 arall wedi eu trefnu ar gyfer mis Mawrth. Felly, mae'n dangos y pwynt a wnaed o amgylch y Siambr hon y prynhawn yma: ein bod yn abl iawn i ddod at ein gilydd a datrys y problemau cyffredin hyn drwy eistedd o gwmpas y bwrdd a mynd ati'n adeiladol heb yr angen i chwifio ffon fawr arnom ni a dweud na ellir ymddiried ynom i wneud y pethau hyn yn iawn. Rydym yn gwneud hyn drwy'r amser, ac yn llwyddiannus. Yr hyn y mae'n ei ddangos—ac rwy'n gwybod y bydd Steffan Lewis yn ymddiddori yn hyn ac yn dymuno meddwl am y peth—yr hyn y mae'r holl waith hwn yn ei ddangos yw'r angen am set o drefniadau llywodraethu sy'n ategu pob un ohonynt. Pe baem ni'n gallu cytuno i ymdrin ag agweddau ar amaethyddiaeth, er enghraifft, yng nghyd-destun fframweithiau, sut y gall pob un ohonom ni fod yn hyderus, wythnos yn ddiweddarach, ar ôl cytuno ar hynny, na fyddai un o'r rhai a fu'n rhan o'r cytundeb hwnnw o bosib yn cerdded ymaith ac yn gwneud rhywbeth y tu hwnt i ffiniau'r cytundeb? Sut y gallwn ni fod yn hyderus, chwe mis wedi llofnodi'r cytundeb, pan fydd rhywbeth arall yn dod i'r amlwg, bod dulliau priodol i roi gwybod ynglŷn â'r mater newydd hwnnw, er mwyn ailddechrau trafodaethau ac, os oes angen, ar gyfer gwyntyllu dadleuon? Ac ym mhob agwedd ar y trafodaethau ar fframweithiau, ceir ymdeimlad bod angen mecanweithiau llywodraethu cryfach ar y DU yn y dyfodol, yn gyfrwng i'w gydrannau ddod at ei gilydd, cynnal busnes, a chynnal y sefyllfa yn briodol ac yn bwrpasol. Rwy'n credu bod hynny'n her enfawr sy'n deillio o'r trafodaethau fframwaith, a bydd yn rhaid inni ddwyn perswâd ar Lywodraeth y DU i ddod o hyd i beth o'r ynni angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater hwnnw ochr yn ochr â phopeth arall sydd ganddi i feddwl yn ei gylch.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu fawr iawn eich datganiad, a chyflwyno, neu gyflwyno arfaethedig, yr hyn y galwn ni am y tro yn Fil parhad—cam pwysig iawn ymlaen. Gwrandewais hefyd ar araith David Lidington. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn ddryslyd braidd gan rai o'r negeseuon a oedd yn tarddu o hynny, yn arbennig o ran yr hyn a ymddangosai yn ymgais i greu pellter rhwng Cymru a'r Alban, a'r math o fygythiad oedd ymhlyg â diystyru Sewel a oedd yn ymddangos i fod yno. Er hynny, credaf fod rhaid inni gydnabod y bu hon yn broses arteithiol iawn, bron fel tynnu dannedd, llusgo Llywodraeth y DU yn cicio a strancio i dderbyn realiti cyfansoddiad y DU. Ac mae'n ymddangos bron iawn fel pe bai David Lidington yn chwaraewr wrth-gefn sy'n cael ei hysio i'r cae ar ddiwedd gêm bêl-droed, onid ydy hi, mewn ymgais i achub rhywbeth o'r gêm.
Credaf mai'r pwynt a wnaeth Steffan Lewis yw'r un pwysicaf mae'n debyg, a hynny yw a oes modd canfod newid gwirioneddol mewn agwedd. Oherwydd mae'n ymddangos i mi fod risg difrifol o hyd er y gallwn ni ennill yn y maes hwn, neu y gallwn ni gyflawni cynnydd boddhaol yn y maes hwn, mae nifer o eliffantod mawr yn dal yn yr ystafell, i ddefnyddio hen ymadrodd John Morris. Yn gyntaf, y mater o ddiwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Nawr, rwy'n gwybod y byddwn yn trafod adroddiad y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yfory ynglŷn â hynny, ond mae hynny'n faes sylfaenol sy'n dal i fod angen ei ddatrys, a lle mae angen newid mewn agwedd gan Lywodraeth y DU. Mae a wnelo'r ail fater ag ymreolaeth ariannol y lle hwn, mewn perthynas â'r cronfeydd hynny y mae'r UE yn gyfrifol amdanynt. Oherwydd, ar y naill law, fe allwn ni gyflawni yr hyn y mynnwn ni o ran pwerau datganoledig, ond ar ddiwedd y dydd, os oes rheolaeth dros y cyllid a ddylai ddod i'r lle hwn, bydd modd tanseilio hynny—ac yn ail, fel y gwyddom ni, o ran y ddeddfwriaeth ganlyniadol sy'n cael ei llunio ar hyn o bryd, yn enwedig o ran y Bil masnach. Nawr, rwy'n deall pam fod Ysgrifennydd y Cabinet yn amharod i ysgwyddo gormod o feichiau ar unrhyw un adeg, ond mae'r materion hyn i gyd yn gysylltiedig â'i gilydd, a'r hyn nad oes arnom ni mo'i eisiau yw sefyllfa lle'r ydym ni'n mynd o un frwydr i'r llall; mae'n rhaid gweld newid diwylliannol a gwleidyddol gwirioneddol gan Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau consensws sydd yn angenrheidiol ar gyfer y cyfnod ôl-Brexit.
Llywydd, byddai diystyru Sewel yn fater cyfansoddiadol difrifol iawn. Dydw i ddim yn hoffi defnyddio'r gair 'argyfwng', oherwydd caiff ei ddefnyddio yn llawer rhy aml yma, ond ni fu Llywodraeth y DU erioed mewn sefyllfa lle mae hi'n cytuno bod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol hwn i ddarn o ddeddfwriaeth, ac yna, os na all sicrhau'r cydsyniad hwnnw, i fynd yn ei blaen beth bynnag. A phe bai hi'n cael ei hun yn y sefyllfa honno, byddai hi'n cael ei hun i ddyfnderoedd cyfansoddiadol anodd iawn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen i ddiwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion—dyna oedd y pwynt olaf yr oeddwn yn ei wneud i Steffan Lewis. Mae'n anodd darbwyllo Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am hynny. Eu hymateb greddfol, pryd bynnag y dywedir unrhyw beth ynghylch yr angen am drefniadau llywodraethu a diwygio, yw dweud, 'O, rydych chi eisiau Teyrnas Unedig ffederal'. Maen nhw wedi bod yn darllen meddyliau Mr Melding ar y mater hwn yn rhy fanwl, mae'n ymddangos i mi. Ond nid yw'n ymwneud o ddifrif â'r mater; nid yw'n ddim ond ffordd adweithiol o geisio diystyru'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud, ac yn y pen draw nid yw hynny'n dderbyniol. Bydd angen set mwy grymus o drefniadau sefydliadol ar y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, y gall hi barhau i weithredu'n llwyddiannus drwyddynt, ac nid yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn rhoi sail i hynny yn fwy hirdymor.
Wrth gwrs mae Mick Antoniw yn gywir ynglŷn ag ymreolaeth ariannol. Nid yw'r trafodaethau hynny yn ffurfio rhan o'n trafodaethau ynglŷn â'r Bil ymadael, ac nid ydyn nhw wedi cael sylw helaeth hyd yma yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Gallaf roi sicrwydd iddo, fodd bynnag, fy mod i yn sicr wedi eu dwyn i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac mae Gweinidog Cyllid yr Alban wedi gwneud hynny hefyd, ac rydym ni'n parhau i fynd ar drywydd y pwyntiau a wnaeth ef yno. Bu i'r rheini yng Nghymru a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd wneud hynny yn seiliedig ar addewid na fyddai Cymru, ar y lleiaf, geiniog yn waeth ei byd nag y buom ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid anrhydeddu'r addewid hwnnw.
Yn olaf, roedd Mick Antoniw yn llygad ei le i dynnu sylw at natur gydgysylltiol y Bil masnach a darnau eraill o ddeddfwriaeth yr ydym yn eu disgwyl ar lefel y DU gyda Bil ymadael yr UE. Mae'n rhan o'r rheswm pam rwy'n credu ein bod ni wedi rhoi'r fath ymdrech, ac yn wir, y fath amynedd o bryd i'w gilydd, i geisio cael y Bil hwnnw yn iawn. Oherwydd os gallwn ni unioni'r pethau hynny yn y Bil ymadael, yna credaf y bydd yr ateb yr ydym ni'n ei saernio yn y fan honno yn treiddio i'r Bil masnach, y caiff y Bil masnach ei ddiwygio yn yr un modd, a byddwn ni wedi datrys y broblem nid yn unig o ran y Bil ymadael, ond ar gyfer deddfwriaeth a fydd yn dilyn, a dyna pam rydym ni'n credu ei bod hi'n werth ymdrechu fel y gwnaethom ni i wneud hynny'n gywir.
Rwy'n credu y byddai hyn bob amser yn rhywbeth anodd ei negodi, ond fel yr wyf i'n gweld pethau, rydym ni'n symud yn bendant tuag at gytundeb. Ac mae'n rhaid imi ddweud, o ran sut y bydd haneswyr yn gweld hyn, credaf y caiff ei weld fel trafodaeth ffederal glasurol ei naws, oherwydd, beth bynnag yw eich barn am Lywodraeth y DU, nid yw hi'n trin y gweinyddiaethau datganoledig—fel mae hi'n ei galw nhw, yn anffodus—y Llywodraethau datganoledig, fel unrhyw beth ond Llywodraethau cyflawn dros eu maes—caniatewch imi ddefnyddio gair boneddigaidd—diddordeb yn hytrach na sofraniaeth. Nid ydym ni mewn unrhyw ffordd wedi cael ein trin fel llywodraeth leol, a does arnaf i ddim eisiau dibrisio llywodraeth leol, ond mae buddiannau gwirioneddol mewn egwyddorion cyfansoddiadol yma ac maen nhw bellach yn dechrau dod i'r amlwg. Rwy'n croesawu agwedd y Gweinidog y Cabinet yn gyffredinol ac, fel y dywedais, rwy'n rhagweld y bydd cytundeb ac, felly, na fydd angen y Bil parhad. Yn amlwg, ar yr ochr hon i'r tŷ—gadewch inni fod yn onest—rydym ni'n anghyfforddus ynghylch y ddeddfwriaeth frys hon, yma ac yn yr Alban, ond mae'n rhan o'r sefyllfa ehangach a does arnaf i ddim eisiau i'r rhesymau dros hynny fynd â fy holl sylw. Mae arnom ni angen setliad effeithiol yma a Bil ymadael yr UE yw'r ffordd orau i wneud hynny.
Rwy'n cytuno â Steffan Lewis—ac rwyf wedi dweud hyn o'r cychwyn cyntaf—mai wrth galon hyn mae'r cyd-lywodraethu y mae'n rhaid cytuno arno fel y gallwn ni gynnal fframweithiau ar gyfer y DU. Ac mae a wnelo hynny â mwy na dim ond Gweinidogion y DU yn deall hynny—mae rhai wedi deall hynny erioed, mae eraill yn cael anhawster, ac fe allaf i restru'r adrannau gwladol nad wyf yn credu sy'n gwneud cystal. Ond, a dweud y gwir, mae diwylliant y gwasanaeth sifil yn Whitehall yn cael llawer o'r broses hon yn anodd hefyd. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith o redeg y fframweithiau yn digwydd y tu ôl i'r llenni gyda'ch swyddogion a swyddogion yn yr adrannau amrywiol, a bydd angen y gallu enfawr y bydd gennym ni yn Whitehall i redeg y fframweithiau hyn, yn amlwg gyda'n cyfranogiad llawn a chyfranogiad llawn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond maen nhw'n mynd i sefyll yn y lle, ar lawer ystyr, y mae swyddogion yr UE yn sefyll yn y Comisiwn a byddwn yn cyfrannu at hynny. Felly, mae hynny'n haen i'w ystyried hefyd.
Rwy'n credu y byddaf yn trethu amynedd y Llywydd mewn munud—
Byth.
A gaf i dim ond—? Oherwydd rydym ni wedi cael datganiad diddorol iawn. Rwy'n credu bod adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddwn yn ei drafod yfory yn un o'r adroddiadau gorau a gynhyrchodd y Pwyllgor erioed ac rydym ni yn gwneud gwaith trwm, neu os caf i newid y trosiad, rydym ni yn torchi ein llewys. Ond mae dadl yfory rwy'n credu yn arwyddocaol iawn ac mae a wnelo hynny mewn gwirionedd â'r trefniadau llywodraethu y bydd eu hangen arnom ni ar gyfer cyd-lywodraethu.
Ac yn olaf a gaf i ddweud fy mod i'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn meddwl yn ofalus ynglŷn â sut bydd y ddeddfwrfa hon yn craffu ar y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ei wneud o ran cyd-lywodraethu? Oherwydd does arnom ni ddim eisiau yr hyn sy'n cyfateb i'r system gaeedig braidd roedd ganddyn nhw yn yr UE ynglŷn â sut mae llywodraethau yn dod at ei gilydd ac yn cytuno. Mae angen deddfwrfa arnom ni i'ch dwyn i gyfrif am hyn yr ydych chi'n penderfynu ac yn ei ennill drwy'r gweithdrefnau hynny yn y dyfodol.
Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio'n wir fod yr Aelod yn iawn ein bod ar drothwy dod i gytundeb. Rwy'n cytuno ag ef mai datrys y mater hwn drwy gyfrwng Bil ymadael sy'n parchu datganoli yw'r ffordd gywir a'r ffordd orau o wneud hynny. Unwaith eto, os ydym ni eisiau bod yn obeithiol, mae David Lidington rwy'n credu yn un o'r Gweinidogion hynny yn y DU sydd mae'n debyg yn deall y syniad o gyd-lywodraethu, oherwydd gan ei fod yn Weinidog dros Ewrop roedd yn cadeirio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop am sawl blwyddyn. Mae'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Ewrop yn ddarn llawer mwy effeithiol o beirianwaith y llywodraeth, ble mae'r gweinyddiaethau datganoledig wedi cwrdd â Llywodraeth y DU bedair gwaith y flwyddyn cyn Cyngor y Gweinidogion i rannu syniadau a safbwyntiau ynglŷn â'r hyn a drafodir yng Nghyngor y Gweinidogion, ac mae Gweinidogion datganoledig wedi cynrychioli'r DU, o bryd i'w gilydd, yn y trafodaethau hynny. Felly, rwy'n credu y ceir rhywfaint o obaith fod Mr Lidington yn Weinidog sydd wedi gweld hynny'n gweithio a'i weld yn gweithio'n effeithiol.
Rwy'n credu bod David Melding yn llygad ei le ynghylch y gwasanaeth sifil a dyma pam rwy'n credu bod y trafodaethau trochi hynny ar y fframweithiau wedi bod mor bwysig, oherwydd maen nhw wedi bod yn fodd i weision sifil y DU gwrdd â phobl o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn ffordd mae'n debyg na chawson nhw mo'r cyfle hwnnw o'r blaen. Maen nhw wedi bod yn defnyddio'r gyfres o egwyddorion y cytunwyd arnyn nhw yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ôl yn yr hydref ac mae hi o ganlyniad i'r trafodaethau hynny eu bod nhw eu hunain yn casglu bod yr angen am fframwaith i Lywodraethau'r dyfodol ac felly drwy hynny i'r Deyrnas Unedig mor bwysig.
Rwy'n ddiolchgar iawn i aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y gwaith manwl y maen nhw yn ei wneud. Does fawr o, naill ai awydd neu, yn sicr, does dim egni ar gael mewn mannau eraill i wneud y gwaith trwm sydd ei angen, i feddwl sut y bydd hyn yn gweithio yn y dyfodol. A bydd adroddiad y Pwyllgor hwnnw, rwy'n credu, yn wirioneddol ddylanwadol yn llunio syniadaeth, nid yn unig yma a chyda Llywodraeth Cymru, ond yn ein gallu i ddefnyddio'r dadleuon a chloriannu'r gwahanol ffyrdd y gellid gwneud hyn y mae'r adroddiad yn ymrafael â nhw, a fydd yn caniatáu inni ei ddefnyddio i fod yn ddylanwadol mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad ac am yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â'ch trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Yr hyn sy'n drawiadol o'r datganiad hwn a'r ymatebion a'r cwestiynau yw eich bod yn ceisio bod yn gadarnhaol ond nad yw Llywodraeth y DU yn ymateb yn yr un modd. Ond rwyf yn croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn yr ail gam o'r trafodaethau yn y cyfarfod sydd ar y gorwel. Ac, wrth gwrs, dywedir wrthych chi y cewch chi bapur cyn y cyfarfod hwnnw, ond chawsoch chi ddim papur cyn y cynigion a gawsoch chi yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos, fel y dywedwyd heddiw, diffyg parch ac ymddiriedaeth—neu ai dim ond difeddwl oedd o? Ai ni yw'r 'unrhyw fater arall' o ran y trafodaethau pwysig hyn? Oherwydd, yn amlwg, nid yw'r hyn a gyflwynwyd yn dderbyniol. Gallai'r cynigion yn wir fod yn gam yn ôl inni o ran datganoli, felly rwyf yn croesawu'r newyddion y bydd y Bil parhad bellach yn dechrau, a diolch i Steffan Lewis am helpu i'n rhoi mewn sefyllfa mor effeithiol.
Dau gwestiwn. Un: o'ch trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a allwch chi egluro pam nad yw Llywodraeth y DU yn barod i dderbyn gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban, a fu ger eu bron ers wythnosau a misoedd lawer? Byddent yn darparu'r ffordd orau ymlaen, yn hytrach na mynd â ni gam yn ôl ar yr adeg hwyr hon gyda'r cynigion canoli, pe byddech chi'n gallu cyflwyno'r achos, yn wir, i drafod y gwelliannau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Ac yn ail: ddoe, fe gawsom ni dystiolaeth yn y pwyllgor materion allanol ynglŷn ag effaith Brexit ar gydraddoldeb yng Nghymru. Yr hyn sy'n glir yw bod ofn colli Siarter yr UE ar hawliau dynol, colli cyllid yr UE, colli dylanwad ar gydraddoldeb yng Nghymru, sy'n seiliedig ar ddeddfwriaeth yr UE fel hawliau gweithwyr a'r Bil hygyrchedd cyflogaeth. A allwch chi egluro sut y gall y rhai sydd â diddordeb darparu tystiolaeth ynglŷn ag effaith Brexit ac sy'n ofni colli'r pwerau hynny gyfrannu at ac ymwneud â'r Bil parhad, a fyddai, wrth gwrs, yn rhoi parhad cyfreithiol o ddeddfwriaeth yr UE ynglŷn â materion datganoledig yng Nghymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Hoffwn ddweud, unwaith eto, Dirprwy Lywydd, y bu'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn fforwm gwell ers tymor yr hydref y llynedd nag oedd o'r blaen, ac y bu trafodaethau adeiladol gan Weinidogion y DU. Yr hyn sy'n rhaid inni ei weld yn awr, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru ddoe, yw symud o'r geiriau teg i'r camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau caniatâd. Pam nad yw Llywodraeth y DU yn barod i dderbyn ein gwelliant? Am fod arnyn nhw ofn. Achos dydyn nhw ddim yn credu y gellir ymddiried yn y gweinyddiaethau datganoledig i drafod y sefyllfa yn y ffordd yr ydym yn dweud y byddwn ni a dod i gytundeb. Maen nhw eisiau bod â feto wrth law, o hyd, oherwydd maen nhw'n credu rywsut mai nhw yw'r unig oedolion yn yr ystafell. Ac mae hynny'n fan cychwyn gwirioneddol broblemus, yn enwedig pan mae'r ffeithiau yn gwrth-ddweud hynny mor uniongyrchol.
O ran materion cydraddoldeb, gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod bod Llywodraeth Cymru, ac, yn wir, Llywodraeth yr Alban, yn achub yn rheolaidd ar gyfleoedd drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i bwysleisio wrth Lywodraeth y DU na ellir defnyddio gadael yr Undeb Ewropeaidd yn esgus i erydu'r hawliau dinasyddiaeth hynny yr ydym ni wedi'u sicrhau o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae hynny'n cynnwys llu o enillion yr ydym ni wedi eu gwneud yn y maes cydraddoldeb. Llwyddais i allu trafod hyn i gyd gyda grŵp o sefydliadau trydydd sector yr wyf yn cyfarfod â nhw bob chwe mis ac y mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at Brexit yn eitem sefydlog. Byddwn yn ceisio, hyd yn oed gydag amserlen frys, i wneud yn siŵr bod cyrff y tu hwnt i'r Cynulliad, sydd â phethau pwysig i'w dweud ynglŷn â'r materion hyn, yn cael y cyfle, mae'n debyg gan fwyaf drwy'r ffyrdd sefydledig sydd gennym ni yn yr amgylchiadau hynny, i barhau i ddylanwadu ar ein syniadau yn y cyswllt hwn.
Ac yn olaf, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ceisiaf fod mor gryno â phosib oherwydd mewn gwirionedd, mae gennyf y cyfle i holi Ysgrifennydd y Cabinet ddydd Llun nesaf yng nghyfarfod y pwyllgor, a byddwn yn trafod ychydig yn fwy manwl bryd hynny. Mi wna i geisio canolbwyntio'n llwyr ar Gyd-bwyllgor y Gweinidogion heddiw, ac nid ar y Bil parhad, er fy mod i'n cytuno â Simon Thomas a Steffan Lewis ynglŷn â'r materion y mae'r ddau wedi eu crybwyll mewn cysylltiad â hynny.
Yn eich trafodaethau yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion—yn amlwg, rydych chi wedi sôn gryn dipyn ac yn drylwyr am Fil ymadael yr UE, ond pa drafodaethau a gawsoch chi am y cyfnod pontio, oherwydd mae hynny yn amlwg yn gam pwysig. Y cwbl a welaf i ar hyn o bryd yw'r oedi sy'n cael ei orfodi arnom ni gyda materion ynghylch y Bil ymadael yn ein llesteirio gyda'r trafodaethau hynny, a'r gallu i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn y negodiadau ar gyfer cam 2 yn cael ei ohirio. Fel y dywedodd Steffan Lewis, yr wythnos diwethaf fe welsom ni'r Cabinet—neu ran o'r Cabinet—yn cyfarfod yn breifat yn Chequers, â neb yn cynrychioli'r cenhedloedd datganoledig. Ymddengys fod hyn yn ddull arall ble caiff ein cyfraniad ei anwybyddu, yn ymarferol. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni ble rydym ni arni yn hynny o beth? Ac a oes gennych chi sicrwydd y byddwn ni yn y cyfarfodydd pan fo'r negodiadau yng ngham 2 yn digwydd fel y gallwn ni ddweud ein dweud mewn gwirionedd ynglŷn â'r meysydd sy'n bwysig?
Ynglŷn â'r fframweithiau, fe wnaethoch chi sôn am 20 cyfarfod trochi hyd yma—10 mwy i ddod fis nesaf. Rydych chi'n optimistaidd; hwyrach mai fi sy'n sinigaidd. A yw hynny'n ffordd arall o ddweud yn syml ar y diwedd, 'O, edrychwch, rydym ni wedi gwneud cymaint, mewn gwirionedd, dydym ni ddim yn poeni am y pwerau oherwydd nid yw'n effeithio ar gymaint â hynny o feysydd'? Rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn gweithio yn y ffordd honno. Ond fe wnaethoch chi sôn am y fframweithiau a phwy sy'n penderfynu ar y fframweithiau hynny, ond a allwch chi gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch chi ynghylch pwy fydd yn penderfynu pwy fydd yn penderfynu ar y fframweithiau? Oherwydd pan ddaw hi'n bryd cytuno ar fframwaith, pwy fydd yn gwneud hynny, ac a fydd hynny gyda chydsyniad hefyd?
Diolch i David Rees am y cwestiynau hynny, ac am y gwaith y mae yntau a'r Pwyllgor hwn wedi'i wneud yn y maes hwn. Pan roeddwn i gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar gyfer sesiwn briffio, roedd cydnabyddiaeth dda iawn i'r ffaith bod ei bwyllgor wedi cyfarfod â phwyllgorau seneddol Brexit. Mae gwaith y Pwyllgor yn ddi-os wedi dylanwadu ar sicrhau bod cynrychiolaeth a dealltwriaeth glir o safbwyntiau Cymru.
O ran y cyfnod pontio, trafodwyd hynny yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dywedais wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd bod angen iddo fwrw ymlaen a gwneud yn siŵr y ceir cytundeb pontio yng nghyfarfod cyngor mis Mawrth, ac nid yw hi er budd y DU i beidio â gallu dod i gytundeb ym mis Mawrth oherwydd, os caiff ei ohirio tan y cyngor nesaf, byddwn mewn sefyllfa wannach, nid cryfach, oherwydd hynny. Cytunodd, fel mae wedi cytuno mewn cyfarfod blaenorol, ei bod hi'n bwysig iawn datrys materion pontio yn gyflym.
Mae yfory'n ddiwrnod mawr, fel y gŵyr David Rees, pan mae hi'n debygol y cytunir ar ddogfen yn y Comisiwn, a fydd yn ceisio deall beth yw goblygiadau cyfreithiol y cytundeb y daethpwyd iddo ym mis Rhagfyr ar ddiwedd trafodaethau cyfnod 1. Bydd hynny'n llywio natur y pontio. Felly, mae pontio yn bwysig iawn, ac mae angen i Lywodraeth y DU gyfaddawdu fel sy'n angenrheidiol er mwyn cytuno ar gyfnod pontio.
Ynghylch trafodaethau cyfnod 2, fel y dywedais, roeddem ni'n gobeithio y byddai papur yn y cyfarfod yr wythnos diwethaf. Nid felly y bu hi. Unwaith eto, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi dweud rhai pethau adeiladol ynglŷn â chydnabod yr angen ar gyfer bod â mwy o ran yn y cyfnod hwnnw o negodiadau, ond mae angen inni weld y cynigion ymarferol y byddant yn eu cyflwyno i wireddu hynny.
Ynglŷn â'r trafodaethau trochi, rwy'n cydnabod y bydd rhai pobl yn Llywodraeth y DU yr hoffi'r syniad o ddweud, oherwydd y cynhaliwyd yr holl drafodaethau trochi, ac i'r trafodaethau fod yn llwyddiannus, does dim problem yma o gwbl, ac, wyddoch chi, 'Anghofiwch yr holl ffwlbri yma am gymal 11; edrychwch pa mor llwyddiannus mae'r pethau hyn yn cael eu datrys.' Mae arnaf ofn y byddai'n rhaid inni ddweud bod hyn er gwaethaf, yn hytrach nag oherwydd y modd y mae'r Bil ymadael wedi ei lunio, ac rwy'n credu bod y trafodaethau trochi yn cadarnhau ein safbwynt ynglŷn â hyn i gyd: bod bwrw ymlaen drwy gydsyniad a drwy gytundeb yn bosib—yn bosib iawn— yn y Deyrnas Unedig, ac y dylid llunio'r gyfraith mewn ffordd sy'n adlewyrchu hynny.
Mae sut y caiff y fframweithiau eu gweithredu yn ein hatgoffa o'r drafodaeth ddiddorol iawn a gawsom ni y prynhawn yma a'r papur y bydd y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol yn ei drafod yfory, oherwydd mae a wnelo hynny â'r trefniadau llywodraethu ategol a all roi hyder i bawb, os cytunir ar fframwaith, mae yna ffyrdd o droi'r cytundebau hynny yn weithredu ac fe ellir diogelu buddiannau pawb sy'n rhan o hynny oherwydd bydd rheolau y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni gadw atyn nhw, a'r rheini yn rheolau cyfartal. Yna credaf y gallwn ni fod yn obeithiol y bydd modd gweithredu ar sail y fframweithiau hynny ac y bydd modd eu defnyddio'n llwyddiannus i sicrhau bod y Deyrnas Unedig yn gweithio'n briodol.