Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 27 Chwefror 2018.
Wnes i ddim sôn yn fy natganiad, mae'n hollol gywir, ynglŷn â mater y farchnad gyffredin fewnol yn y Deyrnas Unedig. Safbwynt Llywodraeth Cymru, o'r cychwyn cyntaf, yw ein bod yn deall yn llwyr yr angen i drosglwyddo cyfraith yr UE yn drefnus i'r llyfr statud domestig mewn modd a fydd yn caniatáu i'r Deyrnas Unedig weithredu'n effeithiol yn y dyfodol. Ar lawer ystyr doedd cyfeiriadau Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn at hyn ddoe yn ddim byd amgenach na dadlau dadl ffug. Maen nhw'n cyfeirio at broblem nad yw mewn gwirionedd yn bodoli ac wedyn yn ceisio defnyddio hynny i gyfiawnhau'r ffordd y maen nhw'n dadlau mai dim ond nhw sy'n gallu defnyddio pwerau mewn ffordd a fyddai'n caniatáu i'r gweithio effeithiol hwnnw barhau. Rydym yn anghytuno'n llwyr gyda nhw ar y pwynt hwnnw. Rydym wedi dweud o'r dechrau un y byddem ni, wrth gwrs, yn dynesu at hyn yn hollol adeiladol gyda'r cyfrifoldebau datganoledig sydd gennym ni er mwyn ceisio darganfod a chytuno ar ffyrdd i wneud yn siŵr y gall y DU barhau i weithredu'n llwyddiannus yn y dyfodol.
Rwy'n fodlon ystyried y safbwynt mai'r ffordd orau i roi sylfaen ddeddfwriaethol i rai o'r fframweithiau hynny—o bosib—fyddai i'r pwerau gael eu dal yn San Steffan tra bo'r ddeddfwriaeth honno yn cael ei gwireddu. Ond ni allaf gytuno i sefyllfa lle byddai'r grymoedd hynny y byddem ni yn eu hildio dros dro yn digwydd heb inni gytuno. Os caiff ei wneud gyda'n cytundeb ni a chyda chytundeb Llywodraeth yr Alban a chytundeb Llywodraeth y DU, yna mae achos pragmatig dros wneud pethau yn y ffordd honno. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn barod i weithredu gyda mwy o ymddiriedaeth a pharch, dywedodd Simon Thomas, nag y mae wedi gwneud hyd yma, ac nid yw pwerau feto sy'n dweud, yn y pen draw, mai dim ond nhw y gellir ymddiried ynddynt yn gydnaws â'r ffordd y mae datganoli wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth yr Alban. Wrth gwrs, mae gwahaniaethau sylfaenol o ran safbwyntiau gwleidyddol rhwng y Llywodraeth yng Nghaeredin a'r Llywodraeth yma yng Nghaerdydd. Ond, ar y mater hwn, cydnabuwyd yn gynnar iawn bod gennym ddyheadau clir iawn yn gyffredin. Rydym wedi gwneud ein gorau i gydweithio mewn modd adeiladol ac rydym wedi gwneud hynny ym mhob ffordd bosibl Prif Weinidog Cymru yn ysgrifennu ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban; y digwyddiad llywodraethol cyntaf erioed ar y cyd yn Nhŷ'r Arglwyddi, felly roeddem ni'n gallu rhoi crynodeb ar y cyd i Aelodau Tŷ'r Arglwyddi; parhawyd i gydweithio ar yr agweddau hynny o'r agenda lle mae gennym lawer iawn yn gyffredin yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos diwethaf, a disgwyliaf y byddwn yn parhau i wneud hynny cyhyd ag y bo'r tir cyffredin hwnnw'n bodoli.
Rwy'n credu y gallaf roi sicrwydd i Simon Thomas y byddwn yn cyflwyno amserlen yr wythnos nesaf, ac os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno i weithdrefn frys er mwyn ystyried y gyfraith sy'n deillio o Fil yr Undeb Ewropeaidd, byddem mewn sefyllfa i gwblhau'r broses o'i ystyried o flaen y Cynulliad Cenedlaethol mewn pryd i gael Cydsyniad Brenhinol cyn bod Bil ymadael yr UE yn yr un sefyllfa. Ac, wrth gwrs, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ymwneud yn agos â'r holl ddadleuon sy'n digwydd yn y Llywodraeth ar y mater hwn i wneud yn siŵr mai'r Bil y byddwn ni'n ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r Bil cryfaf a mwyaf amddiffynadwy y gallwn ni ei roi ger eich bron.