Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 27 Chwefror 2018.
Llywydd, byddai diystyru Sewel yn fater cyfansoddiadol difrifol iawn. Dydw i ddim yn hoffi defnyddio'r gair 'argyfwng', oherwydd caiff ei ddefnyddio yn llawer rhy aml yma, ond ni fu Llywodraeth y DU erioed mewn sefyllfa lle mae hi'n cytuno bod angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol hwn i ddarn o ddeddfwriaeth, ac yna, os na all sicrhau'r cydsyniad hwnnw, i fynd yn ei blaen beth bynnag. A phe bai hi'n cael ei hun yn y sefyllfa honno, byddai hi'n cael ei hun i ddyfnderoedd cyfansoddiadol anodd iawn.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen i ddiwygio'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion—dyna oedd y pwynt olaf yr oeddwn yn ei wneud i Steffan Lewis. Mae'n anodd darbwyllo Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am hynny. Eu hymateb greddfol, pryd bynnag y dywedir unrhyw beth ynghylch yr angen am drefniadau llywodraethu a diwygio, yw dweud, 'O, rydych chi eisiau Teyrnas Unedig ffederal'. Maen nhw wedi bod yn darllen meddyliau Mr Melding ar y mater hwn yn rhy fanwl, mae'n ymddangos i mi. Ond nid yw'n ymwneud o ddifrif â'r mater; nid yw'n ddim ond ffordd adweithiol o geisio diystyru'r pwyntiau sy'n cael eu gwneud, ac yn y pen draw nid yw hynny'n dderbyniol. Bydd angen set mwy grymus o drefniadau sefydliadol ar y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, y gall hi barhau i weithredu'n llwyddiannus drwyddynt, ac nid yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn rhoi sail i hynny yn fwy hirdymor.
Wrth gwrs mae Mick Antoniw yn gywir ynglŷn ag ymreolaeth ariannol. Nid yw'r trafodaethau hynny yn ffurfio rhan o'n trafodaethau ynglŷn â'r Bil ymadael, ac nid ydyn nhw wedi cael sylw helaeth hyd yma yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Gallaf roi sicrwydd iddo, fodd bynnag, fy mod i yn sicr wedi eu dwyn i sylw Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, ac mae Gweinidog Cyllid yr Alban wedi gwneud hynny hefyd, ac rydym ni'n parhau i fynd ar drywydd y pwyntiau a wnaeth ef yno. Bu i'r rheini yng Nghymru a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd wneud hynny yn seiliedig ar addewid na fyddai Cymru, ar y lleiaf, geiniog yn waeth ei byd nag y buom ni o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n rhaid anrhydeddu'r addewid hwnnw.
Yn olaf, roedd Mick Antoniw yn llygad ei le i dynnu sylw at natur gydgysylltiol y Bil masnach a darnau eraill o ddeddfwriaeth yr ydym yn eu disgwyl ar lefel y DU gyda Bil ymadael yr UE. Mae'n rhan o'r rheswm pam rwy'n credu ein bod ni wedi rhoi'r fath ymdrech, ac yn wir, y fath amynedd o bryd i'w gilydd, i geisio cael y Bil hwnnw yn iawn. Oherwydd os gallwn ni unioni'r pethau hynny yn y Bil ymadael, yna credaf y bydd yr ateb yr ydym ni'n ei saernio yn y fan honno yn treiddio i'r Bil masnach, y caiff y Bil masnach ei ddiwygio yn yr un modd, a byddwn ni wedi datrys y broblem nid yn unig o ran y Bil ymadael, ond ar gyfer deddfwriaeth a fydd yn dilyn, a dyna pam rydym ni'n credu ei bod hi'n werth ymdrechu fel y gwnaethom ni i wneud hynny'n gywir.