Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 27 Chwefror 2018.
Nid wyf yn derbyn llawer o'r hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad ef, a bod yn onest. O ran yr ymgynghoriad, credaf ei fod yn ymgynghoriad cyhoeddus llawn dros gyfnod rhesymol o amser. Fe wnaethom ni ddewis yn fwriadol gynnal digwyddiadau ychwanegol i'r bobl hynny nad ydyn nhw'n cymryd rhan mewn ymgynghoriadau yn rheolaidd. Defnyddiwyd Clymu Cymunedau i wneud hynny. Rwy'n sylweddoli bod y Sefydliad Ymgynghori yn awyddus i gynnal eu digwyddiad eu hunain. Dywedason ni na fyddem yn ymwneud â hynny gan nad wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru anfon Gweinidogion neu swyddogion i ddigwyddiadau lle mae ein rhanddeiliaid yn talu am y mynediad hwnnw. Nid wyf yn credu y dylem helpu'r Sefydliad Ymgynghori i redeg eu busnes. Mae hyn yn ymwneud â sut mae'r cyhoedd yn ymgysylltu a sut rydym ni wedi mynd ati mewn modd rhagweithiol i sicrhau bod y cyhoedd yn cymryd rhan yn y digwyddiadau hynny'n fwy cyffredinol ac wedyn yn benodol y bobl hynny nad ydyn nhw'n cymryd rhan reolaidd mewn ymgynghoriadau.
Ar y pwynt ynglŷn â dyfodol cynghorau iechyd cymuned, eto rydym wedi trafod hyn sawl gwaith o'r blaen a pharhau i ddweud yr wyf i fy mod yn awyddus i gael corff ar gyfer llais y dinesydd ledled iechyd a gofal a swyddogaeth gryfach yn cynrychioli'r dinesydd ledled iechyd a sector gofal. Mae hyn yn golygu diwygio'r cynghorau iechyd cymuned. Mae'n golygu bod yn rhaid ichi ddileu'r cynghorau iechyd cymuned fel y maen nhw ar hyn o bryd, o ystyried eu bod mewn deddfwriaeth sylfaenol, a'u disodli nhw. Nid yw hyn yn golygu cyfnod o amser lle nad oes corff ar gyfer llais y dinesydd yn bodoli dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd, cyn bod angen gwirioneddol i mi wedyn ei ddisodli â rhywbeth gwahanol. Pe byddem yn symud ymlaen gyda deddfwriaeth, mae'n golygu y byddai'n rhaid inni wedyn nodi sut beth fyddai'r corff newydd, ac ar yr un pryd byddai'r cynghorau iechyd cymuned yn cael eu disodli gan y corff newydd hwnnw.
Mae hyn yn mynd yn ôl at beidio ag ystyried, boed hynny mewn diniweidrwydd neu beidio, yr hyn a ddywedwyd ar sawl achlysur yn y lle hwn a'r tu allan iddo. Deallaf y pryderon a gaiff eu codi, ond mae Bwrdd Cenedlaethol y Cynghorau Iechyd Cymuned ei hun yn cydnabod ei fod yn dymuno gweld cynnydd yn ei swyddogaeth ledled iechyd a gofal cymdeithasol. Wrth inni gael gofal sy'n fwyfwy integredig, mae o reidrwydd yn synhwyrol nad yw corff ar gyfer llais y dinesydd yn dod i stop ar linell artiffisial rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hefyd yn cydnabod ei fod yn dymuno gweld diwygio'i safle o fewn y sgwrs am ddiwygio'r gwasanaeth. Mae hefyd yn dymuno gweld diwygio ei swyddogaeth arolygu. Pan gafodd y cynghorau iechyd cymuned eu creu, wrth gwrs, nid oedd gennym Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Bellach mae gennym arolygiaeth broffesiynol sy'n ymgymryd ag un rhan o'r arolygiad, ond mae'r cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn glir iawn eu bod yn awyddus i gael corff olynol a fyddai'n dal i fod â'r hawl i wneud ymweliadau dirybudd i feysydd lle mae gofal yn cael ei weinyddu. A dyna rywbeth yr ydym yn sôn yn adeiladol amdano, am yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol. Felly, nid mater yw hyn o ddiddymu a gwneud i ffwrdd â'r cynghorau iechyd cymuned heb gael dim yn eu lle. Nid dyna safbwynt y Llywodraeth o gwbl. Nid dyna'r cynnig yr ydym wedi ei roi gerbron. Nid dyna'r hyn yr wyf wedi ei ddweud dro ar ôl tro yn y lle hwn nac mewn mannau eraill hefyd.
Ac, ar y pwyntiau am ymyrryd, roeddwn o'r farn mai braidd yn wamal oedd eich sylwadau chi ynghylch ein safle ni ac o ran ymyrryd mewn sefydliadau sydd mewn trafferth gyda rhai agweddau ar eu perfformiad. Mae hyn, fel y dywedais wrth Angela Burns, yn ymwneud â sut yr ydym am gael yr offerynnau ychwanegol i ymyrryd a chefnogi cyrff nad ydynt yn cyflawni pob un o'u dyletswyddau. Weithiau, ceir her gorfforaethol, ac nid mewn un ardal gwasanaeth unigol neu her swyddogaethol. Ond weithiau bydd angen cymorth ar y maes gwasanaeth hwnnw neu'r her swyddogaethol honno mewn ffordd gyfyngedig o ran amser, y gallai Gweinidogion weithredu yn brydlon oddi mewn iddi drwy benodi rhywun i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd neu'r tîm gweithredol. Derbyniwyd y cynnig hwnnw yn frwd yn yr ymgynghoriad, ac ni chredaf fod hynny'n arbennig o anodd ei ddeall.
Ar eich pwynt ynghylch cynrychiolaeth ar fyrddau a rhywedd a rhaniad rhwng y rhywiau, mewn gwirionedd, fel y dywedais yn gynharach, rydym ni, ar lefel arweinyddiaeth Cadeiryddion a phrif weithredwyr, yn gweud yn lled dda ym maes iechyd. Esiampl dda iawn yw penodiad diweddar Alex Howells yn Brif Weithredwr newydd y corff newydd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a hefyd, Tracy Myhill yn symud i fod yn Brif Weithredwr Abertawe Bro Morgannwg. Ni wnaeth hynny fel rhywun o fewn ein system ni yma yng Nghymru ond mewn gwirionedd fel rhywun y cytunodd yr asesydd allanol arni hefyd—ac ymgeisydd allanol o ansawdd uchel hefyd—Tracy Myhill oedd yr ymgeisydd gorau, nid yn unig yr ymgeisydd Cymreig gorau ond yr ymgeisydd gorau. Mae hi wedi gwneud gwaith arwyddocaol o ran trawsnewid y gwasanaeth ambiwlans hefyd, ac mae hynny'n gam cadarnhaol gwirioneddol. Caiff hyn ei wneud ar sail teilyngdod a chaiff ei wneud oherwydd dangoswyd cryn ddyfalbarhad o ran sut yr ydym yn datblygu ac yn hybu pob. Ond rydym yn cydnabod, mewn haenau eraill o fewn ein gwasanaeth ar lefel arweinyddiaeth weithredol, fod gennym her wirioneddol yn yr haen nesaf i lawr, yr haen ganol, a phwy fydd yn dod nesaf. Mae hynny'n rhywbeth y bydd gennyf fwy i'w ddweud amdano, ond mae hyn yn rhannol am—. Mae hefyd, wrth gwrs, yn ymwneud â'n proses o wneud penodiadau cyhoeddus, ac ymdriniais â'r sylwadau hynny wrth ymateb i Angela Burns.
Ond nid wyf yn credu bod y penderfyniad a wnaed am yr uned mam a'i phlentyn fewnol flaenorol wedi cael ei ysgogi gan gynrychiolaeth o fenywod ar fyrddau. Mewn gwirionedd, daeth pryderon gan staff yn yr uned ar y pryd nad oeddent yn gallu darparu'r gofal priodol. Roedd y staff yn fenywod eu hunain a oedd yn dweud, 'Nid ydym yn credu ein bod yn gallu gwneud y gwaith fel y dylem ei wneud.' Rydym wedi edrych eto ar y sefyllfa. Dywedais ar y cychwyn yn deg yn yr ymchwiliad penodol hwn—ac wrth feddwl am y ddadl oedd gennym yn y lle hwn bythefnos yn ôl, a ddaeth ag ymchwiliad y pwyllgor i ben, ond yn sicr nid yw gwaith y Llywodraeth na'r gwasanaeth iechyd yn dod i ben ar y pwynt hwnnw. Rydym wedi ymrwymo i gael gofal cleifion mewnol yng Nghymru, nid oherwydd nifer y menywod ar fyrddau ledled Cymru ond oherwydd ein bod yn credu mai dyna'r peth iawn i'w wneud ac mae gennym ffordd o ddarparu'r gofal hwnnw sy'n diwallu anghenion dinasyddion ledled Cymru, ac mae'r Papur Gwyn hwn yn ymwneud â hynny. Sut y gallwn ddiwallu anghenion dinasyddion ledled Cymru? A allwn ddatrys rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu gan gyflwyno cynigion ar gyfer deddfwriaeth yn y Papur Gwyn? A dyna'r hyn yr wyf yn ymrwymo i'w wneud, fel yr amlinellais yn fy natganiad.