Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 27 Chwefror 2018.
Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Byddaf yn ceisio mynd trwyddyn nhw cyn gynted ag y gallaf i, ond mor uniongyrchol â phosibl.
Ar y safonau cyffredin, rwy'n cydnabod yr hyn a gafodd ei ddweud. Ceir yr argraff yn hanes y gwasanaeth iechyd fod dull meddygol mwy nawddoglyd, yn hytrach na'r model cymdeithasol mwy ymgysylltiol o fewn gofal cymdeithasol, ac yn wir mae'n rhan o'r symudiad o fewn gofal iechyd, beth bynnag, i gael model mwy cymdeithasol i ddeall yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd—gweld yr unigolyn hwnnw yn ei gyd-destun a chanddo lais gwirioneddol. Rwy'n cydnabod, yn y maes gofal cymdeithasol, fod mwy o gynnydd wedi ei wneud o ran rhoi mwy o lais i'r dinesydd a mwy o reolaeth yn y dewisiadau hynny. Dyna pam mewn gwirionedd mae cyd-gynhyrchu mor bwysig o fewn y system gofal iechyd. Mewn gwirionedd, mae'n wirioneddol bwysig i bobl gael barn ddeallus, er mwyn iddyn nhw wneud eu dewisiadau a mynegi'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw. Dyna'r hyn yr ydym yn ceisio ei wireddu wrth ddylunio ein system, yn ogystal â'r ffordd y mae rhyngweithio unigol yn cael ei gynnal.
Gobeithio y bydd hynny hefyd o gymorth yn nhermau'r pwynt am iechyd yn cael ei weld a'i glywed drwy gyfrwng lleisiau eraill, yn enwedig gofal cymdeithasol. Felly, os ydym yn mynd i gael, mewn amrywiaeth eang o bethau, yr arolwg seneddol ac eraill, bydd yn rhaid cael mwy o bartneriaethau dilys, a rhywbeth sydd yn ddibynadwy yn y ffordd y mae iechyd yn ymdrin ag eraill. Os na wnawn ni hynny, yna rydym yn cydnabod y byddwn yn gweld mwy o bwysau yn dod i wasgu ar y system iechyd beth bynnag. Felly, nid dewisiadau cyllideb yn unig yw hyn, ond dyma'r ffordd yr ydym yn trefnu ac yn rhedeg ein system ehangach, a bydd mwy i sôn amdano wrth inni fwrw ymlaen â'r arolwg Seneddol a'r cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal yng Nghymru.
Rwy'n mynd i roi sylw i'ch pwynt am gyrff cenedlaethol. Y corff cenedlaethol ar gyfer llais y dinesydd—mae'n ymwneud â chael corff cenedlaethol cyson, ond un sydd a chanddo ddylanwad ac ymgysylltiad lleol. Nid yw hyn yn golygu gwneud i ffwrdd â'r holl bethau sy'n gweithio mewn cynghorau iechyd cymuned. Rwyf wedi fy rhyfeddu gyda llaw, o'r cychwyn cyntaf, drwy'r ymgynghoriad, gan y ffordd yr ymgysylltodd y cynghorau iechyd cymuned i ddechrau yn hyn o beth a dweud wrthym eu bod yn anfodlon iawn â'r bwrdd cenedlaethol. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd gyda swyddogion, ac yna, yr ymateb terfynol oedd pan wnaethant gydnabod bod rhai pethau y gellid ac y dylid eu newid. Ond maen nhw am gael sicrwydd y bydd gan lais newydd i ddinasyddion ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yr hawl i drefnu ei fusnes o hyd, a rhaid iddo gynnwys—. Wyddoch chi, byddai unrhyw gorff cenedlaethol synhwyrol yn awyddus i gael ffordd o gyfathrebu ac ymgysylltu â'i ddinasyddion yn lleol. Dyna'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl. Nawr, ceir rhywbeth am yr hyn a nodwyd ar wyneb y ddeddfwriaeth, pe byddem yn dod â hynny ymlaen, yr hyn ddylai fod yn yr is-ddeddfwriaeth, yr hyn ddylai fod mewn canllawiau ynghylch sut y dylai'r corff ei drefnu ei hun, lle gallwch fod yn llawer mwy disgrifiadol, a dweud y gwir, nag a ganiateir gan ddeddfwriaeth weithiau. Ond rwy'n cydnabod yr her sydd gan Aelodau ar bob ochr ynghylch gwneud yn siŵr na ddylid colli golwg ar gael presenoldeb lleol i gorff cenedlaethol ar gyfer llais y dinesydd, yn hytrach nag, os mynnwch chi, sefydliad sy'n rheoli o'r brig i lawr, wedi ei leoli ym Mangor, Caerdydd neu Aberystwyth, ac a allai fod yn bell o'r cymunedau lleol.
Ar eich pwynt am uno'r arolygiaethau, roedd y farn yn wirioneddol ranedig. Credai rhai pobl y dylai'r arolygiaethau uno a hynny cyn gynted â phosibl, roedd eraill yn teimlo mai syniad gwael ofnadwy oedd uno oherwydd amrywiaeth o wahanol resymau. Mae rhai yn ystyried ei fod yn ymwneud â natur wasgarog a pha mor eang yw iechyd a gofal cymdeithasol beth bynnag. Mae'r arolygydd safonau gofal, wrth gwrs, yn cyffwrdd â'r blynyddoedd cynnar ac Estyn. Felly, mewn gwirionedd, ceir cysylltiadau rhwng y tair arolygiaeth sydd o bwys hefyd, ac mae cael uwch-arolygydd newydd yn rhywbeth nad yw pawb yn ei ystyried yn beth iawn i'w wneud. Felly, byddwn yn datblygu sut mae cael cydweithio pellach rhwng yr arolygiaethau hynny, ac yn ymdrin â'r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Ond mae'n bosibl, wrth gwrs, y gallai Llywodraeth yn y dyfodol adrodd yn ôl, mewn gwirionedd, ei bod nawr yn amser cymwys i feddwl am gael Arolygiaeth gyfun, nid arolygiaeth sy'n gweithio ar sail fwy ategol.
Ac yn olaf, eich sylw am dderbyn cyfrifoldeb. Rwyf i o'r farn mai'r peth hawsaf yw gofyn i rywun fynd, ac fel Gweinidog mae'n llawer haws cael gwared ar rywun—er bod hynny'n anodd weithiau—na chael rhywun yn ei le wedyn a fyddai'n gwella'r sefyllfa yr ydych yn eich cael eich hunan ynddi. A chredaf fod yna her wirioneddol o ran y diwylliant sydd gennym o fewn iechyd a gofal cymdeithasol ac yn ehangach ledled y gwasanaethau cyhoeddus. Felly, nid ydym yn goddef methiant a dyna ni. Mae atebolrwydd i'w gael, ond yn yr un modd, nid ydym yn symud i'r pegwn eithafol lle mae pobl yn cydnabod mai cyfyng yw eu hamser ac y gallant ddisgwyl i rywun roi llaw ar eu hysgwydd neu ddangos y drws iddyn nhw o fewn cyfnod byr o amser. Clywais Bruce Keogh yn rhoi ei araith wrth ymadael, ac roeddwn yn credu ei bod yn ddiddorol. Hon oedd ei araith ymadael i gynhadledd Cydffederasiwn y GIG yn Lerpwl yr haf diwethaf. Dywedodd 'Mae'n rhaid inni gydnabod bod rhywbeth o'i le yn ein system os yw disgwyliad oes Prif Weithredwr GIG yn ein system—Lloegr—yn llai na dwyflwydd a hanner'. Nid yw dwyflwydd a hanner yn gyfnod maith i Brif Weithredwr mewn sefydliad mawr a chymhleth i ddod i'w ddeall, a chael trefn ar yr heriau, a gallu gwneud y newidiadau gwirioneddol a pharhaol. Nawr, dyna un pen i'n sbectrwm. Mae angen inni feddwl am yr hyn sy'n briodol yma, faint o oddefgarwch sydd gennym, ein gallu i gael pobl gwahanol a gwell os gwnawn gydnabod y broblem sy'n bodoli, a hefyd sut rydym yn gweithio i gefnogi sefydliadau sy'n mynd trwy anawsterau. Felly, rwy'n dymuno gweld dull gweithredu cyflawn—un sydd â dylanwad ac atebolrwydd gwirioneddol oddi mewn iddo.