Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 27 Chwefror 2018.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad ac am ei amynedd di-ball gyda rhai o'r anawsterau hyn? A gaf i ddiolch yn arbennig iddo am gadarnhau heddiw fod y Llywodraeth yn symud ymlaen â'r Bil parhad, y mae fy nghyd-Aelod anrhydeddus, Steffan Lewis, wedi dadlau o'i blaid gyhyd? Rydym ni, ym Mhlaid Cymru, yn falch iawn o weld bod hwn bellach yn rhan gadarn o arfogaeth y Llywodraeth—rhywbeth yr ydym yn credu a ddylai fod wedi bod yno yn gynharach, mae'n rhaid dweud.
Byddaf yn dychwelyd at hynny mewn eiliad oherwydd rwyf eisiau, yn gyntaf oll, ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag araith David Lidington yn benodol, a beth sydd wedi dod i'r fei ers cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Cefais yr araith braidd yn rhwystredig ac roeddwn yn teimlo ei bod hi o hyd yn dangos peth o'r bwlio a'r agwedd fygythiol o du San Steffan tuag at Lywodraethau Cymru a'r Alban ill dwy. Elfen fechan o fygythiad oedd os nad ydych chi'n ymddwyn, yna byddwn yn cadw'r pwerau hyn. Rwy'n awyddus iawn i'w roi yn y modd hwn: roedd yr araith gan David Lidington yn frith o gyfeiriadau at farchnadoedd mewnol neu gyffredin y DU—rhywbeth na soniodd Ysgrifennydd Cabinet yn ei gylch unwaith yn ei ddatganiad ei hun. Buom yn rhan o farchnad gyffredin neu farchnad sengl ers 40 mlynedd bellach. Bu rhai anawsterau gyda hynny ac mae rhai pobl wedi anghytuno'n gryf iawn ag ef, ond nid yw wedi effeithio ar sut yr ydym ni'n rhedeg ein dulliau mewnol ein hunain.
Siawns, y cyfan sydd ei angen i sicrhau bod fframweithiau cadarn a fframweithiau cytunedig yn y DU yw agenda syml o barch sy'n rhoi sylw i bob rhan o'r DU yn yr un modd, ac yn rhoi swyddogaethau a phwysau a chryfderau cyfartal i hynny. Y gwendid yn hynny wrth gwrs yw Lloegr, nid Cymru na'r Alban, ond mae hynny'n fater i bobl Lloegr. Pe baem ni'n cyflawni hynny, does neb yma o unrhyw blaid nad oes arnyn nhw eisiau fframweithiau cryf i'r DU ynglŷn ag amaethyddiaeth, yr amgylchedd, lles cymdeithasol nac unrhyw beth arall. Nid yw'n angenrheidiol dal grymoedd sy'n cael eu dal ar hyn o bryd yn gyffredin ar y lefel Ewropeaidd, eu dal nhw yn awr yn San Steffan a pheidio â throsglwyddo'r rheini, yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, i bob rhan—i rannau cyfansoddol a gweinyddol gyfansoddiadol datganoledig—o'r Deyrnas Unedig. Felly, dyna i raddau helaeth safbwynt Plaid Cymru yn hyn o beth.
Rwy'n deall bod Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus i droedio'n ofalus, yn awyddus i barhau i drafod gyda Llywodraeth San Steffan, ond nid wyf yn credu bod ganddo gyfle i gael barn unfrydol ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma oni bai ei bod hi'n amlwg y caiff y pwerau hynny eu dychwelyd at bobl Cymru ac na cheir feto, pa un a yw hynny'n feto tymor byr neu'n feto hirdymor, yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan.
Felly, o arddel y safbwynt hwnnw, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut mae bellach yn bwriadu gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, oherwydd nad oes Llywodraeth ddatganoledig gan Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd? Sut y bydd yn parhau i weithio—? Rwy'n diolch iddo am y gwaith y mae wedi'i wneud, a Michael Russell hefyd; mae'r gwaith wedi bod yn glir iawn ac mae wedi'i ysgrifennu ar y cyd mewn rhai achosion ac wedi bod yn fwy llwyddiannus oherwydd hynny, rwy'n credu. Felly, sut mae'n parhau i sicrhau bod hynny'n digwydd?
A gaf i ei atgoffa o'r hyn a ddywedais i chwe wythnos yn ôl: allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid? Rwy'n credu y dangoswyd hynny inni, a dyna pam wrth gwrs yr ydych chi wedi dewis, bellach, y Bil parhad. Gan edrych yn benodol ar y Bil hwnnw, sydd yn rhoi mantais ychwanegol inni, rwyf yn credu pe cyflwynid ef yn gynharach, y gallem fod wedi cyflymu'r broses hon. Rwy'n credu efallai y byddem wedi rhoi argraff gryfach o lawer i San Steffan ein bod yn hollol o ddifrif ynghylch hyn, ond, wyddoch chi, dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi.
A all Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd i'r Cynulliad ei fod yn credu, gan dybio y byddwn ni yn cymeradwyo mesurau brys yr wythnos nesaf, y gallwn ni gyflawni'r Bil hwn mewn digon o amser fel na fydd Bil ymadael yr Undeb Ewropeaidd yn achub y blaen arnom ni, os mynnwch chi—neu na fydd yn sleifio o'r tu arall heibio, fel y bydd yn dal i fod yn ddewis posib ac y gellid ei ddefnyddio eto yn hynny o beth? A all ddweud hefyd ei fod wedi siarad â'i gydweithiwr wrth ei ochr, y Cwnsler Cyffredinol, ynghylch sut y gellid, pe bai angen, amddiffyn Bil o'r fath yn y Goruchaf Lys, os bydd diffyg cytundeb rhwng y Llywodraeth hon a Llywodraeth San Steffan?