Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 27 Chwefror 2018.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad yma heddiw. Rwy'n trio asesu faint o gydnabyddiaeth sydd yna mewn difrif o'r consyrn sydd wedi cael ei godi yn sgil cyhoeddi'r Papur Gwyn yma. Mae yna ddisgrifiad gennych chi fel Ysgrifennydd Cabinet o ba mor eang fu'r ymatebion, ac mae'n rhaid atgoffa ein hunain cyfnod mor fyr oedd yna i gynnal yr ymgynghoriad yma, dros fisoedd yr haf diwethaf, ac mai camau munud olaf iawn oedd y cyfarfodydd cyhoeddus a'r fforymau casglu barn a gafodd eu cynnal ar draws Cymru. Mae'n bwysig cofio hynny. Ond er bod yna, fel rydych chi'n ei ddweud, dipyn o ymateb wedi dod i mewn, digon arwynebol, efallai, ydy'r hyn yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi heddiw ynglŷn â beth yn union ddaeth allan. Mae'n bosib bod hynny'n anochel mewn datganiad cymharol fyr, ond mae llawer o'r rhai wnaeth ymateb, meddech chi, yn cytuno mewn egwyddor efo'r hyn a oedd yn cael ei gynnig yn y Papur Gwyn ond bod rhai a wnaeth ymateb wedi gofyn am ragor o wybodaeth a manylion. Rydw i'n gwerthfawrogi'r sbin gadarnhaol rydych chi'n ei rhoi ar hynny, ond mae'n rhaid i ni atgoffa ein hunain bod yna gonsyrn dyfn iawn wedi cael ei leisio ynglŷn ag ambell elfen o'r hyn oedd yn y Papur Gwyn.
Mi wnaf i ddechrau efo'r pryder ynglŷn â'r bwriad i gael gwared ar y cynghorau iechyd cymuned. Mi wnaf i wneud y pwynt eto, fel rydw i wedi'i wneud o o'r blaen, nad gofyn am gael cadw y cynghorau iechyd cymuned eu hunain am byth y mae pobl ond gofyn am gadw y function os liciwch chi, cadw'r diben oedd yn cael ei gyflawni ac sy'n cael ei gyflawni, fel llais y bobl.
Rydw i'n gobeithio ei bod hi wedi dod yn glir iawn i chi fel rhan o'r ymgynghoriad yma fod yna deimlad na all yr arolygiaeth iechyd a'r cynghorau iechyd cymuned neu ryw gorff newydd fod yn gwneud yr un gwaith oherwydd diben y corff sy'n cynrychioli y claf ydy mesur ac asesu a gwerthuso y profiad y mae'r claf yn ei gael o fewn y gwasanaeth iechyd ac nid oedd yr hyn yr oedd yn cael ei argymell yn y Papur Gwyn yn mynd i fod yn cyflawni hynny ar ran cleifion yng Nghymru. Felly, mi hoffwn i gadarnhad gennych chi, tra'ch bod chi'n dweud eich bod chi'n mynd i ddatblygu a chymryd cynigion newydd ymlaen ynglŷn â chorff i roi llais i'r cleifion, bod cael gwared ar CHCs neu rywbeth tebyg iddo fo bellach oddi ar y bwrdd, achos mae'r claf yng Nghymru yn haeddu llawer gwell na hynny.
Dau gwestiwn arall. Mae'r datganiad yn dweud bod cefnogaeth wedi cael ei ddatgan y dylai camau cadarn iawn gael eu cymryd yn erbyn y cyrff iechyd sydd yn methu. Beth mae hynny'n ei olygu pan ydym ni'n sôn am sefydliadau sydd eisoes mewn mesurau arbennig? A ydych chi'n sôn am gyflwyno mesurau arbennig iawn neu fesurau arbennig o ryfeddol o arbennig? Rhowch eglurhad i mi ynglŷn â hynny.
Ac, yn olaf, ynglŷn â'r gynrychiolaeth sydd yna ar fyrddau iechyd, a ydych chi fel Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno bod mwy o falans o ddynion a merched ar draws byrddau yn gwbl angenrheidiol a bod yna enghraifft gennym ni bod angen y cydbwysedd yna er mwyn atal penderfyniadau fel cael gwared ar wasanaethau perinatal yn ôl yn 2013 yn digwydd? Rydw i'n meddwl y gallai penderfyniadau fod wedi bod yn wahanol pe bai yna ragor o ferched ar fyrddau ar y pryd. O bosib, gallwn i grybwyll penderfyniadau ynglŷn â gender identity a gwasanaethau felly hefyd, ond mi fyddwn i'n gwerthfawrogi eich sylwadau pellach chi ynglŷn â'r cydbwysedd pwysig yna sydd ar ein byrddau iechyd.